Episode details

Available for over a year
Mae menyw o Gymru wedi cael ei chydnabod ymhlith enwau mwyaf y diwydiant niwclear yn y Deyrnas Unedig. Mae'r Sefydliad Niwclear wedi cynnwys Sasha Wynn Davies o Ynys Mon ar restr o'r 100 o weithwyr proffesiynol mwyaf dylanwadol yn y maes, gan ganmol ei gwaith yn arwain trafodaethau am ynni, ymgysylltu a chymunedau a datblygu'r sector i'r dyfodol. Fe ddechreuodd ei gyrfa ym maes datblygu economaidd gyda Chyngor Sir Ynys Mon a roedd yn rhan o ddatblygu'r syniad o Ynys Ynni. Yn ddiweddarach ymunodd a chwmni Horizon Nuclear Power gan weithio ar gynllun y Wylfa Newydd.
Programme Website