Cyn-aelod Bwncath yn ddieuog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol

Alun Jones Williams
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Alun Jones Williams yn ddieuog mewn llys o gyhuddiad o gyfathrebu rhywiol â phlentyn

GanGareth Wyn Williams
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae cerddor a chyn-athro o Wynedd oedd yn wynebu honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, wedi ei ganfod yn ddieuog yn dilyn gwrandawiad gan banel o Gyngor y Gweithlu Addysg.

Yn 2023 cafodd Alun Jones Williams o Bwllheli ei gyhuddo o gyfathrebu'n rhywiol gyda phlentyn.

Gwadodd y cyhuddiad ac fe gafodd ei ganfod yn ddieuog gan lys yn Ebrill 2024 wedi i'r erlyniad benderfynu peidio â pharhau â'r achos.

Er gwaethaf penderfyniad y llys roedd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi honni nad oedd Mr Williams wedi gwadu anfon negeseuon a lluniau o natur rywiol at y ferch 15 oed, ac felly ei fod yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol fel athro cofrestredig.

Yn dilyn gwrandawiad a barodd dri diwrnod, casgliad y panel brynhawn Mercher oedd nad oedd Mr Williams wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol.

Roedd Mr Williams, cyn-athro mathemateg yn Ysgol Godre'r Berwyn yn Y Bala a chyn-aelod o'r band poblogaidd Bwncath, wedi dweud ei fod yn credu bod y ferch yn 18 oed.

Doedd y ferch ddim yn ddisgybl yn yr un ysgol.

'Rhesymol' credu ei bod dros 18

Cyn y gwrandawiad roedd Mr Williams eisoes wedi ysgrifennu at y rheoleiddiwr i gadarnhau na fyddai'n mynychu, ac nad oedd yn bwriadu dychwelyd i ddysgu.

Fel rhan o ymchwiliad anibynnol gan yr ysgol, roedd Mr Williams wedi honni bod y plentyn wedi "dweud celwydd" ei bod yn 18 oed, ac nad oedd rheswm ganddo i beidio credu hynny.

Roedd gwrandawiad y CGA yn gwbl ar-wahan i'r achos llys blaenorol, ac yn edrych yn benodol ar ymddygiad proffesiynol Mr Williams.

Yn ystod ei gyfnod byr yn Ysgol Godre'r Berwyn, clywodd y panel ei fod wedi ei ddisgrifio fel "athro poblogaidd a phroffesiynol".

Ond er yn derbyn bod y lluniau a negeseuon wedi'u hanfon i ferch oedd yn 15 oed ar y pryd, barn y panel oedd nad oedd gan Mr Williams reswm i gredu ei bod hi o dan 18 oed a, neu, yn ddisgybl ysgol.

Roedd hyn er i'r ferch ddweud bod ganddi luniau o'i hun mewn gwisg ysgol ar ei chyfrif Instagram.

Roedd Mr Williams, mewn cyfweliadau cynharach gyda'r heddlu, wedi dweud ei fod wedi gweld y ferch mewn gig Bwncath oedd ar agor i rai dros 18 yn unig.

Ychwanegodd ei fod dan yr argraff ei fod yn "gyrru negeseuon at oedolyn" ac "o dan yr argraff ei bod yn byw bywyd oedolyn" gan fod sawl cyfeiriad at "yfed a gweithio" yn eu cyfathrebu.

Ar ran y panel dywedodd Owain James, cynrychiolydd cyfreithiol y panel: "Yn ein barn ni, mae'n deg ac yn briodol ei fod yn wirioneddol gredu ei bod hi'n 18 oed ac yn gweithio."

Gan ei fod wedi ei dderbyn bod y cyfathrebu dros ap Snapchat wedi dechrau ym mis Gorffennaf 2023, fel rhywun oedd yn 18 oed ar y pryd mi fyddai'n "rhesymol" i fod dan yr argraff ei bod wedi gorffen ei haddysg ysgol.

Casgliad y panel oedd bod y negeseuon dan sylw "gyda chymhelliad rhywiol ac o natur rywiol" ond ei fod yn "achos anodd".

Ychwanegodd Mr James: "Rhaid i Mr Williams, fel pob cofrestrydd, fod yn ymwybodol o'r disgwyliadau uchel sy'n ofynnol ohono, a dylai fod yn arbennig o ymwybodol o ymddygiad a allai ei roi ei hun mewn perygl o dorri'r cod ymddygiad."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig