Signal ffôn mewn ardal ar Ynys Môn 'fel bod yn Oes y Cerrig'

Sgwâr LlanfechellFfynhonnell y llun, Elin Wynne
Disgrifiad o’r llun,

Mae problemau gyda'r signal ffôn yn ardal Llanfechell wedi "cychwyn ers misoedd", medd Elin Wynne, ond ei fod yn waeth yn ddiweddar

GanGwydion ap Llyr Edwards
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae safon y signal ffôn o amgylch ardal Llanfechell yn "gywilyddus" ers wythnosau bellach, yn ôl pobl yr ardal.

Disgrifiodd fwy nag un ohonynt fod y llinell yn torri heb rybudd yn gyson a bod hynny i weld yn digwydd heb unrhyw reswm amlwg.

Dywedodd Elin Wynne o Fynydd Mechell wrth Cymru Fyw, fod "problemau wedi cychwyn ers misoedd, ond yn fwy diweddar ers tua mis mae'n ddrwg iawn iawn".

Esboniodd un ffermwr, Gareth Pritchard Jones, fod y broblem i weld yn effeithio ar bawb a bod y sefyllfa yn tarfu ar ei fywoliaeth.

Yn ôl Elaine Edwards, sy'n rhedeg swyddfa bost gymunedol yn Llanfechell, mae'r gwasanaeth gan Vodafone, ei rhwydwaith hi, yn "warthus" ar hyn o bryd.

Dywedodd cwmni Vodafone: "Mae ein tîm rhwydwaith yn ymwybodol o'r broblem ac yn gweithio'n galed i'w datrys fel bod modd i gwsmeriaid dderbyn gwell cysylltiad."

Mari Llifon a Gareth Pritchard JonesFfynhonnell y llun, Gareth Pritchard Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Mae o'n gywilyddus yn yr oes ohoni ac mae o fatha bo' ni'n Oes y Cerrig!" Yn ôl Gareth Pritchard Jones (uchod gyda'i wraig, Mari)

Eglurodd Gareth fod y trafferthion wedi dechrau ers wythnosau.

"Ma'n mynd yn waeth ac yn waeth - o'dd o'n haws flynyddoedd yn ôl - ond rŵan mae 'na lai o lefydd lle dwi'n gallu siarad, na ble dwi'n gallu!

"Mae o'n sobor o wael - ma'r llinall yn torri mwya' sydyn pob hyn a hyn a ma' rhywun yn diflannu."

Dywedodd fod y signal yn "ddiawledig yn gyffredinol" a bod hynny i weld heb reswm yn aml iawn.

'Cywilyddus'

Mae'r trafferthion yn effeithio ar fusnes Gareth hefyd, meddai.

"Mae o'n uffar o job o ran ffermio - dwi'n trio cael gafael ar rywun am hyn a llall, trefnu gwaith, ordro petha' mewn a phetha' felly.

"Deud y gwir mae o'n gywilyddus yn yr oes ohoni ac mae o fatha bo' ni'n Oes y Cerrig!

"Dwi 'di bod yn darllan bo' bobl wedi bod yn cwyno i'r networks, ond bo' nhw ddim yn 'neud dim byd am y peth.

"Ma' pawb ti'n siarad hefo yn deud bo' nhw'n cael eu torri 'ffwrdd ac ambell i ddiwrnod 'di signal ddim yn bodoli!

"Ma'r networks 'ma yn mynd ar ôl rhyw '5g' a ballu, ond y flaenoriaeth i ni ydy gallu siarad o gwbl yma," ychwanegodd Gareth.

Elin WynneFfynhonnell y llun, Elin Wynne
Disgrifiad o’r llun,

"Mae problemau wedi cychwyn ers misoedd, ond yn fwy diweddar - ers tua mis - mae'n ddrwg iawn iawn," medd Elin Wynne

Gweithia Elin Wynne mewn ysgol fel ysgrifenyddes mewn ysgol, mae hi'n gwneud gwaith gwirfoddol yn Llanfechell ac mae hi'n rhedeg busnes llety gwyliau hefyd.

"Dwi'n gwneud lot fawr o waith admin o gartref ac yn dibynnu llawer iawn ar y ffôn symudol ar gyfer 'y 'ngwaith, a bod mewn cyswllt gydag ysgol fy mhlant a hefyd mam - sy'n byw ar ben ei hun erbyn rŵan.

