Dyn ger bron llys ar ôl i dacsi gael ei yrru ar ochr anghywir yr A55

Disgrifiad,

Roedd fideos ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos tacsi wedi ei stopio gan yr heddlu ar yr A55

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 31 oed wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o nifer o droseddau ar ôl i'r heddlu stopio tacsi a oedd yn teithio ar ochr anghywir yr A55 ar Ynys Môn.

Mae Darragh O'Grady, 31, o Ddulyn, yn wynebu sawl cyhuddiad gan gynnwys achosi anaf difrifol i seiclwr drwy yrru'n beryglus, gyrru cerbyd heb yswiriant a methu â darparu sampl i'r heddlu.

Cafodd ei arestio nos Lun, 24 Awst, wedi i Heddlu Gogledd Cymru dderbyn adroddiad bod tacsi wedi cael ei ddwyn.

Cafodd beiciwr ei anafu mewn gwrthdrawiad ar Ffordd Llundain yng Nghaergybi.

Mae O'Grady hefyd yn wynebu cyhuddiadau o ddwyn oddi ar berson a thwyllo drwy gynrychiolaeth ffug.

Bydd O'Grady yn cyflwyno ple ffurfiol i'r cyhuddiadau yn Llys y Goron Caernarfon ar 18 Medi.

Ni wnaethwyd cais am fechniaeth a bydd yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig