bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Dydd deychwel yr haul

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

News imageNews image

1980 - 1999Dydd Dychwel Yr Haul

Erbyn chwater olaf yr ugeinfed ganrif 'roedd y cyfrifiadur wedi dechrau disodli'r teipiadur, ac 'roedd chwyldro mawr technolegol arall y ffordd. Byddai'n rhaid i Gymru fod yn rhan o'r chwyldro technolegol newydd ac o gynllun y Llywodraeth i sefydlu pedwaredd sianel deledu os oedd i oroesi yn y byd modern. Ond 'roedd hyder a gobeithion y Cymry yn isel ar dechrau'r wythdegau.

Cafodd cefnogwyr y Cynulliad i Gymru eu siomi gan ganlyniad y Refferendwm ar Ddatganoli. 'Roedd pedwar ugain mlynedd o ymgyrchu dros ryw fath o ymreolaeth wedi mynd i'r gwellt. Edrychodd Gerallt Lloyd Owen, yn ei awdl fuddugol, ' Cilmeri ', yn Eistedfod Abertawe, 1982, yn ôl dros saith canrif at ddiwrnod arall o anobaith i Gymru.

Ni allai'r Datganolwyr weld ar y pryd mai mesur gan Blaid Lafur wan a rhanedig oedd y mesur dros Ddatganoli, ac nad oedd sawl aelod o'r Blaid Lafur ei hun yn gefnogol iddo. Ymatebodd y cenedlaetholwyr mewn dwy ffordd i ergyd farwol y bleidlais nacaol, ymgyrchu o blaid cael y bedwaredd sianel i Gymru ac ymgyrchu yn erbyn problem gynyddol y tai haf. Ymateb yn eithafol i sefyllfa enbydus unwaith eto, fel gyda boddi Cwm Celyn a'r Arwisgo yng Nghaernarfon.

Torri Addewid...

 
News image
Mynegwe
Radio a Teledu
News image
 
 

News imageNews imageNews imageNews imageNews imageNews imageNews imageNews imageNews imageNews imageNews imageNews imageNews imageNews imageNews image
News imageNews imageNews imageNews imageNews image
Torri Addewid

Gan dybio fod Cymreictod ar drai, torrodd y Llywodraeth newydd ei haddewid i roi ei sianel ei hun i Gymru pe câi ei hethol. Arweiniodd y siom at brotestio tanbaid. Cyhoeddodd Gwynfor Evans ei fod yn bwriadu ymprydio, hyd farwolaeth pe bai raid, hyd nes y câi Cymru ei sianel ei hun. Bwriadai gychwyn ei ympryd ar y chweched o Hydref, 1980. Gwrthododd toreth o Gymry adnewyddu eu trwydded deledu; arestiwyd a charcharwyd llawer o genedlaetholwyr eraill am beri difrod i drosglwyddyddion. Dwysaodd y protestio yn Eisteddfod Dyffryn Lliw ym 1980. Daeth llwyfan y genedlaethol yn llwyfan gwleidyddol unwaith yn rhagor; daeth maes y Brifwyl yn faes y brotest. Pan geisiodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Nicholas Edwards, adael maes yr ^Wyl yn Nyffryn Lliw ar ddydd y coroni, eisteddodd nifer o aelodau o Gymdeithas yr Iaith o flaen ei gerbyd i'w rwystro. Nid dyna'r unig brotest gan Gymdeithas yr Iaith yn Nyffryn Lliw. Chwalwyd arddangosfa'r Awurdod Darlledu Annibynnol ar y maes.

Anerchwyd y protestwyr yn Nyffryn Lliw gan Gwynfor Evans ei hun. Gan fod Cymru wedi gwrthod cael senedd, 'roedd yn rhaid i'r 'Steddfod weithredu fel senedd i'r Cymry. ' 'Does gynnon ni ddim senedd na llwyfan ble y gallwn fynegi ein teimladau fel cenedl. Yr Eisteddfod yw'r unig le ac mae'n rhaid ei defnyddio hi fel llwyfan gwleidyddol,' meddai Geraint Bowen, yr Archdderwydd ar y pryd, ar ôl i rai o brif swyddogion y 'Steddfod gondemnio'r protestwyr. 'Roedd rhai o lywyddion y dydd, fel J. E. Caerwyn Williams, wedi datgan ar goedd eu bod yn cefnogi bwriad Gwynfor Evans i ymprydio, ac 'roedd hynny wedi ennyn gwrthwynebiad y rhai a gredai na ddylai'r 'Steddfod weithredu fel San Steffan y Cymry.

Mewnfydwyr...



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy