Clwb Rygbi Caernarfon yn ennill gwobr Cegin Rygbi'r Flwyddyn

- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Rygbi Caernarfon wedi ennill gwobr Cegin Rygbi'r Flwyddyn y Deyrnas Unedig ar ôl curo cannoedd o glybiau eraill i gyrraedd y brig.
Roedd y panel a luniodd y rhestr fer yn cynnwys cymysgedd o gogyddion enwog a sêr rygbi ac yn eu plith roedd Marco Pierre White a Nathan Outlaw.
Ond y cogydd byd-enwog a chyn-chwaraewr rygbi o Ffrainc, Pierre Koffmann, gafodd y bleidlais derfynol.
Dywedodd Keith Parry, sy'n 84 oed ac sy'n arwain y gegin fod y newyddion wedi dod fel "sioc" ond ei fod yn "ffantastig" - yn enwedig y cyflenwad blwyddyn o sglodion Koffmann sy'n rhan o'r wobr!
'Sioc i ni hefyd!'
Mae'r gegin yn brysur iawn ar benwythnosau, gyda'r clwb yn bwydo tua 50 o chwaraewyr ieuenctid ar nos Wener a channoedd o blant a phobl ifanc dros y penwythnos, yn ôl Keith Parry.
"Mae 'na gymaint yn mynd ymlaen yma ar y penwythnos," meddai.
Mae Keith wedi gwirfoddoli gyda'r clwb ers mwy na 50 mlynedd ac mae'n arwain y gegin gyda thîm o wirfoddolwyr.
Dywedodd ar raglen Dros Frecwast fod tua 50 o chwaraewyr ieuenctid i'w bwydo ar nos Wener, cyn i'r 'minis' chwarae fore Sul gyda rhyw 130 neu 140 ohonyn nhw'n bresennol.
Ychwanegodd fod tua 130 o chwaraewyr ifanc eraill yn chwarae yn y prynhawn, mewn sesiynau ar gyfer merched y mae'r clwb yn eu galw'n 'fôr ladron'.
Mae'r fwydlen fel arfer yn cynnwys "pitsas, hot dogs a sglodion, jacket potato efo beans a chaws", yn ogystal â phrydau fel "pasta bake, chilli con carne a bolognese."
"Rhywbeth 'da ni'n gallu neud mewn bulk 'de," meddai.
Ychwanegodd nad oedd y clwb yn gwybod pwy oedd wedi'i enwebu ar gyfer y wobr.
"Doedden ni ddim yn gwybod pwy sy' 'di rhoi ni 'mlaen amdano fo, doedd gynnon ni ddim cliw, so roedd o'n sioc i ni hefyd!"
Mae'r wobr hefyd yn cynnwys cyflenwad o offer rygbi gan Rhino Rugby.

Mae Keith Parry ac Ann Hopcyn yn rhan o'r tîm sy'n bwydo cannoedd o chwaraewyr yn y clwb bob penwythnos
Dywedodd fod Ann Hopcyn yn ei gynorthwyo fwyaf yn y gegin, ond bod llawer o bobl eraill hefyd yn helpu ac yn gwirfoddoli, yn enwedig rhieni ar fore Sul.
"Bob tro 'da ni angen help ma' rhywun yn dod ymlaen, ond fel arfer yr un rhai 'de," meddai.
Dywedodd fod y wobr o sglodion am flwyddyn yn arbennig o werthfawr, gan fod y clwb yn "mynd trwy ryw 15 i 25 o fagiau o sglodion bob penwythnos.
Ar ôl clywed y byddan nhw'n cael cyflenwad blwyddyn o sglodion yn rhan o'r wobr "o'n i'n meddwl agor siop chips" meddai Keith cyn ychwanegu y byddai'n help enfawr ac yn newyddion "ffantastig".

Mae Keith Parry, ar y dde, wedi bod yn rhan o Glwb Rygbi Caernarfon ers mwy na 50 mlynedd
Ond mae ei waith yng Nghlwb Rygbi Caernarfon yn ymestyn y tu hwnt i'r gegin.
Dywedodd Keith ei fod wedi bod yn stiward yn y clwb am flynyddoedd ac wedi marcio'r caeau, ac mae'n dal i "helpu gydag unrhyw beth sydd angen ei wneud."
Dywedodd fod ganddo lawer o atgofion o'r clwb dros y blynyddoedd, a'i fod wedi gweld sawl cenhedlaeth yn tyfu ac yn dod yn rhan o'r gwaith o redeg y clwb.
"Ma' 'na griw da wedi bod yma erioed ac mae hynny'n help mawr," meddai.
"Mae rhai o'r hogia' oedd yn fy helpu i yn yr ysgol ac maen nhw 'wan yn rhedeg y clwb - ni 'di gweld nhw'n tyfu ar hyd y cenedlaethau."
Dywedodd Pierre Koffmann fod "rhedeg cegin rygbi yn 84 oed yn anhygoel", gan ychwanegu bod Keith a Chlwb Rygbi Caernarfon yn enillwyr teilwng.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.