Bwriad troi swyddfeydd y llywodraeth yng Ngwynedd yn fflatiau fforddiadwy

Y bwriad yw i drawsnewid Swyddfeydd y Goron ym Mhenrallt, Caernarfon yn 37 o fflatiau fforddiadwy
- Cyhoeddwyd
Bydd cyn-swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn cael eu trawsnewid i fod yn fflatiau fforddiadwy os fydd cynlluniau Cyngor Gwynedd yn cael sêl bendith.
Mae Swyddfeydd y Goron ym Mhenrallt, Caernarfon wedi bod yn wag ers wyth mlynedd, pan wnaeth y llywodraeth symud i swyddfeydd wedi eu rhentu yn ardal Doc Fictoria'r dref.
Gyda phryder wedi bod ers hynny am gyflwr yr adeilad fe wnaeth yr awdurdod lleol gyhoeddi yn 2024 eu bod wedi prynu'r adeilad gyda'r gobaith y byddai datblygiad newydd yno yn lleddfu problemau digartrefedd yn y sir.
Gyda chais cynllunio bellach wedi ei gyflwyno y bwriad yw trosi y cyn-swyddfeydd yn 37 o fflatiau cymdeithasol gyda chymysgedd o rai un, dwy a thair ystafell wely.
Yn ôl y cais, sydd wedi ei gyflwyno gan Gyngor Gwynedd: "Bydd ei ailddefnyddio yn helpu i adfywio'r dref ac yn defnyddio tir gwerthfawr yng nghanol y dref."
Gan ddefnyddio cyllid grant Llywodraeth Cymru ac arian o premiwm ail gartrefi'r sir i ddiwallu'r cynllun, dywed y cyngor bod "angen darparu tai sefydlog i unigolion sydd ag angen acíwt am gartref tra byddant yn aros am dai parhaol".

Mae pryder wedi bod am gyflwr yr adeilad 'blêr', gan iddo fod yn wag ers peth amser
Tra bod hyn yn digwydd ar hyn o bryd trwy rentu llety argyfwng gan westai, tai llety, a darparwyr eraill o'r fath, mae'r cyngor yn dweud bod hyn yn "gostus" a byddai adeiladu'r datblygiad o dan sylw yn "darparu llety i unigolion mewn angen tai acíwt am gost is ac i safon gwell".
Yn 2024, ar ôl cyhoeddi eu bod wedi prynu'r adeilad, dywedodd Cyngor Gwynedd mai eu bwriad oedd gwario rhwng £12-14m ar y cynllun.
Gyda disgwyl i'r cynllun hefyd ddarparu "buddion economaidd a chymdeithasol cysylltiedig", bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys siop un stop neu hwb tai canolog ar y llawr gwaelod, a fyddai'n cefnogi trigolion y fflatiau arfaethedig yn ogystal â thrigolion eraill y sir.
Mae disgwyl i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd i drafod y cais yn ystod y misoedd sydd i ddod.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2024
