Mae’r ffilmiau yn sôn am:
- y teimladau gall blentyn brofi wrth i rieni wahanu
- ddelio gyda newid a sut y gall fywyd bob dydd fod yn wahanol ar ôl i rieni wahanu
- rai syniadau ar gyfer delio gyda sefyllfaoedd sy’n anodd a rhai pethau all helpu plentyn ymdopi gyda newid fel hyn
Mae’r ffilm gyntaf yn edrych ar brofiad Seren o ddelio gyda’i rhieni’n gwahanu a’r newidiadau sydd yn dod yn sgil hynny. Mae’r ail ffilm yn trafod rhai cynigion ar gyfer ymdopi â sefyllfa fel hyn.
Themâu: rhieni yn gwahanu; iechyd meddwl; ymdopi gyda newid; gwytnwch; rheoli teimladau.
Stori Seren: Ffilm 1
Dim ond wyth oed o’n i pan nath Mam a Dad wahanu.
Dwi’n cofio teimlo ychydig yn drist ar y pryd, ond ro’n i’n brysur efo’r clwb dawnsio a ffrindia fi, ac o’dd Cian a fi’n cael hwyl pan oeddan ni’n mynd i aros yn fflat newydd Dad yn dre.
Roedd Dad yn prynu lot o stwff newydd, cŵl i ni hefyd, ond ma bob dim mor wahanol ers i Dad gwrdd â Kate.
O’dd petha’n ocê i gychwyn, achos oeddan ni’n dal i weld Dad yn aml, ond wedyn, am ryw reswm, nath o a Kate benderfynu symud i fyw i Wrecsam. Ma hynna awr i ffwrdd o fama.
Mae o jest isho bod efo Kate drwy’r amser rwan, a ma petha hyd yn oed yn waeth ers i’r babi newydd gyrraedd.
Dwi’m yn dallt. Mae gan Dad ddau o blant yn barod. Os oedd o ddim isho aros efo ni, pam fod o isho babi arall?
Dwi’n poeni weithia mai fy mai i oedd eu bod nhw wedi gwahanu yn y lle cynta.
Dwi wedi trio siarad efo Mam am y peth, ond ’di hi ddim isho siarad am Dad o gwbl. ’Di ddim hyd yn oed yn deud ei enw fo erbyn hyn.
’Dan ni’n mynd i aros dipyn i Wrecsam, ond ma’n rili anodd.
Ma’n anodd gweld Dad mor hapus efo’i deulu newydd. Dwi’m yn siŵr lle ma Cian a fi’n ffitio mewn, a deud y gwir.
Ma’n anodd cofio bob dim hefyd, pan dan ni nôl a ’mlaen rhwng tŷ Mam a tŷ Dad.
Un tro, nes i anghofio mynd â llyfra gwyddoniaeth fi o dŷ Dad, a ges i row wedyn am beidio gwneud y gwaith cartra’.
Ma’n boen gorfod trio cofio pa ddillad ydy rhai tŷ Dad a pha rai ydy dillad tŷ Mam hefyd.
Dydy Mam ddim isho i fi fynd â dillad ma hi’n brynu i fi i dŷ Dad – mae hi’n mynd yn flin efo fi am hynna.
Nes i ddechra yn yr ysgol uwchradd tua’r un pryd a nath Dad symud i Wrecsam. Mae’n wahanol iawn i’r ysgol fach.
Dwi’m yn gweld hen ffrindia fi gymaint rwan a dwi’m yn mynd i’r clwb dawnsio na ddim byd fel’na ddim mwy. Ond ma ffrindia newydd fi’n cŵl.
Nes i sôn wrth Meg, un o ffrindia newydd fi, am y stwff efo Mam a Dad. Ma’i rhieni hi wedi gwahanu hefyd.
O’dd Meg yn meddwl ddylswn i drio siarad efo Dad am y peth. O’dd hi’n deud bod Mam a Dad yn bendant dal yn caru Cian a fi, jest bo nhw ddim yn caru ei gilydd ddim mwy. Ella bod hi’n iawn.
’Dan ni’n mynd i Wrecsam penwythnos yma, felly dwi am drio siarad efo Dad am y peth. Dwi ’di blino poeni am y peth trwy’r amser.
Stori Seren: Ffilm 2
Os ydy dy rieni di’n gwahanu, mae’n naturiol i ti deimlo’n drist, yn flin, yn ddryslyd, neu hyd yn oed deimlo rhyddhad. Sut bynnag rwyt ti’n teimlo, mae’n iawn i ti deimlo felly.
Efallai bod dy rieni wedi gwahanu ers tro, ac mai dim ond nawr rwyt ti’n ei ffeindio hi’n anodd delio gyda’r peth. Mae hynny’n iawn hefyd.
Does dim un ffordd iawn o deimlo pan fydd rhieni’n gwahanu.
Mae llawer o bobl yn teimlo’n euog pan fydd eu rhieni’n gwahanu, ond does dim bai arnat ti. Mae pobl yn gwahanu am bob math o resymau.
Mae dy rieni yn oedolion, a’u penderfyniad nhw ydy hyn. Nid ti sy’n gyfrifol am beth sy’n digwydd, ac er ei bod hi’n gallu teimlo fel dy fod di’n mynd trwy hyn ar ben dy hun, dwyt ti ddim.
Mae llawer o gyplau’n gwahanu. Mae’r plant weithiau wedyn yn byw rhwng dau gartref, neu’n byw gydag un rhiant yn unig, neu’n treulio’r rhan fwyaf o’u hamser gydag un rhiant ac yn gweld y llall ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau.
Efallai mai rhywbeth gwahanol eto fydd trefniadau dy deulu di. Efallai bydd dy rieni yn trafod gyda ti beth fydd y trefniadau newydd, nawr bod nhw’n gwahanu.
Mae’n bwysig i ti rannu dy farn di hefyd, a gofyn cwestiynau, os oes gen ti rai.
Mae’n bwysig bod yr ysgol yn cael gwybod beth sy’n digwydd adref hefyd. Unwaith maen nhw’n gwybod, fe all dy diwtor neu bennaeth blwyddyn dy gefnogi di, a bod yn gefn i ti.
Fe allan nhw wneud yn siŵr bod athrawon eraill yn deall hefyd a bydd hyn yn help os wyt ti’n cael trafferth dal i fyny gyda gwaith ysgol ar hyn o bryd.
Mae newid yn gallu bod yn anodd ac, os yw’r sefyllfa newydd yn golygu dy fod yn rhannu dy amser rhwng dau gartref, gall hynny fod yn heriol.
Un peth gallet ti wneud i helpu gyda hyn yw cadw rhai eitemau pwysig yn y ddau le – pethau fel gwisg ysgol sbâr, neu unrhyw ddillad eraill rwyt ti eu hangen.
Mae cario mlaen gyda rhai pethau rwyt ti’n arfer eu gwneud yn gallu helpu hefyd. Os wyt ti’n mynd i glwb, neu’n cyfarfod ffrind bob wythnos, ceisia ddal ati gyda’r pethau hyn.
Gall y rŵtin fod yn gysur os oes lot o newidiadau eraill yn dy fywyd.
Mae’n anodd pan mae rhieni’n gwahanu, ac mae’n cymryd amser i arfer gydag unrhyw newid, yn enwedig newid mawr fel hyn.
Efallai na fydd pethau’n dod yn haws i’w derbyn, ac efallai na fyddi di’n hoffi lot o’r pethau fydd yn digwydd, ond fe fydd pethau’n dod yn fwy cyfarwydd gydag amser.
A chofia – os oes rhywbeth yn dy boeni, galli bob amser siarad gyda dy rieni, dy ffrindiau, y pennaeth blwyddyn yn yr ysgol,neu gyda chwnselydd.
