'Siom' pentrefwyr ar ôl i gyngor gymeradwyo safle storio ynni batri

Parc batris
Disgrifiad o’r llun,

Safle batri tebyg i'r un yma ydy cynllun y cwmni

GanDafydd Evans
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae pobl yn ardal Wrecsam yn dweud eu bod wedi'u "siomi" gan y cyngor lleol ar ôl i gynlluniau ar gyfer safle storio ynni batri gael eu cymeradwyo.

Mae'r datblygwyr, Innova, wedi ennill eu hapêl ar gyfer cyfleuster storio ynni 400MW ger pentref Rhostyllen.

Ond mae ymgyrchwyr yn honni bod swyddogion y cyngor wedi methu â'u cynrychioli'n briodol yn y gwrandawiad o flaen yr arolygiaeth gynllunio.

Mae Cyngor Sir Wrecsam yn dweud eu bod wedi cyflwyno achos mor gadarn â phosibl, ond y bydd yn rhaid iddynt dalu rhai o gostau cyfreithiol y datblygwyr rŵan.

Ymgyrchwyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr yn dweud eu bod "wedi cael ein gadael i lawr"

Mae safleoedd storio ynni batri yn cael eu hystyried yn rhan bwysig o leihau allyriadau carbon drwy storio ynni o ffynonellau adnewyddadwy a'i ryddhau i'r grid pan fo angen.

Mae'r datblygwyr yn dweud y gallai prosiect Legacy ESS, sy'n ymestyn dros 5.5 hectar ger yr A483, gyflenwi ynni i 900,000 o gartrefi, ond mae ymgyrchwyr lleol yn gwrthwynebu'r cynlluniau.

Mae eu pryderon yn cynnwys defnyddio tir amaethyddol, diogelwch rhag tân, cymeriad yr ardal a bioamrywiaeth.

Maent yn honni na chafodd y materion hyn eu cyflwyno'n briodol i'r arolygydd fis diwethaf.

"'Dan ni wedi cael ein gadael i lawr yn sicr," meddai Kevin Williams, sydd wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn y cynlluniau ers 2023.

"Ti wastad yn trio meddwl y gorau o rywun, ond pan ti'n edrych ar yr achos a be' sydd wedi digwydd, yn amlwg dydy'r cyngor ddim wedi gwneud eu gwaith yn y ffordd gywir."

"'Dyn nhw ddim wedi cwestiynu unrhyw un o ddadleuon y cwmni."

Safle posib
Disgrifiad o’r llun,

Honiad y datblygwr yw y gallai'r safle gyflenwi 900,000 o gartrefi

Aeth y datblygwyr â'u hachos i adran Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) y llywodraeth, ar ôl i'r cyngor fethu ag ystyried y cais o fewn yr amser gofynnol.

Yna, penderfynodd pwyllgor cynllunio'r cyngor y dylai'r awdurdod lleol wrthwynebu'r cynlluniau yn y gwrandawiad ym mis Gorffennaf.

"Mae fel bod nhw wedi eistedd ar eu dwylo a 'dan ni ddim yn deall yn iawn pam," meddai Mr Williams.

"Y teimlad ymysg y grŵp ymgyrchu ydy un blin iawn."

Dywedodd Cyngor Sir Wrecsam y bydd yn rhaid iddynt dalu costau cyfreithiol y datblygwyr rŵan.

"Mae penderfyniad ynghylch y materion i'w trafod mewn gwrandawiad cynllunio yn un sy'n gorwedd gyda'r arolygydd a gafodd ei benodi," meddai'r cyngor mewn datganiad.

"Cafodd y cyngor eu cynrychioli yn yr apêl gan swyddog uwch, a gyflwynodd ei achos fel yr amlinellwyd yn y datganiad achos."

Aeth y datganiad ymlaen i ddweud "ar ôl ystyried yr achosion a gyflwynwyd gan yr apelyddion a'r cyngor, yn ogystal â sylwadau gan y gymuned leol, daeth yr arolygydd i'r casgliad y dylid caniatáu'r apêl".

"Mae siom y gymuned leol ynghylch canlyniad yr apêl yn ddealladwy.

"Fodd bynnag, cyflwynodd y cyngor achos mor gadarn â phosibl i egluro'r rhesymau dros benderfyniad y pwyllgor cynllunio.

"Nid ydym wedi derbyn anfoneb eto gan y datblygwyr ar gyfer y costau sy'n ymwneud â'r materion lle daeth yr arolygydd i'r casgliad bod y cyngor wedi gweithredu'n afresymol."

Dywedodd llefarydd ar ran y datblygwr Innova fod y cwmni'n falch bod PEDW wedi caniatáu'r apêl ar gyfer ei brosiect storio ynni yn Ffordd Bronwylfa.

"Byddwn nawr yn gweithio gyda'r cyngor i fodloni'r amodau cyn dechrau sy'n gysylltiedig â phenderfyniad yr arolygydd, ac yn darparu rhagor o wybodaeth i'r gymuned leol wrth i'r prosiect symud ymlaen tuag at y cam adeiladu."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig