O atal dweud i siarad ar lawr Tŷ'r Cyffredin

Ann Davies AS yn siarad yn Nhŷ'r Cyffredin yn gynharach eleni
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwleidydd Ann Davies wedi sôn sut wnaeth cerddoriaeth a Chlwb Ffermwyr Ifanc ei helpu i ddod dros ei hatal dweud.
Er ei bod hi bellach yn siarad yn hyderus ar ran ei hetholwyr ar lawr Tŷ'r Cyffredin, pan oedd hi'n blentyn roedd hi'n arfer cael trafferth siarad o flaen ei chyd-ddisgyblion.
Fe arweiniodd ati hi'n colli hyder a chael ei bwlio a chafodd gymorth therapydd lleferydd pan oedd hi'n ddisgybl.
Er ei bod hi wedi gallu siarad yn iawn ers ei hugeiniau cynnar mae'n dweud bod yr atal heb fynd yn llwyr, ond bod ganddi ffyrdd o ymdopi a'i reoli.
Dywedodd bod yr atal yn "ofnadwy" pan oedd hi'n blentyn a'i bod yn dal i gofio ei gwers gyntaf yn yr ysgol uwchradd pan alwyd arni i ddarllen o flaen y dosbarth.
"Fi dal yn cofio dros 50 mlynedd yn ddiweddarach, rwy' dal yn cofio'r teimlad yna o sefyll o flaen y dosbarth yn ffili dweud gair - o'n i ffili dweud gair," meddai mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol.
"A fi'n siŵr bod e ddim 'di para mwy na rhyw 10, 15 eiliad. Ond i fi ar y pryd oedd e'n teimlo fel diwrnod.
"A chwarae teg i'r athrawes wnaeth hi jest dweud 'o, cadw nôl, ishe di lawr' a daeth rhywun arall 'mlân."
Cerddoriaeth a rhythm yn helpu
Mae'r gwleidydd, sy'n cynrychioli Plaid Cymru yn etholaeth Caerfyrddin, yn dweud bod yr atal wedi dechrau pan oedd hi'n bump oed a'i bod wedi dod o hyd i strategaethau i'w helpu.
Yn yr Ysgol Sul, wrth i'r plant orfod cymryd twrn i ddweud adnod, byddai'n gweithio allan pa un fyddai'n rhaid iddi hi ei ddarllen ac ymarfer drosodd a throsodd er mwyn osgoi atal.
"Os o'n i'n cael rhythm [roedd yn helpu] a fi'n credu dyna ble mae cerddoriaeth wedi bod mor bwysig i fi - rhythm geiriau," meddai.
"Wrth i fi ymarfer a chael rhythm y geiriau, ro'n i'n gallu dweud yr adnod."

Fe gafodd Ann Davies ei hethol i San Steffan yn 2024
Mae'n dweud ei bod wedi cael ei bwlio yn rhannol oherwydd ei hatal dweud a'i bod wedi cael cymorth gan therapydd lleferydd.
Ychwanegodd: "Ond beth helpodd fi fwy na dim oedd y Clwb Ffermwyr Ifanc lleol. Ble mae pawb yn derbyn ti am bwy oeddet ti a bod yn rhan o dîm bach gweithgar, llwyddiannus. A magu hyder - i fi magu hyder trwy ganu a ffeindio rhythm geiriau."
Erbyn ei hugeiniau cynnar roedd hi wedi adennill ei hyder i siarad a doedd yr atal dweud ddim yn ei heffeithio - ond dyw e ddim wedi diflannu yn llwyr.
"Ma' geiriau dal yn tripio fi lan," meddai.
"Ac am achau oedd 'Mr Llefarydd, diolch yn fawr, Mr Llefarydd' neu 'Madam Dirprwy Llefarydd' yn Nhŷ'r Cyffredin - roedd rhaid i fi rili canolbwyntio i gael hwnna mas yn iawn.
"Chi ddim yn cael gwared â fe - chi'n defnyddio strategaethau."
Gallwch wrando ar y sgwrs yn llawn ar Beti a'i Phobol ar Radio Cymru am 18:00 ar 24 Mai ac ar BBC Sounds.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr

- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
