Bachgen, 14, o flaen Llys y Goron ar gyhuddiad o lofruddio merch yr un oed

Lilly JonesFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y ferch 14 oed ei gweld ddiwethaf ar Stryd Fawr Blaenau nos Sadwrn 20 Mehefin

  • Cyhoeddwyd

Mae bachgen, 14, sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio merch ym Mlaenau ger Abertyleri wedi ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd.

Yn ystod y gwrandawiad a barodd 20 munud fe gadarnhaodd y llanc, nad oes modd ei enwi am resymau cyfreithiol, ei enw, ei oed a'i gyfeiriad.

Roedd e'n gwisgo crys gwyn llewys byr ac roedd yna dri swyddog carchar a swyddog cefnogi ieuenctid wrth ei ymyl.

Dyw'r corff, a gafodd ei ddarganfod ym Mharc Duffryn yn nhref Blaenau, heb ei adnabod yn swyddogol eto, ond y gred yw mai Lilly Jones - merch 14 oed a oedd ar goll - oedd hi.

Blodau ym Mharc Duffryn er cof am Lilly Jones
Disgrifiad o’r llun,

Blodau ym Mharc Duffryn er cof am y ferch

Mae disgwyl gwrandawiad ple ar 24 Gorffennaf ac yna achos llawn ym mis Tachwedd.

Cafodd y llanc ei gadw yn y ddalfa mewn llety ieuenctid diogel. Wrth iddo adael y doc fe chwythodd ei fam, a oedd yn y galeri cyhoeddus, gusan tuag ato.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig