11 wedi eu harestio mewn ymchwiliad i anhrefn mewn gorsaf drenau

Cafodd swyddogion eu galw i orsaf drenau Dinbych-y-pysgod ar 7 Ebrill
- Cyhoeddwyd
Mae cyfanswm o 11 o bobl bellach wedi cael eu harestio mewn cysylltiad ag ymchwiliad i ddigwyddiad treisgar yng ngorsaf drenau Dinbych-y-pysgod ym mis Ebrill.
Cafodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain eu galw i'r orsaf tua 21:50 nos Fawrth 7 Ebrill yn dilyn adroddiadau o ffrwgwd mawr yn ymwneud â chriw o bobl ifanc.
Cafodd pedwar o bobl ifanc eu cludo i'r ysbyty i gael triniaeth am anafiadau trywanu, oedd ddim yn rhai difrifol, ac fe gawson nhw eu rhyddhau o'r ysbyty yn ddiweddarach.
Cafodd dau o bobl eu harestio ar y safle gan swyddogion o Heddlu Dyfed-Powys, bachgen 16 oed a dyn 19 oed, ac mae naw o bobl eraill wedi cael eu harestio ers hynny mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Mae'r rhai sydd wedi cael eu harestio wedi cael eu holi ar amheuaeth o droseddau yn cynnwys niwed corfforol difrifol ac anhrefn treisgar.
Maen nhw i gyd rhwng 13 ac 19 oed ac yn byw yn lleol yn Ninbych-y-pysgod a Doc Penfro.
Maen nhw ar hyn o bryd ar fechnïaeth tra bod ymholiadau yn parhau.
'Cynyddu presenoldeb swyddogion dros yr haf'
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Gareth Davies o Heddlu Trafnidiaeth Prydain eu bod yn "deall y pryder y mae'r digwyddiad wedi ei achosi, ac eisiau rhoi sicrwydd bod ymchwiliad trylwyr yn parhau".
Dywedodd hefyd, yn dilyn dyfalu arlein am gefndir y digwyddiad, a honiadau am sbeicio, eu bod yn fodlon nad oes unrhyw sail i'r honiadau rheiny.
Ychwanegodd: "Yn ehangach, bydd unrhyw un sy'n teithio i, ac o Ddinbych-y-pysgod dros yr haf yn gweld swyddogion allan ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd, yn gweithio ochr yn ochr â Heddlu Dyfed-Powys a phartneriaid i fod â phresenoldeb gweladwy, i roi sicrwydd i'r cyhoedd, a helpu i atal anrhefn.
"Rydym yn gofyn i bobl drin staff y rheilffyrdd a chyd-deithwyr gyda pharch a chwrtesi, ac i rieni a gwarchodwyr fod yn ymwybodol o le mae eu plant a beth maen nhw'n ei wneud."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.