'Cost canser yn bwysau mawr - mae angen cymorth'

Daisy yn sefyll ochr yn ochr â’i mam, y ddwy yn edrych tuag at y camera, yn ystod cyfnod ei thriniaethFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Daisy fod y costau teithio wedi rhoi pwysau ychwanegol ar ei theulu, gan gynnwys ei mam

GanGwen Aeron
BBC Radio Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae 'na alw ar lywodraeth nesaf Cymru i dalu am gostau teithio teuluoedd plant a phobl ifanc â chanser, ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi pecyn cymorth gwerth £10 miliwn yn Lloegr.

Yn ôl Daisy o Ynys Môn, byddai cymorth o'r fath wedi gwneud "gwahaniaeth enfawr" i'w theulu yn ystod ei thriniaeth.

Pob blwyddyn, mae tua 90 o blant a phobl ifanc dan 19 oed yn cael diagnosis o ganser yng Nghymru.

Dywed elusennau fod angen cynllun tebyg yma, gan fod llawer o deuluoedd yn wynebu costau sylweddol wrth deithio i ysbytai tu allan i Gymru.

'Roedd o just fel bom ar fy mywyd i'

Cafodd Daisy, 18 oed o Ynys Môn, ddiagnosis o Hodgkin lymphoma cam dau pan oedd yn 17.

"Roedd o just fel bom ar fy mywyd i," meddai.

"O'n i'n gwneud pob dim trwy'r wythnos - mynd i'r gampfa, mynd i'r ysgol, mynd i glwb ffermwyr ifanc - pob dim. Ac wedyn oedd o just fel bod popeth wedi stopio."

Ar ôl profi poen yn ei hasennau am wythnosau a sawl ymweliad â meddygon, dim ond ar ôl sganiau a biopsi ddaeth y diagnosis.

"O'n i just 'efo poen yn fy ribs ac o'n i'n meddwl bo' fi wedi gwneud rhywbeth yn y gampfa, ond oedd o ddim yn mynd ac oedd o wedi bod dros dair wythnos.

"So 'nes i fynd at y meddyg teulu a 'na'th o ddweud bo' fi wedi gwneud rhywbeth yn y gampfa."

Dim ond ar ôl i'w chyflwr waethygu y cafodd ei hanfon am brofion pellach.

"Nes i orffen fyny yn A&E 'efo'r inflammatory markers i fyny, pob dim i fyny, a 'nathon nhw fyth gael rheswm am beth oedd yn digwydd.

"Wedyn, 'nathon nhw ffeindio lwmp bach yn fy ngwddf i… nathon nhw fy ngyrru i gael biopsi ac wedyn ffeindio allan bo' fi 'efo canser."

Daisy yn eistedd mewn cadair ysbyty yn derbyn triniaeth cemotherapi, gyda chyfarpar meddygol o’i chwmpasFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Odd o just fel bod popeth wedi stopio," meddai Daisy, ar ôl cael diagnosis o ganser yn 17 oed

Cafodd Daisy driniaeth cemotherapi yn Lerpwl rhwng mis Mawrth a Mehefin y llynedd.

"Roedd hi'n daith o ddwy awr a hanner bob tro, bob pythefnos. Roedd o'n lot o straen ar Mam - a lot o gostau hefyd, tanwydd a phopeth," meddai.

Dywedodd ei bod hi'n anodd iawn hawlio costau'n ôl.

"Ti mewn lot o straen yn barod ac wedyn mae'r broses o gael help yn really anodd - ti'n gorfod anfon loads o dystiolaeth."

Daisy, person ifanc o Ynys Môn, yn sefyll gyda grŵp o nyrsys mewn ward ysbyty yn Lerpwl yn ystod ei thriniaeth canserFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Daisy driniaeth yn Lerpwl, gan deithio oriau bob pythefnos i gael gofal arbenigol

Ychwanegodd fod y pwysau ariannol yn gwneud y sefyllfa'n anoddach fyth.

"Oedd Mam yn gorfod stopio ei swydd hi, ond oedd y sick pay dal ddim yn ddigon i helpu lot."

Dywedodd y byddai cronfa debyg i'r hyn sydd wedi'i gyhoeddi yn Lloegr wedi gwneud gwahaniaeth mawr.

"'Swn i wedi bod mor ddiolchgar taswn i wedi cael y cymorth yna - 'sa fo just 'di gadael i Mam stressio llai a meddwl, 'dan ni'n iawn, 'dan ni'n mynd i gael trwy hyn'."

Mae Megan a'i mam o Gaernarfon wedi bod yn teithio'n rheolaidd i Ysbyty Alder Hey Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Megan a'i mam o Gaernarfon wedi bod yn teithio'n rheolaidd i Ysbyty Alder Hey

Ar ei phen-blwydd yn bump oed ar 12 Chwefror 2024, cafodd Megan ei throsglwyddo i Alder Hey o Ysbyty Gwynedd.

"Ddeuddydd wedyn dechreuodd hi ei thriniaeth ar gyfer diagnosis o B-cell Lymphoblastic Leukaemia ac fe newidiodd ein bywydau yn llwyr dros nos," meddai ei mam, Gwennan Eleri o Gaernarfon, wrth rannu ei phrofiad â Cymru Fyw.

"Mae'r driniaeth wedi para 25 mis - cyfnod hir, caled, emosiynol a blinedig iawn. Mae wedi golygu teithio'n gyson i apwyntiadau yn Alder Hey ac Ysbyty Gwynedd.

