Rhyfela – 13eg, 14eg a'r 15fed ganrif
Yn ystod y cyfnod canoloesol, roedd pobl yn mynd i ryfel am nifer o resymau. Roedd brenhinoedd, breninesau ac uchelwyr yn brwydro am reolaeth wleidyddol, drwy gymryd tir a mynnu teyrngarwch. Roedden nhw’n ymladd er mwyn ehangu eu hymerodraethau a’u tiriogaethau neu i amddiffyn yn erbyn gorchfygwyr. Ar bob cyfle, roedd pobl ganoloesol yn ceisio elwa’n economaidd drwy adnoddau newydd neu gyfleoedd masnachu, yn ogystal â lledaenu ac amddiffyn eu crefydd. Arweiniodd hynny at wrthdaro.
Yn Ewrop, roedd dylanwad crefydd ar ryfel yn amlwg. Am ddwy ganrif ar ôl 1095, brwydrodd Cristnogion Ewropeaidd yn erbyn yr Arabiaid yn Tir Sanctaidd Lleoedd o gwmpas Palesteina ac Israel sy’n gysylltiedig gyda genedigaeth a bywyd Iesu. y Dwyrain Canol. Roedd y Croesgadau Ymgyrchoedd miliwrol a drefnwyd gan Gristnogion a oedd yn credu eu bod yn gallu ‘adennill’ y Tir Sanctaidd i Gristnogaeth o Islam. Ystyriodd Mwslimiaid a oedd yn byw yn y Tir Sanctaidd ddyfodiad y milwyr Cristnogol fel goresgyniad. hyn yn ymladd yn erbyn y Mwslimiaid yn wreiddiol er mwyn amddiffyn Jerusalem. Yng Nghymru, cafodd ymgyrchoedd sylweddol eu hymladd yn erbyn y Saeson gan bobl fel Owain Glyndŵr.
Arweiniodd y pwysau cyson ar ymladd at ddefnyddio milwyr traed yn amlach, yn enwedig ar ôl i’r Pla Du leihau’r boblogaeth yn sylweddol. Roedd yr hen syniad o recriwtio dynion drwy’r system ffiwdalSystem o ddefnyddio perchnogaeth tir i redeg y wlad, gyda’r brenin ar dop y system, yna’r uchelwyr, a’r werin ar y gwaelod. yn newid, a phan ddechreuodd Edward I ei goncwest o Gymru yn 1277, roedd nifer o’i ddynion yn hurfilwrMilwr proffesiynol a huriwyd i ymladd yn erbyn byddinoedd estron..
Arweiniodd technoleg newydd at newidiadau i’r dulliau ymosod ac amddiffyn. Arweiniodd datblygiad y bwa croes at arfwisgoedd plât, ac arweiniodd cestyll cryfach at beiriannau a thactegau gwarchae gwell, fel tangloddioAdeiladu twneli a cheudyllau dan ddaear er mwyn ymosod ac amddiffyn ar adeg o ryfel.. Erbyn y 15fed ganrif, datblygodd rhyfela ar raddfa llawer mwy, yn fwy technolegol ac yn fwy trefnus.