Pobl ifanc Môn yn dewis Gwyndod fel enw pwerdy niwclear newydd

Delwedd 3-D o'r pwerdy newydd y mae gobaith y bydd yn creu 8,000 o swyddi
- Cyhoeddwyd
Gorsaf Bŵer Gwyndod yw enw'r orsaf bŵer niwclear newydd ger safle Wylfa ar Ynys Môn.
Fe gafodd ei ddewis gan banel o bobl ifanc o'r ynys ar ôl ystyried cannoedd o awgrymiadau gan bobl leol yn dilyn gwahoddiad i gynnig enw "sy'n cyfleu treftadaeth yr ardal".
"Daw'r enw o'r term hynafol am dafodiaith yr ardal, Gwyndodeg," medd datganiad Great British Energy - Nuclear (GBE-N) - y corff sy'n datblygu technolegau niwclear ar draws y DU ar ran Llywodraeth y DU.
Roedd awydd hefyd i'r enw gyfleu'r "cyfle sydd i ddod" ac roedd cynnwys pobl ifanc leol yn y broses enwi "yn pwysleisio pwysigrwydd o sicrhau bod buddion niwclear newydd yn Wylfa yn elwa trigolion yr ynys heddiw ac am genedlaethau i ddod".
Ychwanegodd GBE-N fod yr enw'n "anrhydeddu hunaniaeth, gwytnwch, a chymeriad unigryw pobl yr ynys, gan osod y gymuned leol wrth galon hunaniaeth y cyfleuster".
Daeth cadarnhad fis Tachwedd y llynedd y byddai pwerdy niwclear newydd yn cael ei adeiladu ym Môn - un o blith y tri adweithydd modiwlar bychan [SMR] cyntaf i'w hadeiladu yn y DU.
Mae gobaith y bydd prosiect, sy'n bartneriaeth gyda'r cwmni Rolls-Royce, yn creu 3,000 o swyddi lleol a 5,000 o swyddi ychwanegol yn genedlaethol, a bod modd cynhyrchu trydan erbyn canol y 2030au.
'Angen i'r gadwyn gyflenwi leol fod yn barod ar gyfer Wylfa newydd'
- Cyhoeddwyd9 Mawrth
'Cam mawr' tuag at ddechrau adeiladu gorsaf bŵer newydd Wylfa
- Cyhoeddwyd13 Ebrill
Cafodd y panel ei gadeirio gan AS Ynys Môn, Llinos Medi, ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens.
Dywedodd Llinos Medi, AS Ynys Môn bod "hwn yn ddiwrnod arbennig ar gyfer Ynys Môn" a'i bod yn "ddiolchgar am yr holl enwau a gafodd eu cyflwyno, a'r esboniadau a ddaeth law yn llaw â nhw".
Mae aelodau ifanc y panel, meddai, "wedi gwneud yn arbennig o dda, ac wedi deall difrifoldeb ac arwyddocâd y dasg wrth law".
Ychwanegodd: "Mae gennym ni enw ar gyfer y prosiect hwn sydd wirioneddol yn eiddo Ynys Môn."

Dywedodd Jo Stevens fod y cynllun "wedi cyrraedd carreg filltir allweddol arall" a'i fod yn "addas bod yr enw wedi'i ddewis gyda chymorth pobl ifanc o'r ynys" gan y bydd buddion y cyllun i'r ynys "i'w deimlo am genedlaethau i ddod".
Ychwanegodd: "Miloedd o swyddi newydd, economi hynod gadarn yng Ngogledd Cymru, a rôl allweddol yn nyfodol annibyniaeth ynni y DU. Dyna'r dyfodol mae pobl ifanc Ynys Môn, a ledled Cymru, yn ei haeddu."

Daeth y gwaith o gynhyrchu ynni i ben yn Wylfa yn 2015
Yn ôl Prif Weithredwr GBE-N, Simon Roddy: "Mae dewis enw yn golygu llawer mwy na geiriau ar dudalen, mae'n ymwneud â hunaniaeth, uchelgais, a safle Wylfa ar yr ynys am y ganrif sydd i ddod."
Mae cyfraniad aelodau ifanc y panel, meddai, "yn adlewyrchu yn union pam mae hyn mor bwysig: mae'r prosiect hwn yn ymwneud â chreu cyfleoedd hirdymor, cefnogi swyddi medrus, a helpu i sicrhau ffynhonnell lân a dibynadwy o bŵer ar gyfer y dyfodol.
"Nhw fydd yn elwa o'r dyfodol y bydd hyn yn ei greu."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.