"Am y chwe mis cyntaf, roeddwn yn teithio bob wythnos, wedyn bob pythefnos ac yn ddiweddarach bob mis.

"Roedd y costau teithio yn wythnos ar ôl wythnos ac mi o'n i'n poeni'n dawel am arian - talu am y teithio ar ben holl gostau o ddydd i ddydd eraill.

"Mae hwn yn bwysau na ddylai unrhyw riant orfod ei gario wrth i'w plentyn fynd drwy ganser."

Roedd canu'r gloch yn brofiad arbennig i Megan a'i mamFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd canu'r gloch yn brofiad arbennig i Megan a'i mam

Ychwanegodd ei bod hi fel mam sengl wedi bod yn ffodus o gael cymorth teulu agos ac y cymorth ariannol a gafodd gan elusennau.

"Mae hyn yn rhoi straen enfawr ar deuluoedd ac mae'n bwysig tynnu sylw at yr effaith wirioneddol mae costau teithio yn ei gael ar bobl mewn sefyllfaoedd fel hyn," ychwanegodd.

"Mae Megan bellach newydd orffen ei thriniaeth ac ar hyn o bryd, rydym yn dal i deithio i Alder Hey bob mis ar gyfer apwyntiadau dilynol.

"Mae Megan yn llawn egni ac yn wên o glust i glust bob amser.

"Dwi'n fam balch iawn , mae'n seren! Mae hi wedi bod yn wirioneddol anhygoel drwy'r cyfan."

Mae Megan bellach newydd orffen ei thriniaethFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Megan bellach newydd orffen ei thriniaeth

Ar hyn o bryd, gall rhai cleifion hawlio costau teithio'r GIG, ond mae hyn yn dibynnu ar feini prawf incwm a chymhwysedd.

Mae gwasanaeth cludo cleifion hefyd ar gael i rai, ond nid yw'n addas i bawb.

'Pwysau ychwanegol ar deuluoedd'

Dywed Iwan Trefor Jones, cadeirydd elusen Gafael Llaw, fod unrhyw gymorth ychwanegol yn "hanfodol".

"Pan fo rhieni'n cael y newyddion bod eu plentyn angen triniaeth, mae lot yn mynd drwy eu meddwl," meddai.

"Dydy problemau ariannol ddim yn cael blaenoriaeth ar y pryd - ond maen nhw'n dod yn realiti'n gyflym iawn."

Iwan Trefor Jones, cadeirydd elusen Gafael Llaw, yn edrych tuag at y camera mewn llun portreadFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Iwan Trefor Jones fod cymorth teithio yn "hanfodol" i deuluoedd

Ychwanegodd y dylai teuluoedd allu canolbwyntio ar ofalu am eu plentyn.

"Pan fo plentyn yn sâl, dylai'r teulu allu canolbwyntio ar hynny - ddim ar sut maen nhw'n mynd i dalu i gyrraedd y driniaeth.

"Felly mae unrhyw gymorth i helpu teuluoedd i deithio i lefydd fel Alder Hey neu ysbytai eraill tu allan i Gymru yn rhywbeth i'w groesawu'n fawr."

Mae'r elusen yn cynnig grantiau o hyd at £1,000 i helpu gyda chostau fel tanwydd a llety.

"Os oes mwy o adnoddau ar gael, mae hynny'n golygu gallwn ni wneud mwy i gefnogi teuluoedd a gwella'r ddarpariaeth i blant sydd â chanser."

'Pwysau ariannol yn cynyddu'n gyflym iawn'

Dywedodd Menai Owen-Jones, prif weithredwr elusen Latch, fod costau teithio yn her barhaus.

"Yn ein profiad ni, mae teuluoedd yn gorfod teithio pellteroedd hir yn rheolaidd i gael triniaeth ac mae hynny'n dod â chostau sylweddol 'efo fo," meddai.

"Pan fo rhiant eisoes wedi gorfod stopio gwaith neu leihau oriau, mae'r pwysau ariannol yna yn cynyddu'n gyflym iawn."

Ychwanegodd fod elusennau'n aml yn llenwi'r bwlch.

"'Da ni'n gweld yn uniongyrchol pa mor bwysig ydy'r cymorth yma - boed hynny'n deithio, llety neu'r costau dydd i ddydd.

"Mae'r angen yna'n parhau ac mae'n cynyddu."

Ymateb y pleidiau

Mae galwadau ar lywodraeth nesaf Cymru i gyflwyno cynllun tebyg.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru eu bod wedi ymrwymo i greu cronfa i helpu gyda chostau teithio a llety i gleifion.

Yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ni ddylai teuluoedd "fod ar eu colled" tra bod eu plentyn yn derbyn triniaeth.

Mae Llafur Cymru wedi addo sefydlu cronfa deithio i bobl ifanc â chanser pe bai'n cael ei ailethol.

Dywedodd Plaid Werdd Cymru eu bod yn cefnogi sefydlu cronfa i leddfu'r baich ariannol ar deuluoedd.

Mae llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi dweud eu bod yn cefnogi'r cynigion ac yn credu na ddylai teuluoedd sy'n wynebu canser plentyndod orfod poeni am gost teithio i gael triniaeth.

Dywedodd Reform y bydden nhw'n cyflwyno strategaeth ddeg mlynedd a fyddai'n targedu yr ardaloedd mwyaf anghenus ac yn sicrhau bod byrddau iechyd yn atebol fel bod triniaeth fodern ar gyfer canser ddim yn ddibynnol ar god post.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.