Teyrnged teulu wedi marwolaeth dyn oedd 'â'r wên fwyaf heintus'

Roedd pryderon wedi codi ynghylch lles Stuart Davies gan fod neb wedi ei weld ers sawl diwrnod
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn 46 oed a gafodd ei ganfod yn farw yn ei gartref yn Sir Wrecsam wedi talu teyrnged iddo.
Ymwelodd yr heddlu â chartref Stuart Davies ym Mryn-y-Ffynnon, Brymbo ddydd Iau 25 Mehefin wedi i bryderon godi bod neb wedi ei weld ers sawl diwrnod a chanfod ei gorff.
Cafodd dyn lleol 50 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth a'i ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau'r heddlu barhau.
Yn ôl teulu Mr Davies, oedd yn ei alw'n Stuey, roedd "yn fab, brawd a thad serchus, oedd yn dotio ar ei blant" a bod eu calonnau'n torri wedi ei farwolaeth "druenus".

Mae'r heddlu'n parhau i apelio am wybodaeth neu luniau o ardal Bryn y Ffynnon fore Sul 21 Mehefin
Dywedodd y teulu mewn datganiad: "Roedd Stuey â'r wên fwyaf heintus a fydd yn aros gyda phawb oedd yn ei adnabod.
"Nes i ni gwrdd unwaith eto - hed yn fry, Stuey."
Mae Heddlu'r Gogledd eisiau clywed gan unrhyw un oedd yn ardal Bryn-y-Ffynnon fore Sul 21 Mehefin, allai fod "wedi gweld neu glywed unrhyw beth anarferol".
Maen nhw hefyd yn apelio am luniau CCTV, cloch drws neu dashcam yn yr ardal o'r diwrnod dan sylw all fod o gymorth i'r ymchwiliad.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.