Carcharu cyn-dditectif am rannu gwybodaeth gyfrinachol gyda ffrind

Fe ymunodd Gardner (chwith) â'r heddlu yn 2000 gan dreulio cyfnodau gyda sawl adran gan gynnwys yr uned amddiffyn pobl fregus
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-dditectif wedi cael ei charcharu am rannu gwybodaeth gyfrinachol yr heddlu gyda ffrind.
Fe wnaeth Emma Gardner, 47 oed o Fae Colwyn, Sir Conwy, rannu gwybodaeth gyda dyn yr oedd hi'n ei adnabod yn ogystal â chael mynediad - heb ganiatâd - at ddogfennau cyfrinachol yn ymwneud â fo a thri o bobl eraill.
Rhwng 19 Ionawr 2022 a 23 Medi 2022 fe edrychodd Gardner ar y dogfennau dan sylw 47 o weithiau - a hynny heb awdurdod.
Roedd y cyn-dditectif arolygydd gyda Heddlu'r Gogledd wedi gwadu'r cyhuddiadau yn ei herbyn, ond cafodd ei dyfarnu'n euog gan reithgor yn Llys y Goron Caernarfon ym mis Gorffennaf.
Clywodd y llys fod Gardner yn ffrindiau gyda'r dyn ac wedi cael rhyw gyda fo ar ddau achlysur. Roedd y wybodaeth gafodd ei basio 'mlaen iddo yn ymwneud â chwyn yn ei erbyn a chwyn yr oedd o wedi ei wneud ei hun.
Wrth ddedfrydu fore Gwener, dywedodd y barnwr Timothy Petts fod Gardner "nid yn unig wedi gadael ei hun i lawr, ond hefyd ei chyd-weithwyr".
Ychwanegodd fod dedfryd o garchar yn ofynnol oherwydd "dydy hyd yn oed ditectifs ddim uwchlaw'r gyfraith".
Mae Gardner eisoes wedi ymddiswyddo, ond dywedodd Heddlu'r Gogledd bod ei gweithredoedd cyfystyr â chamymddwyn ac y byddai'n cael ei gwahardd rhag gweithio i'r heddlu yn y dyfodol.
'Tanseilio ymddiriedaeth'
Ar ôl y dedfrydu dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu'r Gogledd, Nigel Harrison bod "ymddygiad Emma Gardner nid yn unig yn droseddol, ond hefyd ymhell o'r safonau rydym yn eu disgwyl gan ein swyddogion".
"Cafodd ei hatal rhag cyflawni ei dyletswyddau yn ystod yr ymchwiliad, ac yn dilyn ei heuogfarn bu'n destun camau disgyblu.
"Penderfynodd y Prif Gwnstabl y byddai wedi cael ei diswyddo pe na bai wedi ymddiswyddo, ac mae ei henw wedi'i roi ar y rhestr waharddedig fel na all fyth wasanaethu ym maes plismona eto.
"Dylai hi fod wedi gwybod yn well, ac mae ei gweithredoedd wedi tanseilio'r ymddiriedaeth oedd gennym ynddi, yn ogystal ag ymddiriedaeth y cyhoedd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi

- Cyhoeddwyd18 Medi

