Episode details

BBC,4 mins
Y Wisg Las i Eurfyl Lewis am godi arian sylweddol at achosion elusennol
Available for over a year
'Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd, ac yn therapi hefyd. Ers blwyddyn a hanner sefydlu pwyllgor apêl, a gweld y bwrlwm a'r brwdfrydedd yn hollol hollol heintus, ac mae wedi cadw fi i fynd a cadw fy ysbryd i lan" Eurfyl Lewis sydd wedi cael ei anrhydeddu gyda'r wisg las am ei waith yn y gymuned ac am codi arian sylweddol at achosion elusennol gyn gynnwys tuag at Eisteddfod. Ffion Emyr sy'n cael cyfle i'w longyfarch, a chofio ei ddiweddar wraig, Jill Lewis. Meddai'r Eisteddfod Genedlaethol: Mae Eurfyl Lewis, o Langlydwen ger Hendy-gwyn ar Daf, yn gyn Swyddog yr Urdd yn Sir Benfro ble bu’n genhadwr egnïol dros yr iaith a’r mudiad, ac ers hynny mae wedi arwain a gwasanaethu llu o sefydliadau crefyddol, diwylliannol a chymunedol. Yn ysbryd byrlymus o wasanaeth, cododd symiau sylweddol at achosion elusennol a chwaraeodd rôl allweddol yn llwyddiant ariannol Eisteddfod y Garreg Las. Mae ei ymroddiad diflino a’i weithredoedd caredig yn gwneud Eurfyl yn llysgennad eithriadol dros werthoedd craidd Cymru.
Programme Website