Episode details

Available for 31 days
A hithau'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, mae Beti George yn holi Joseff Gnagbo. Cafodd Joseff Gnagbo ei eni yn Arfordir Ifori a daeth i Gymru fel ceisiwr lloches yn 2017. Mae o bellach yn byw yng Nghaerdydd. Dysgodd y Gymraeg, ac aeth ymlaen i weithio fel tiwtor Cymraeg. Mae'n ymgyrchydd, athro iaith, ieithydd a cherddor. Bu'n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith ac mae hefyd wedi ymgyrchu dros hawliau ffoaduriaid. Cyn dod i Gymru, roedd yn newyddiadurwr ac yn athro ieithoedd yn Abidjan. Roedd eisoes yn siarad nifer o ieithoedd, gan gynnwys Ffrangeg, Saesneg, Almaeneg a Swahili. Yn 2025, roedd Joseff yn y newyddion - fel y ffoadur cyntaf i sefyll fel ymgeisydd ar gyfer y Senedd.
Programme WebsiteTracklist
- TrackArtist
- 1.Blinded By Your Grace, Pt. 2 (feat. MNEK)Blinded By Your Grace, Pt. 2 (feat. MNEK)Stormzy
- 2.Attention VigilanceAttention VigilancePep Cocktail & Bazeak
- 3.Calon Lan (Gig y Wal Goch, Pontio)Calon Lan (Gig y Wal Goch, Pontio)Bronwen & Cerddorfa Genedlaethol Gymreig Y BBC
- 4.Hen Wlad Fy NhadauHen Wlad Fy NhadauY Wal Goch