Beth yw fy hawliau?
Y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (General Data Protection Regulation), neu GDPR, yw un o'r newidiadau mwyaf i gyfraith preifatrwydd data yn ddiweddar. Mae wedi cael ei gynllunio er mwyn i chi reoli sut mae eich gwybodaeth chi yn cael ei chasglu a'i defnyddio gan sefydliadau.
Mae eich data yn bwysig
Rydyn ni eisiau eich helpu chi i ddeall yr hawliau yma. Maen nhw wedi cael eu rhestru isod, ynghyd â chyngor ynglŷn â beth i'w wneud os hoffech chi gael mwy o gymorth.
Os ydych chi'n anfodlon â sut rydym wedi defnyddio eich data personol, gallwch ddysgu sut i roi gwybod i ni a beth sy'n digwydd nesaf.
