Croesawu profion i adnabod cŵn gan fod ymosodiadau ar dda byw yn 'torri calon'

"'Da ni wedi cael dipyn o gŵn yn ymosod ar y defaid ac i ddweud y gwir mae'n broblem enfawr yma," meddai Daniel Jones
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwr o ogledd Cymru wedi croesawu'r defnydd o brofion DNA i helpu'r heddlu ymchwilio i ymosodiadau gan gŵn ar stoc.
Ym mis Mawrth daeth newidiadau i'r gyfraith sy'n golygu bod hawl gan yr heddlu i gymryd samplau DNA gan gŵn sydd o dan amheuaeth o ymosod ar anifeiliaid.
O dan y ddeddf newydd, gall swyddogion roi dirwyon di-derfyn i berchnogion cŵn sy'n ymosod ar anifeiliaid, cynnal profion DNA, a chadw cŵn am gyfnod amhenodol.
Y gobaith yw y bydd yn helpu i adnabod y cŵn sy'n gyfrifol, a dwyn mwy o berchnogion y cŵn hynny gerbron y llysoedd.
Yn ôl Daniel Jones, sy'n ffermio ar y Gogarth ger Llandudno, mae ymosodiadau gan gŵn yn broblem barhaus ac yn "torri calon" ffermwyr.
"'Da ni wedi cael dipyn o gŵn yn ymosod ar y defaid ac i ddweud y gwir mae'n broblem enfawr yma," meddai.
"Mae o'n effeithio'r system ffermio o ddydd i ddydd.
"Mae'r defaid yn gorfod mynd drwy lot hefo cael eu hymosod gan gŵn, ond hefyd mae'n cael effaith ofnadwy ar y ffermwyr.
"'Da ni'n trio edrych ar ôl y defaid y gorau medran ni, ond pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd mae o'n torri calon rhywun i ddweud y gwir."
'Mae'n anfon neges'
Mae cwmni yswiriant NFU Mutual yn amcangyfrif bod gwerth dros £350,000 o anifeiliaid fferm wedi'u lladd neu eu hanafu'n ddifrifol gan gŵn yng Nghymru y llynedd.
Mae'r heddlu hefyd yn amcangyfrif bod tua 300 o ymosodiadau wedi digwydd dros yr un cyfnod.
Dywedodd Rob Taylor, Cydlynydd Bywyd Gwyllt a Throseddau Gwledig Cymru, bod y pwerau newydd yn arbennig o ddefnyddiol mewn achosion lle mae perchnogion yn gwadu mai eu ci nhw oedd yn gyfrifol.

Yn ôl Ian Nicholls mae'r profion hefyd yn "anfon neges fod gan yr heddlu ffyrdd newydd o ymchwilio i'r troseddau hyn"
"Yn y rhan fwyaf o achosion mae perchnogion yn cydweithio, yn ymddiheuro ac yn talu iawndal i'r ffermwr," meddai.
"Ond mae'r gallu i gymryd sampl DNA yn hynod ddefnyddiol mewn achosion lle mae perchennog yn honni mai nad ei gi o neu hi oedd ar fai."
Dywedodd PC Ian Nicholls o dîm troseddau gwledig Heddlu Gogledd Cymru, bod ymosodiadau o'r fath yn rhan sylweddol o waith y tîm.
"Maen nhw'n digwydd yn gyson," meddai.
"Mae'r profion DNA yn ein helpu ni i adnabod cŵn, ac maen nhw hefyd yn anfon neges fod gan yr heddlu ffyrdd newydd o ymchwilio i'r troseddau hyn."

Mae'r heddlu wedi bod yn rhoi pecynnau i ffermwyr eu profi fel rhan o ymchwil newydd
Mae ffermwyr ledled Cymru hefyd wedi cael pecynnau samplu fel rhan o brosiect ymchwil newydd.
Bydd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Liverpool John Moores wedyn yn dadansoddi'r samplau er mwyn canfod y ffordd orau o gasglu tystiolaeth DNA ar ôl ymosodiad.
Yn ôl ar ben y Gogarth, dywedodd Daniel Jones ei fod yn croesawu'r datblygiad, ond pwysleisiodd mai atal yr ymosodiadau yn y lle cyntaf ydy'r flaenoriaeth o hyd.
"Mae'r pethau newydd sydd wedi dod i mewn hefo testio DNA yn gam positif iawn, mae'n gam yn y ffordd gywir," meddai.
"Ond be' da ni isio ydy i bobl barchu cefn gwlad.
"'Da ni isio fo stopio cyn iddo fo ddigwydd, i ddweud y gwir."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2021

- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2024