"Mae problemau wedi cychwyn ers misoedd, ond yn fwy diweddar - ers tua mis - mae'n ddrwg iawn iawn.

"Mae galwadau ffôn yn cael eu torri yng nghanol sgwrsio, mae sŵn ar y lein, y sgwrs yn mynd yn dawel, galwadau ddim yn mynd trwodd, data ddim yn gweithio gyda'r apps, apps ddim yn llwytho yn iawn - oni bai ein bod ar wifi y tŷ."

Esboniodd Elin fod y sefyllfa yn "ddigalon i ddweud y lleiaf" a'i bod hi'n colli galwadau pwysig.

'Byth yn gweithio'n iawn'

Y ffôn sy'n ei chadw mewn cysylltiad â'r plant a'i mam, eglurodd Elin.

"Petai hi'n sâl neu'n disgyn, ni fydd modd ymddiried y bysa hi'n gallu cysylltu am gymorth," meddai hi am ei mam.

"Dwi wedi ffonio Vodafone droeon, maen nhw'n deud fod y network yn iawn, y lein yn iawn, ond bod angen i ni roi'r ffôn i ffwrdd ac yna yn ôl ymlaen er mwyn cael update.

"Ond dydi o byth yn gweithio'n iawn, mae dros 12 o bobl ar Facebook wedi ateb fy nghais ac yn dweud bod ganddyn nhw'r un drafferth.

"Dydi cysylltu hefo Vodafone ddim yn g'neud unrhyw wahaniaeth," ychwanegodd Elin.

Elaine RowlandsFfynhonnell y llun, Elaine Rowlands
Disgrifiad o’r llun,

"Meddyliwch chi os fysa' chi'n sâl ac angen doctor ac wedyn yn cael eich torri ffwrdd," meddai Elaine Rowlands

Mae Elaine Rowlands yn byw ym Mynydd Mechell hefyd ac mae hi'n rhedeg y swyddfa bost gymunedol yn Llanfechell.

Hefyd ymysg y nifer sy'n rhwystredig iawn gyda galwadau ffôn, dywedodd: "'Da ni mewn trafferthion ers wythnosa' a does 'na neb yn gwrando.

"Mae o wedi bod yn ddrwg iawn," meddai, "os 'da chi'n gweithio hefo cyfrifiadur a hwnnw heb signal mewn swyddfa bost - doeddach chi methu rhoi pres i gwsmeriaid".

Esboniodd ei bod hithau hefyd yn defnyddio rhwydwaith Vodafone a'i fod yn "warthus".

Roedd yn rhaid iddi ffonio aelod teulu 12 gwaith yn ddiweddar – "mi gafon ni ein cuttio ffwrdd am tua awr i gyd".

'Hollol honco!'

"Ma'r peth yn hollol honco! Meddyliwch chi os fysa' chi'n sâl ac angen doctor ac wedyn yn cael eich torri ffwrdd," meddai Elaine.

"A s'dim otsh ganddyn nhw, dydyn nhw'm yn gwrando. Dwi hefo Vodafone ers tua 25 mlynedd ac erioed wedi cael trafferth tan ryw fis yn ôl.

"O'n i bron â mynd i gredu mai'r ffon oedd y broblem," meddai.

Ond eglurodd iddi drio newid ei ffôn a bod y broblem wedi parhau.

"Di'r mab ddim yn cael problem o gwbl, mae o hefo network gwahanol. O'dd y gŵr yn ffonio ei chwaer neithiwr ac o'dd o'n mynd i ffwr' sawl gwaith," meddai Elaine.

"Dwi 'di trio mynd ar ôl Vodafone a ma' nhw'n deud bo' 'na ddim traffarth.

"Ar ben hynny, ma' rhan fwya' o bobl 'di cael gwarad ar ffôn tŷ dyddia' 'ma a mobiles sy' gan bawb - ma'n achosi lot o benbleth deud gwir," ychwanegodd.

Wrth ymateb, dywedodd cwmni Vodafone: "Rydym yn flin clywed am gwsmeriaid Vodafone sydd wedi eu heffeithio gan broblemau gyda'r gwasanaeth yn Llanfechell.

"Mae un o'n mastiau lleol yn gweithredu yn is na'r disgwyl.

"Mae ein tîm rhwydwaith yn ymwybodol o'r broblem ac yn gweithio'n galed i'w datrys fel bod modd i gwsmeriaid dderbyn gwell cysylltiad."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig