Y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth yn mynnu 'bargen newydd' i Gymru

Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Dylai Cymru allu elwa o'r un grymoedd cyfansoddiadol a chyllidol sydd eisoes ar gael yn yr Alban" meddai Rhun ap Iorwerth

GanCemlyn Davies
Gohebydd gwleidyddol
  • Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru ac arweinydd Plaid Cymru wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU yn gofyn am "fargen newydd i Gymru" cyn ei araith gyntaf yng nghynhadledd ei blaid ers dod i rym.

Yn ei lythyr at Andy Burnham, a anfonwyd ddydd Iau ac a welwyd gan BBC Cymru, mae Rhun ap Iorwerth yn galw am drosglwyddo mwy o bwerau i Gaerdydd.

Dywedodd Mr Burnham yn flaenorol y byddai'n rhoi "gwrandawiad teg" i unrhyw beth sy'n cael ei gyflwyno iddo gan brif weinidog Cymru.

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth y DU eu bod wedi "ymroi i adeiladu Cymru decach a chryfach, a hynny fel rhan o Deyrnas Unedig decach a chryfach".

Bydd Mr ap Iorwerth yn annerch aelodau'r blaid yn Llandudno ddydd Gwener, pum mis ar ôl llwyddiant hanesyddol y blaid yn etholiad y Senedd ym mis Mai.

Yn sgil y canlyniad, enillodd y blaid rym am y tro cyntaf, gan ddod â chyfnod o 27 mlynedd o lywodraethu gan Lafur – ers dechrau datganoli ym 1999 – i ben.

Fodd bynnag, heb fwyafrif o'r seddi ym Mae Caerdydd, mae Mr ap Iorwerth yn arwain gweinyddiaeth leiafrifol sy'n gorfod cydweithio ag Aelodau o'r Senedd o bleidiau eraill i basio deddfau a chyllidebau.

Collodd y llywodraeth bleidlais allweddol ar ei chynlluniau gwario ym mis Gorffennaf.

Prif weinidog Gogledd Iwerddon Michelle O'Neill, llywydd Sinn Féin Mary Lou McDonald, prif weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth a phrif weinidog yr Alban John Swinney Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Prif weinidog Gogledd Iwerddon Michelle O'Neill, llywydd Sinn Féin Mary Lou McDonald, prif weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth a phrif weinidog yr Alban John Swinney ym Mae Caerdydd fis diwethaf

Yn y llythyr at Mr Burnham, dywed ap Iorwerth: "Yn etholiad diweddar y Senedd rhoddodd bobl Cymru fandad clir o blaid newid cadarnhaol sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i'w bywydau.

"Mae'r mandad hwn yn cynnwys ymestyn datganoli i alluogi'r Senedd a Llywodraeth Cymru i gael y grymoedd angenrheidiol - pwerau, cyllid a hyblygrwydd ariannol - i yrru'r cynnydd mwyaf posibl mewn canlyniadau i bobl Cymru drwy integreiddio a gwella gwasanaethau cyhoeddus a thyfu'r economi.

"Fel egwyddor sylfaenol i gefnogi'r diwygiadau hyn, dylai Cymru allu elwa o'r un grymoedd cyfansoddiadol a chyllidol sydd eisoes ar gael yn yr Alban."

Daw sylwadau Mr ap Iorwerth ar ôl iddo groesawu prif weinidogion cenedlaetholgar yr Alban a Gogledd Iwerddon i Gaerdydd fis diwethaf, a datgan ar y cyd fod "amser San Steffan yn dod i ben".

Yn ei lythyr 2,000 o eiriau at Mr Burnham, mae Rhun ap Iorwerth yn cyflwyno dadl fanwl dros drosglwyddo pwerau i Gymru o ran plismona a chyfiawnder, seilwaith rheilffyrdd, ac Ystâd y Goron.

Mae hefyd yn galw am "drefniadau ariannu sy'n deg, yn seiliedig ar anghenion ac yn adlewyrchu realiti demograffig ac economaidd Cymru".

Mae'n ychwanegu y dylai "trefniant cyfansoddiadol Cymru barhau i esblygu er mwyn gwella atebolrwydd democrataidd, hybu twf, cryfhau gwasanaethau cyhoeddus a sicrhau canlyniadau gwell i'n cymunedau".

Llywodraeth y DU am 'adeiladu Cymru decach a chryfach'

Mae disgwyl i Mr ap Iorwerth gyfarfod â Mr Burnham, ynghyd â phrif weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon, ddiwedd y mis.

Mae Burnham wedi dweud yn flaenorol ei fod yn "agored" i'r syniad o roi rheolaeth dros blismona i Lywodraeth Cymru.

Mewn ymateb i sylwadau diweddaraf Mr ap Iorwerth, dywedodd Llywodraeth y DU: "Rydyn ni wedi ymroi i sbarduno newid gwirioneddol ym mywydau pobl Cymru.

"Dyna pam yr ydyn ni'n mynd ati i gael gwared â TAW o filiau trydan ac yn dileu'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau i helpu 69,000 o blant.

"Mae'r llywodraeth yma wedi ymroi i adeiladu Cymru decach a chryfach, a hynny fel rhan o Deyrnas Unedig decach a chryfach.

"Mae'n ffocws ni ar weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn grymuso arweinwyr lleol a chymunedau fel bod modd iddyn nhw greu twf a swyddi ym mhob cod post."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.