Symud ymlusgiaid sydd wedi atal adeiladu ysgol Gymraeg ers dwy flynedd

madfall Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae madfallod yn rhoi genedigaeth i rai ifanc byw yn hytrach na dodwy wyau

GanAlun Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae ymlusgiaid (reptiles) sydd wedi gohirio adeiladu ysgol Gymraeg am o leiaf dwy flynedd nawr yn cael eu symud.

Mae ymholiadau gan BBC Cymru wedi datgelu mai madfallod (common lizards) a nadroedd defaid (slow worms) yw'r creaduriaid gwaed oer sydd wedi atal y peiriannau cloddio.

Roedd Ysgol Gymraeg Bro Ogwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr i fod i symud i leoliad newydd gerllaw ym mis Medi 2025, ond fe wnaeth y cyngor ohirio'r dyddiad agor i fis Medi 2027.

Bydd y dyddiad hwnnw "yn cael ei adolygu wrth i'r cynllun fynd rhagddo yn unol â gweithdrefnau arferol", meddai llefarydd.

Roedd disgwyl i'r ymlusgiaid gael eu symud i gartref newydd yr haf diwethaf ond mae'r cyngor yn dweud bod y "trawsleoliad yn digwydd ar hyn o bryd".

Mae gan nadroedd defaid statws gwarchodedig yn y DUFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan nadroedd defaid statws gwarchodedig yn y DU

Dywedodd llefarydd y cyngor mai symud ymlusgiaid yw'r "dewis olaf" a bod yr oedi wedi caniatáu amser i ailystyried y cynllun er mwyn cadw nifer yr ymlusgiaid y mae angen eu hadleoli i'r lleiafswm.

Mae gwaith wedi ei wneud i baratoi cartref newydd y creaduriaid, mewn lleoliad anhysbys yn rhywle yn nyffryn Ogwr a elwir yn "safle derbyn", gan gynnwys adeiladu hibernacula - lloches amddiffynnol i'r trigolion newydd.

Mae rheolau llym ar symud ymlusgiaid, a gall oedi gael ei achosi gan ffactorau fel amodau tywydd a newidiadau tymheredd.

Ffordd CadfanFfynhonnell y llun, Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad o’r llun,

Y cae hwn, yn Ffordd Cadfan, fydd cartref yr ysgol newydd, unwaith y bydd y trigolion gwaed oer presennol yn hapus yn eu cartref newydd

Amcangyfrifwyd yn wreiddiol y byddai symud yr ysgol i safle mwy yn costio tua £18.6m, gyda 525 o leoedd ar gyfer plant rhwng pedair ac 11 oed a meithrinfa gyda 90 o leoedd.

Nid oes amcangyfrif newydd o unrhyw gynnydd mewn costau o ganlyniad i'r oedi wedi'i gyhoeddi.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr wrth y BBC: "Mae'r cynlluniau moderneiddio ysgolion ar gyfer Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn parhau i wneud cynnydd ac, yn dilyn darganfod nadroedd defaid a madfallod ar y safle newydd, mae lleoliad arall addas wedi'i nodi ac mae trawsleoli ymlusgiaid yn digwydd ar hyn o bryd yn unol â rheoliadau ecolegol.

"I gefnogi'r gwaith o ehangu niferoedd disgyblion cyn agor yr ysgol newydd, mae dwy ystafell ddosbarth dros dro newydd wedi'u gosod ar safle'r ysgol bresennol, ac mae'r prosiect hefyd wedi sicrhau cyllid grant o £1.1m gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o ddarparu cyfleuster gofal plant cyfrwng Cymraeg wedi'i gydleoli fel rhan o ddatblygiad ehangach yr ysgol newydd.

"Mae arolwg diweddar gan Estyn o wasanaethau addysg y cyngor wedi canmol ein rhaglen moderneiddio ysgolion am ei haliniad â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg."

Ysgol Gymraeg Bro Ogwr Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae dwy ystafell ddosbarth dros dro wedi'u gosod ar safle presennol Ysgol Gymraeg Bro Ogwr

Ydy madfallod yn gyffredin?

Nid yw'r fadfall yn brin nac mewn perygl ym Mhrydain ar hyn o bryd, ond credir bod eu niferoedd yn lleihau oherwydd colli cynefin.

Maent hefyd yn anarferol ymhlith ymlusgiaid Prydain gan eu bod yn rhoi genedigaeth i rai byw yn hytrach na dodwy wyau.

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, maent yn mesur rhwng 10cm (3.9 modfedd) a 15cm (5.9 modfedd) ac mae ganddynt hyd oes cyfartalog o bump i chwe blynedd.

Mae gan nadroedd defaid statws gwarchodedig yn y DU ac, o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, mae'n anghyfreithlon eu lladd neu eu hanafu'n fwriadol.

O blith y chwe rhywogaeth frodorol o ymlusgiaid yn y DU, mae pedair yn bresennol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, dolen allanol. Y ddwy arall yw neidr y gwair a gwiber neu wiber Ewropeaidd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.