Dau yn y llys wedi'u cyhuddo o fasnachu pobl ifanc i Wlad Thai

Cafodd yr ymchwiliad ei sbarduno ar ôl i ddau fachgen o Gaerdydd gael eu harestio yng Ngwlad Thai ym mis Mehefin
- Cyhoeddwyd
Mae dau berson wedi ymddangos yn y llys wedi eu cyhuddo o fasnachu pobl ifanc i Wlad Thai fel rhan o rwydwaith gwerthu cyffuriau rhyngwladol.
Mae Tremaine Jeanne, 28 o Gaerdydd, a Jessica Sani, 28 o Gasnewydd, wedi eu cyhuddo o droseddau yn ymwneud â chyffuriau ac o geisio trefnu taith i rywun er mwyn camfanteisio arnynt.
Clywodd Llys Ynadon Caerdydd fod yr ymchwiliad wedi ei sbarduno ar ôl i ddau fachgen 17 oed o Gaerdydd gael eu harestio yng Ngwlad Thai ym mis Mehefin.
Ddydd Gwener, fe ymddangosodd tri dyn arall yn y llys mewn cysylltiad â'r achos.
Mae Levi Coomansingh, Patrick O'Driscoll a Gareth Press hefyd yn wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â chyffuriau a masnachu pobl.
Bechgyn 'wedi eu dal â 64kg o ganabis'
Mae'r ddau ddyn ifanc yn parhau yn y ddalfa yng Ngwlad Thai ac yn cael eu cefnogi gan y Swyddfa Dramor.
Clywodd y gwrandawiad ddydd Gwener fod y diffynyddion wedi eu cyhuddo o ddefnyddio'r bechgyn i gludo cyffuriau ar ôl iddyn nhw gael eu dal yn cario 64kg o ganabis yn eu bagiau wrth geisio teithio 'nôl i'r DU.
Mae Mr Jeanne a Ms Sani wedi eu cyhuddo o geisio mewnforio cyffur dosbarth B a phedwar achos o geisio trefnu neu hwyluso taith person arall er mwyn camfanteisio arnynt.
Wrth ymddangos dros gyswllt fideo, fe siaradodd y ddau i gadarnhau eu henw, dyddiad geni a'u cyfeiriad.
Clywodd y llys ddydd Gwener fod Mr Coomansingh, 20 o Gaerdydd, wedi ei gyhuddo o bedwar achos o geisio trefnu neu hwyluso taith person arall er mwyn camfanteisio arnynt.
Mae Mr O'Driscoll, 30 o Gaerdydd, yn wynebu'r un cyhuddiadau yn ogystal â chyhuddiad o fod â gwn yn ei feddiant.
Mae Mr Press, 42 o Gaerdydd, wedi ei gyhuddo o ddau achos o geisio trefnu neu hwyluso taith person arall er mwyn camfanteisio arnynt.
Mae'r tri hefyd wedi eu cyhuddo o geisio mewnforio cyffur dosbarth B.
Mae'r pump yn cael eu cadw yn y ddalfa gyda disgwyl iddyn nhw ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar 4 Medi.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.