Dylai Andy Burnham gefnogi ailymuno â'r UE, medd Liz Saville Roberts

Dywedodd Liz Saville Roberts y byddai hi'n "croesawu'n fawr" os y byddai Andy Burnham gefnogi ailymuno hefo'r UE
- Cyhoeddwyd
Mae Liz Saville Roberts wedi dweud y byddai hi'n croesawu unrhyw ymrwymiad gan Andy Burnham i ail-ymuno gyda'r Undeb Ewropeaidd (UE).
Honna'r AS dros Blaid Cymru yn San Steffan y byddai Cymru mewn sefyllfa well yn y bloc economaidd a gwleidyddol hwnnw.
Mi bleidleisiodd Cymru i adael yr UE yn refferendwm Brexit yn 2016, yn unol â chanlyniad y Deyrnas Unedig (DU). Mi adawodd y DU yr undeb yn 2020.
Ddiwedd mis Medi, dywedodd Andy Burnham na fyddai refferendwm "y peth iawn i wneud rŵan", ond bod angen i'r DU ystyried yr opsiynau i'r berthynas.
"Dydi'r man lle'r ydyn ni ddim yn ddigon da," meddai Prif Weinidog y DU.
Roedd Plaid Cymru yn rhan o'r ymgyrch i aros yn yr UE yn 2016 a dywedodd Ms Saville Roberts wrth BBC Cymru ei bod hi'n "credu'n gryf mai dim ond colli allan y mae Cymru wedi gwneud ers hynny".

Mi adawodd y DU yr UE yn 2020
"Rydyn ni wedi colli allan o ran cyllid, ac rydym wedi colli allan o ran pŵer," meddai Ms Saville Roberts.
"I genhedloedd bach fel Cymru, mae'n well i ni fod yn aelodau o undeb fwy, fel yr UE."
Galwodd hi ar Mr Burnham i ddangos "arweinyddiaeth" ar y mater.
"Un o'r pethau sy'n dechrau fy siomi ychydig yn achos Andy Burnham yw bod cymaint o'r hyn sy'n cael ei alw'n 'on the never never' - mae'n cael ei wthio ymlaen dair blynedd, os mai dyna pryd y mae'n dweud y bydd yr etholiad cyffredinol nesaf yn cael ei gynnal."
'Mater mor fawr'
Pan gafodd Liz Saville Roberts ei holi os ydy hi eisiau i Andy Burnham gefnogi ailymuno hefo'r undeb, dywedodd y byddai hi'n "croesawu'n fawr pe bai o'n dweud hynny".
"Mae aros am dair blynedd ar fater mor fawr â hyn bron fel ei fod yn ceisio cadw ei opsiynau'n agored ("hedging his bets").
"Mae angen arweinyddiaeth a mwy o eglurder arnyn ni ynghylch y mater yma... Mae angen i'r neges wleidyddol fod yn glir o ran pam y bydden ni mewn gwell sefyllfa."
Dywedodd hi fod angen trafod yr amodau ar gyfer ailymuno "oherwydd fel arall, gall tybiaethau'r ("suppositions") rhai sy'n gwrthwynebu hyn lenwi'r gwagle sy'n cael ei adael gan ddiffyg arweinyddiaeth".
Ychwanegodd arweinydd y blaid yn San Steffan nad ei swydd hi yno yw "dyfalu beth mae Llafur yn mynd i'w wneud".
Mae Plaid Cymru yn cynnal eu cynhadledd gyntaf ers ennill etholiad y Senedd ym mis Mai a ffurfio eu llywodraeth Gymreig gyntaf erioed.
Mewn araith ddydd Sadwrn, mae disgwyl i Liz Saville Roberts ddweud nad oes gan y blaid "ofn bod yn feiddgar" wrth ymgyrchu i fod yn rhan o'r undeb.

Cyhoeddodd Adam Price darged o greu 500 o gwmnïau twf uchel yng Nghymru dros y degawd nesaf
Ar wahân i hynny, mae llywodraeth Plaid Cymru yn anelu at greu'r amodau economaidd i gwmni Cymreig newydd ymuno â mynegai FTSE 100 o fewn deng mlynedd.
Mae FTSE 100 yn cynnwys y 100 cwmni mwyaf yn y DU sy'n masnachu eu cyfranddaliadau'n gyhoeddus.
Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Adam Price, darged o greu "500 o gwmnïau twf uchel" dros y degawd nesaf, wrth annerch cynhadledd y blaid yn Llandudno ddydd Sadwrn.
Amlinellodd hefyd raglen newydd, Sbardun, a fydd yn helpu busnesau Cymreig i dyfu, gyda 20 cwmni i gymryd rhan yn y garfan gyntaf a chefnogaeth gan Fanc Datblygu Cymru.
Dim ond un cwmni sydd â'i bencadlys yng Nghymru ar restr FTSE 100 ar hyn o bryd, sef y cwmni yswiriant Admiral.
'Cynllun dwys dwy flynedd'
Ddydd Gwener, amlinellodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, ei ofynion i'r Prif Weinidog Andy Burnham dros drosglwyddo mwy o bwerau i Gaerdydd.
Cyflwynodd Mr Price, a arweiniodd Blaid Cymru cyn Mr ap Iorwerth, raglen Sbardun fel "cynllun dwys dwy flynedd" i helpu busnesau Cymreig cychwynnol i dyfu'n "gwmnïau canolig eu maint".
Bydd y rhaglen yn dechrau gyda 20 o gwmnïau, gyda chymorth buddsoddi gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae Anna Brychan AS wedi addo adfer "enw da rhyngwladol Cymru am ragoriaeth mewn addysg ac ailadeiladu ymdeimlad o falchder"
Mae Plaid Cymru yn diffinio cwmnïau twf uchel fel rhai sy'n "profi cynnydd cyflym mewn refeniw a chyflogaeth".
Dywedodd Mr Price y gallai cyflawni'r targed o 500 o gwmnïau "greu'r amodau i gwmni ychwanegol o Gymru ymuno â FTSE 100".
"Dylai fod yn uchelgais gennym i weld mwy o gwmnïau Cymreig yn llwyddo, yn tyfu ac yn cystadlu ar lwyfan y byd," meddai.
Ychwanegodd fod maint cwmnïau'n bwysig, ond mai "cyfrwng yw twf yn hytrach na'r nod terfynol", sef creu swyddi da ym mhob rhan o Gymru.
Dywedodd "nad nifer y cwmnïau sy'n cyrraedd brig y byd busnes yw'r unig fesur o lwyddiant", ond "a yw pobl ym mhob rhan o Gymru'n gallu adeiladu bywyd da drwy waith da".
Ychwanegodd mai'r uchelgais yw creu economi ddigon eang a chadarn, sydd â'i gwreiddiau yng Nghymru, i gynnig cyfleoedd i bawb dros genedlaethau'r dyfodol.
Rhun ap Iorwerth yn galw am 'fargen newydd' i Gymru gyda Llywodraeth y DU
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth yn mynnu 'bargen newydd' i Gymru
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Asiantaeth Ddatblygu Cymru 'yn barod ar ryw lun erbyn haf nesaf'
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Fe wnaeth y Gweinidog Addysg, Anna Brychan, addo "bwrdd cyflawni" newydd yn y gynhadledd ddydd Sadwrn, i helpu i godi safonau mewn ysgolion.
"Rydyn ni wedi etifeddu system addysg sy'n brin o eglurder, cydlyniad ac ymdeimlad sicr o gyfeiriad ac arweinyddiaeth."
Addawodd Ms Brychan adfer "enw da rhyngwladol Cymru am ragoriaeth mewn addysg ac ailadeiladu ymdeimlad o falchder".
Mi wnaeth y blaid ethol cadeirydd newydd hefyd, sef cyn-brif weithredwr Plaid Cymru, Karl Davies.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.