Heddlu'n canfod corff ail gaiaciwr aeth ar goll ym Mhwllheli

Simon a Connor Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Simon Wilson a Connor Parfitt eu gweld am y tro diwethaf ger traeth Hafan Y Môr, Pwllheli ar 21 Gorffennaf

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu oedd yn chwilio am ddau gaiaciwr aeth ar goll ym Mhwllheli dros wythnos yn ôl wedi darganfod ail gorff.

Cafodd Connor Parfitt a Simon Wilson eu gweld ddiwethaf ger traeth Hafan Y Môr tua 18:30 ddydd Mawrth 21 Gorffennaf.

Cafodd corff Mr Parfitt ei ganfod ar draeth yn Aberystwyth ddydd Sul, ac mae Heddlu'r Gogledd bellach wedi cadarnhau fod corff Mr Wilson hefyd wedi ei ganfod.

Dywedodd y llu fod swyddogion wedi derbyn adroddiadau bod corff yn y môr ger Llwyngwril, Gwynedd am tua 19:20 nos Fawrth.

Mae'r heddlu wedi cadarnhau mai corff Mr Wilson oedd hwnnw, a bod ei deulu a'r crwner wedi cael gwybod.

Dywedodd y Prif Arolygydd Stephen Pawson ei fod yn "cydymdeimlo'n arw gyda theulu Simon ar yr adeg hynod anodd yma".

"Nid dyma'r canlyniad roedd unrhyw un ohonom wedi gobeithio ei weld, gan gynnwys y timau chwilio.

"Diolch i'r holl asiantaethau, gwirfoddolwyr ac aelodau'r cyhoedd sydd wedi helpu gyda'r gwaith chwilio.

"Gofynnwn yn garedig fod pobl yn parchu hawl teuluoedd Simon a Connor am breifatrwydd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig