Dyn 'mewn poen' a'n 'gaeth i'r tŷ' wedi oedi wrth drwsio ei gadair olwyn

Mae Glyn Jones wedi bod yn cael problemau gyda'i gadair olwyn ers deunaw mis
- Cyhoeddwyd
Mae dyn anabl o Gaerdydd yn dweud ei fod yn gaeth i'r tŷ oherwydd problemau cyson gyda'i gadair olwyn ac mae'n poeni am yr oedi yn ei drwsio.
Mae sawl ymgais i drwsio cefn cadair Glyn Jones dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf wedi methu, ac mae e bellach yn achosi poen iddo.
Ar ôl cael gwybod mai dim ond tri pheiriannwr sydd yna i drwsio cadeiriau olwyn ar draws y de mae Glyn yn poeni bod cleifion eraill yn wynebu problemau tebyg.
Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn dweud fod peirianwyr yn y Gwasanaeth Cadeiriau Olwyn yn ymrwymedig i ymateb i broblemau "cyn gynted â phosibl".
Mae Glyn, sy'n byw gyda chyflwr MS yn dibynnu ar ofalwyr i godi o'r gwely, gwisgo, ymolchi a bwyta.
Mae e'n treulio tua 17 awr y dydd yn y gadair.
"Mae'n amhosibl mynd allan o'r tŷ," meddai. "Mae'n amhosibl mynd o gwmpas ac mae'n amhosibl aros yn gyfforddus yn y gadair. Dwi jyst yn peidio â mynd allan.
"Mae'n effeithio ar ansawdd bywyd, mae'n effeithio ar iechyd meddwl.
"Dwi ddim yn symud o gwmpas y tŷ gymaint â 'swn i'n licio. Dwi ddim yn mynd allan i'r ardd o gwbl oni bai bod gofalwr yma efo fi. Dwi'n gaeth yn y tŷ."
'Dyna fy ffordd i o symud o gwmpas'
Ar ôl i Glyn gael gwybod mai dim ond tri pheiriannwr sydd yna i drwsio cadeiriau olwyn ar draws y de ysgrifennodd at Weinidog Iechyd Cymru, Mabon ap Gwynfor, i dynnu sylw at y mater.
"Dwi ddim yn meddwl fod y gwasanaeth iechyd na'r Senedd efo unrhyw syniad am y problemau efo cadeiriau olwyn.
"Maen nhw'n gweld cadeiriau olwyn fel rhywbeth i eistedd ynddyn nhw ond wrth gwrs maen nhw'n fwy na hynny. Maen nhw'n goesau. Dyna fy ffordd i o symud o gwmpas, dyna sy'n cadw siâp fy nghorff i'n iawn os nad ydy'r sêt yn iawn mae'n creu poen ofnadwy."
Mae Glyn yn poeni y gallai cadair ddiffygiol arwain at fwy o broblemau iechyd iddo os oes yna oedi yn ei thrwsio.

Mae Glyn yn poeni bod y broblem yn effeithio ar gleifion eraill
Wrth ymateb fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n disgwyl i'r byrddau iechyd ddarparu'r gwasanaeth hwn i gleifion yn unol â'u polisïau ar gyfer gwasanaethau Osgo a Symudedd.
"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol yng Nghymru, gan gynnwys Sglerosis Ymledol, yn cael mynediad teg, cyfartal ac amserol at wasanaethau o ansawdd uchel."
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cydnabod bod problem gyda chadair olwyn yn gallu achosi diflastod mawr i gleifion.
Yn ôl arweinydd y Bwrdd Clinigol ar gyfer Gwasanaethau Arbenigol yn y bwrdd iechyd, David Hanna: "Gall profi problemau gyda chadair olwyn gael effaith sylweddol ar gleifion, gan achosi gofid, rhwystredigaeth ac anghysur mawr. Mae'n ddrwg gennym glywed mai dyna fu profiad Glyn.
"Er y byddai'n amhriodol gwneud sylw ar ofal neu amgylchiadau unigolyn, mae'r peirianwyr yn y Gwasanaeth Cadeiriau Olwyn wedi ymrwymo i ymateb i broblemau cyn gynted â phosibl.
"Maen nhw'n cefnogi tua 35,000 o ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ledled De Cymru, gan ddarparu gwasanaethau atgyweirio, cynnal a chadw ac asesiadau arbenigol i gynnig cymorth ar unwaith ac atebion hirdymor.
"Rydym yn ymrwymedig i weithio gyda Glyn i fynd i'r afael â'i bryderon a helpu i ddatrys yr heriau y mae'n eu hwynebu."
Ar ôl bod yn aros ers mis Mai i gael dyddiad ar gyfer trwsio ei gadair, mae Glyn bellach wedi cael gwybod y bydd yna ymgais newydd i wneud hynny yn y dyddiau nesaf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.