Gweithgareddau posib
Gweithgaredd 1 - Adnabod emosiynau
Gellid gofyn i'r disgyblion greu graff emosiynau i gofnodi’r ystod o emosiynau mae Seren yn eu profi yn ystod y ffilm (Iechyd a Lles; Mathemateg a Rhifedd; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu)
Gweithgaredd pellach: gellid gofyn i’r disgyblion ddewis tri o’r emosiynau o’r graff uchod gan ysgrifennu (neu drafod gyda phartner) pryd a pham y bu i Seren brofi’r teimlad hwn (Iechyd a Lles; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu)
Er enghraifft:
Tristwch
Pryd oedd hi’n teimlo’n drist? – Roedd hi’n teimlo’n drist pan aeth ei thad i fyw i Wrecsam.
Pam fo hyn yn ei gwneud iddi deimlo’n drist? – Mae hi’n sylweddoli na fydd hi’n gweld gymaint o'i thad. Mae hi’n teimlo’n drist fod ei sefyllfa deuluol wedi newid am byth.
Teimlo’n flin neu’n ddig
Pryd oedd hi’n teimlo’n flin? – Pan gafodd ei thad fabi newydd.
Pam fod hyn yn gwneud hi’n flin? – Mae hi’n flin y bydd gan ei thad blentyn newydd. Mae hi’n teimlo fod ganddo ddau blentyn yn barod – ac efallai’n flin nad ydy hi’n gweld cymaint o'i thad ac yr oedd ar un adeg. Efallai ei bod hi’n teimlo’n flin achos ei bod hi’n meddwl y bydd yn rhaid iddi gystadlu gyda’r babi newydd yma am sylw ei thad.
Gall yr athro/awes dynnu sylw’r disgyblion at y ffaith fod profi’r emosiynau uchod yn hollol naturiol.
Gweithgaredd 2 - Creu amserlen wythnosol
(Cymhwysedd Digidol)
Mae Seren angen bod yn drefnus iawn gyda ei phethau a’i dillad nawr ei bod hi’n rhannu ei hamser rhwng dau gartref. Gellid gofyn i’r disgyblion ymchwilio i’r meddalwedd ddigidol sydd ar gael i gynorthwyo gyda threfnu wythnos / amserlen.
Wrth ymchwilio i’r feddalwedd sydd ar gael gellid gofyn i’r disgyblion ystyried y canlynol:
Pa wybodaeth fyddai’n ddefnyddiol i Seren fedru ei gofnodi yn y feddalwedd? (er enghraifft dyddiau’r wythnos; dyddiadau; amser y dydd; gyda phwy mae hi’n aros; enw’r weithgaredd a’r lleoliad; offer / adnoddau sydd eu hangen arni)
Pa fath o bethau fyddai’n gymorth ychwanegol i Seren gadw trefn ar bethau? (er enghraifft gosod atgoffwyr ar ei ffôn ar adegau penodol; rhannu’r trefnydd / amserelen gyda mam a dad; defnyddio gwahanol liwiau i uwcholeu offer / weithgaredd ayyb).
Gellid gofyn i’r disgyblion ddefnyddio’r feddalwedd i greu amserlen / trefnydd fyddai’n helpu Seren gadw trefn ar y bythefnos yma:
Amerlen Seren
- Dydd Llun, 1 Hydref – Ddydd Gwener, 5 Hydref (aros gyda mam)
- Nos Wener, 5 – Fore Llun, 8 Hydref (aros gyda dad – dad yn mynd â Seren i’r ysgol ar fore Llun, 8 Hydref)
- Dydd Llun, 8 Hydref – Ddydd Gwener, 12 Hydref (aros gyda mam)
- Nos Wener, 12 – 13 Hydref (aros gyda dad)
- 14 Hydref nol gyda mam
- Clwb pêl-rwyd bob nos Lun
- Angen mynd â dillad ymarfer corff i’r ysgol bob dydd Mawrth a dydd Gwener
- Angen gwisgo dillad ei hun ddydd Llun 8 Hydref ar gyfer mynd ar daith ysgol i’r theatr
- Angen cyflwyno prosiect celf erbyn 14 Hydref.
