Cynllun newydd i adfywio canol pentref Rhosllannerchrugog

Stryt y Farchnad, Rhos
Disgrifiad o’r llun,

Mae adfywio Stryt y Farchnad ymhlith prif flaenoriaethau'r cynllun newydd

GanGarry Owen
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae cynllun newydd yn anelu at wneud canol Rhosllannerchrugog yn fwy croesawgar ac i ddathlu diwylliant a threftadaeth unigryw'r pentref ger Wrecsam.

Mae Cyngor Cymuned Rhos wedi datblygu'r cynllun i helpu denu buddsoddiad i'r ardal dros y pump i 10 mlynedd nesaf.

Ymhlith y blaenoriaethau mae adfywio Stryt y Farchnad, gwella mynediad a pharcio, a chodi proffil asedau diwylliannol a chymunedol y pentref.

Dywed y cyngor cymuned fod y cynllun yn rhoi treftadaeth a hunaniaeth ddiwylliannol wrth galon gweledigaeth y pentref ar gyfer y dyfodol.

Stiwt
Disgrifiad o’r llun,

Mae Theatr y Stiwt wedi bod yn ganolbwynt i fywyd diwylliannol y pentref ers canrif

Mae Theatr y Stiwt, sy'n dathlu ei chanmlwyddiant eleni, yn ganolbwynt i fywyd diwylliannol yr ardal ac yn cael ei disgrifio fel "trysor diwylliannol" sy'n dal bron i 500 o bobl.

Yn ogystal â'r Stiwt, mae nifer o gapeli trawiadol a Chanolfan Gymdeithasol yr Hafod wedi chwarae rhan bwysig yn bensaernïol ac yn ddiwylliannol yn natblygiad y pentref dros y blynyddoedd.

Wrth edrych tua'r dyfodol mae cyngor cymuned y Rhos nawr yn edrych ar ddatblygu'r traddodiad yma er mwyn denu buddsoddiad i'r ardal, ac i wneud pobl leol yn fwy ymwybodol o hanes a hunaniaeth y pentref.

Cerrig yr Orsedd
Disgrifiad o’r llun,

Daeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Rosllannerchrugog yn 1945

Ers canol 2025, mae'r cyngor cymuned wedi bod yn cydweithio â rhanddeiliaid lleol i ddatblygu'r "Cynllun Creu Lleoedd" ar gyfer Rhosllannerchrugog.

Mae'r cynllun yn nodi prosiectau i'w blaenoriaethu er mwyn denu buddsoddiad a gwelliannau i'r pentref dros y pump i 10 mlynedd nesaf, gan gynnwys adfywio Stryt y Farchnad, dathlu a chysylltu asedau diwylliannol Cymraeg a chymunedol, a gwella mynediad, parcio ac arwyddion.

Mae Rhosllannerchrugog yn un o bentrefi mwyaf Cymru, gyda bron i 10,000 o bobl yn byw yno.

Mae'r pentref hefyd yn gadarnle i'r Gymraeg, gyda 23.1% o'r trigolion yn gallu siarad yr iaith, sy'n uwch na chyfartaledd sir Wrecsam.

Ond mae'r pentref yn wynebu heriau, gyda'r brif ganolfan siopa - Stryt y Farchnad - wedi gweld nifer o siopau'n cau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Rhos
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun yn ceisio mynd i'r afael â heriau sy'n wynebu canol y pentref

Mae rhai rhannau o'r pentref hefyd ymysg y 10%-20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Yn ogystal, mae cynnal a chadw nifer o adeiladau treftadaeth y pentref yn her.

Mae adroddiad newydd gan y cyngor cymuned yn anelu at "osod treftadaeth a hunaniaeth ddiwylliannol fel rhan greiddiol o'r strategaeth", "cryfhau canol y pentref i adlewyrchu'r hyn yw'r Rhos", a sicrhau bod "cenedlaethau'r dyfodol yn etifeddu Rhosllannerchrugog sydd â'i hunaniaeth nid yn unig yn ddiogel, ond yn ffynnu".

Llinos Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llinos Roberts fod angen adeiladu ar ddiwylliant cryf y pentref

Mae Llinos Roberts, cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025, yn dweud bod gan y pentref wreiddiau diwylliannol cryf.

Ond mae'n credu bod angen "cynnwys pawb a sicrhau bod y diwylliant cyfoethog Cymreig lleol yn agored ac yn cynnwys diwylliannau eraill hefyd".

Ychwanegodd: "Mae angen gafael yn be' sy' ganddyn ni'n barod, ac ma' dod â syniadau a thueddiadau gwahanol yn g'neud hyn hyd yn oed yn fwy cyfoethog."

Brian Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae Brian Hughes yn gobeithio gweld traddodiad cerddorol y Rhos yn parhau i ffynnu

Cafodd y cyfansoddwr a'r arweinydd corau Brian Hughes ei eni yn Rhosllannerchrugog, ac mae'n dweud bod cerddoriaeth gorawl wedi bod yn greiddiol i hunaniaeth yr ardal.

"Cerddoriaeth gorawl sy' wedi meddiannu meddyliau a lleisiau pawb yn yr ardal hon, yn enwedig canu corawl ar gyfer corau meibion," meddai.

Dywedodd fod "gobaith i'r dyfodol", ond bod angen denu pobl a chynulleidfaoedd newydd er mwyn sicrhau bod y traddodiad yn parhau.

"Mae'n dipyn o her, ond dwi'n edrych mla'n at yr her hynny."

Stephen Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Stephen Jones fod y Rhos yn rhan bwysig o uchelgais diwylliannol Wrecsam

Gyda Wrecsam yn anelu at fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029, mae gobaith y gallai hynny hefyd godi proffil Rhosllannerchrugog.

Dywedodd Stephen Jones, swyddog strategol y Gymraeg Cyngor Wrecsam, fod y Stiwt a Rhosllannerchrugog yn rhan bwysig o'r weledigaeth honno.

Ar Stryt y Farchnad mae cofeb i'r bardd I D Hooson, sy'n cael ei adnabod fel "Bardd Plant Cymru", ac mae'r pentref wedi rhoi i Gymru nifer o enwau amlwg ym maes diwylliant.

Ond wrth edrych tua'r dyfodol, nod y cynllun yw sicrhau bod y dreftadaeth honno'n cael ei diogelu a'i datblygu er budd cenedlaethau'r dyfodol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig