Gwagio tai wrth i griwiau ddelio â thân sied mawr yn Nhreharris

Roedd mwg yn yr ardal am gyfnod wedi i'r fflamau gilio
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi yn Sir Merthyr Tudful wrth i'r gwasanaethau brys ymateb i dân "mawr" mewn sied yn Nhreharris.
Bu'n rhaid cludo trigolion i neuadd gymunedol leol yn dilyn y digwyddiad yn Heol Fictoria tua 15:20 brynhawn Sul.
Bu'n rhaid cau dwy stryd arall ar gau - Heol Mary a Heol Thomas - ac fe gafodd trigolion lleol gyngor i gadw drysau a ffenestri ar gau.
Fe gadarnhaodd yr heddlu yn gynnar nos Sul bod y tân wedi ei ddiffodd, bod trigolion yn cael dychwelyd adref a bod neb wedi cael anaf difrifol.
Ychwanegodd nad oedd yr achos yn cael ei drin fel un amheus.
Yn gynharach roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn rhybuddio bod "plu mawr o fwg i'w gweld yn yr ardal", gan gynghori pobl i osgoi'r ardal "i adael i'r gwasanaethau brys weithio'n ddiogel a chadw lonydd yn glir".
Cafodd criwiau tân eu hanfon yno o Aberbargoed, Pontypridd, Merthyr Tudful, Caerffili a Maendy, ynghyd â thri thanc dŵr.
'Eitha' brawychus'
Dywedodd Andrea Parfitt, sy'n byw yn Heol Thomas dros y ffordd i safle'r tân, mai'r cyntaf y gwyddai bod yna dân oedd pan ogleuodd fwg a chau ei ffenestri.
"Mae yna lot o fwg ac roedd yna lot o fflamau," dywedodd.
"Mae'r fflamau wedi cilio ac mae'n edrych fel bod y brigâd dân bellach wedi gallu mynd i'r adeilad.
"Neuadd Ambiwlans San Iawn oedd yr adeilad - mae'n cael ei ddefnyddio fel storfa nawr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Fictoria, Treharris ganol prynhawn Sul
"Mae rhai o'r cymdogion wedi gadael eu cartrefi. Mae yna lot o fwg o hyd yn y stryd.
"Roedd yn eitha' brawychus - ro'n i rhwng dau feddwl gadael trwy fy nrws cefn.
"Ddois i adref o dŷ Mam ac ro'n i'n gallu ogleuo mwg a gweld y fflamau.
"Dydw i ddim yn ymwybodol os yw e wedi effeithio ar unrhyw dai ond mae'r holl erddi yn cefnu ar ei gilydd."
Dywedodd cynghorydd lleol, Gareth Richards, bod tri o drigolion lleol yn y neuadd gymunedol, sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan aelodau'r gwasanaethau brys.
Digwyddiad 'damweiniol'
Mewn datganiad yn gynnar nos Sul, dywedodd yr heddlu bod y tân "bellach wedi ei diffodd, gyda chriwiau'n delio gyda'r marwor sydd ar ôl".
"Does dim cred o risg i'r dai a gafodd eu gwagio. Dydy'r digwyddiad ddim yn cael ei drin fel un amheus a'r gred yw ei fod yn un ddamweiniol."
Mae disgwyl, meddai, i fwyafrif y cerbydau brys "adael yn fuan" a bod "trigolion yn dychwelyd adref" ond bod mân drafferthion yn bosib yn Heol Thomas "tra bod gwaith yn cael ei gwblhau".
"Mae canolfan orffwys yn dal ar agor yng Nghanolfan Gymunedol Treharris i'r rheiny sydd wedi eu heffeithio.
"Does dim adroddiadau o unrhyw anafiadau difrifol, gydag un person yn cael triniaeth ar y safle at anadlu mwg.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.