Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,21 Jun 2026,56 mins

Elgan Rhys, prosiect 'Sownd', arddangosfa 'Ffasiwn' a Kayley Roberts

Llwyfan gyda Manon Steffan Ros

Available for 26 days

Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt. Yn y rhaglen heddiw mi gawn ni argraffiadau y ffotograffydd Betsan Haf Evans o’r arddangosfa 'Ffasiwn' sydd ymlaen yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd ar hyn o bryd. Mae bardd mis Mehefin BBC Radio Cymru, Kayley Roberts yn galw heibio'r stiwdio am sgwrs gyda'i cherddi. Trafod eu harddangosfa ‘Sownd’ yn yr Instituto Santa Maria della Pietà yn Castello, Fenis mae Manon Awst a Dylan Huw ac fe gawn glywed hefyd sut mae eu gwaith yn treiddio i gymunedau ar hyd a lled Cymru yn sgil y cyflwyniad creadigol yma. Ac mae Elgan Rhys yn rhannu ei brofiadau cyn lansio ei ail nofel 'Plesera'.

Programme Website
More episodes