Gweithgaredd 3 - Delio gyda newid
(Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; Iechyd a Lles)
Ar ôl gwylio’r ffilm, gellid gofyn i'r disgyblion
- nodi tri pheth roedd Seren wedi ei wneud i deimlo’n well / helpu ei hun ar ôl i'w rhieni wahanu
- rhifo’r rhain o’r mwyaf effeithiol (rhif 1) i'r lleiaf effeithiol (rhif 3) yn eu barn nhw
- drafod mewn parau pa ddau beth pellach fydda nhw’n ei awgrymu y gallai Seren ei wneud i helpu ei hun ymdopi gyda’r sefyllfa?
Dylid pwysleisio nad oes ateb cywir neu anghywir a bod pawb yn ymdopi ac yn delio gyda heriau’n wahanol. Mae’n bwysig hefyd cofio bod sefyllfa neu her yn gallu teimlo’n anoddach neu’n haws ar wahanol adegau.
Gweithgaredd 4 - Ymateb i lythyr at golofn broblemau mewn cylchgrawn i bobl ifanc
(Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfarthrebu; Iechyd a Lles)
Mae Seren wedi ysgrifennu llythyr at golofn broblemau yn gofyn am fwy o gyngor ar sut i ddelio gyda ei sefyllfa deuluol. Gellid gofyn i’r disgyblion ysgrifennu llythyr yn ymateb i Seren gan rannu awgrymiadau/cyngor gyda hi ar sut i ddelio gyda’r newid (Iaith a Llythrennedd).
Gallai’r disgyblion feddwl am:
- arddull priodol (iaith ffurfiol neu anffurfiol; tôn gyfeillgar / gefnogol ayyb)
- y strwythur – beth i’w gynnwys ar ddechrau, canol a diwedd y llythyr
- gyngor i’w gynnig a hefyd gynnwys brawddegau sy’n perswadio / darbwyllo Seren i geisio rhai o’r awgrymiadau. Gallent chwilio am dystiolaeth i gefnogi’r cyngor a gynnigir – a chynnwys y dystiolaeth yn y llythyr i atgyfnerthu eu pwynt
Cysylltiadau â’r Cwricwlwm
Iechyd a Lles
Rwy'n gallu myfyrio a dysgu o'r gorffennol er mwyn rhagweld a pharatoi fy hun ac eraill ar gyfer profiadau yn y dyfodol.
Rwy'n gallu adnabod gwahanol strategaethau i hunan-reoli fy emosiynau mewn ymateb i ystod o brofiadau.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Rwy’n gallu deall a dadansoddi ystyr cyffredinol a syniadau sydd ymhlyg.
Rwy’n gallu gwrando gydag empathi ar safbwyntiau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol gan ddefnyddio’r safbwyntiau i gyrraedd fy nghasgliadau fy hun.
Rwy’n gallu gwneud dewisiadau gwybodus am eirfa, iaith idiomatig a chystrawen er mwyn mynegi fy hun yn rhugl, yn eglur ac yn gywir.
Rwy’n gallu ymateb i safbwyntiau pobl eraill, gan grynhoi a gwerthuso’r hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu’i weld, strwythuro dadleuon a herio gyda hyder a sensitifrwydd yr hyn y mae eraill yn ei ddweud.
Ble nesa?
Stori Tomos. video
Mae Tomos wedi syrthio mewn cariad am y tro cyntaf. Mae wrth ei fodd â Sara ond mae'n dechrau teimlo nad yw'n gweld llawer ar ei ffrindiau bellach. Sut gall gael gwell cydbwysedd yn ei fywyd - heb chwalu'r berthynas gyda Sara?

Stori Alys. video
Mae Alys yn teimlo'n drist ac yn unig ar ôl i'w ffrind gorau wneud ffrind newydd. Sut fydd Alys yn delio gyda hyn? Pa bethau fydd hi'n eu gwneud i deimlo'n well?

Stori Elis. video
Eleni, bu farw mam Elis. Yn y ffilmiau yma fe welwn sut mae'n delio gyda hyn a sut gall blentyn helpu ffrind sydd wedi colli aelod o'r teulu.

