Ditectif yn pledio'n euog i gymryd lluniau o dan ddillad plentyn

Mae Lee Harshey-Jones wedi pledio'n euog i gymryd lluniau o dan ddillad plentyn heb ganiatâd
- Cyhoeddwyd
Mae ditectif a oedd yn gweithio i Heddlu'r Gogledd wedi pledio'n euog i gymryd lluniau o dan ddillad ('uwchsbecian') plentyn heb ganiatâd.
Ymddangosodd y Ditectif Gwnstabl Lee Harshey-Jones, 45, mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caer ddydd Mercher.
Yno fe blediodd yn euog i dri chyhuddiad - un ohonyn nhw o voyeuriaeth sef cael pleser rhywiol o wylio pobl yn gyfrinachol wrth iddyn nhw ddadwisgo, ymolchi, neu gymryd rhan mewn gweithgaredd rywiol - ar 11 Mehefin 2026.
Roedd cyhuddiad arall o wyrdroi cwrs cyfiawnder ar yr un dyddiad sef ailosod ('factory reset') ei ffôn i guddio tystiolaeth.
Plediodd yn euog hefyd o arfer ei bwerau a'i freintiau plismona mewn ffordd lygredig neu amhriodol drwy chwilio am ddigwyddiad ei hun ar y cofnod cyfrifiadurol.
Roedd y ditectif yn un o'r prif ymchwilwyr yn achos marwolaeth Ethan Ives-Griffiths - plentyn dwy oed a gafodd ei lofruddio gan rieni ei fam.
Cafodd Harshey-Jones wybod y byddai'n yn cael ei ddedfrydu ar 19 Tachwedd ac mi gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth amodol, sy'n cynnwys yr amod na chaiff gyswllt heb oruchwyliaeth gydag unrhyw un o dan 18 oed.
Dywedodd y barnwr wrtho y bydd yn rhaid iddo gofrestru ar restr troseddwyr rhywiol.
Cafodd y ditectif ei atal dros dro rhag cyflawni ei ddyletswyddau yn dilyn y digwyddiad.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.