Episode details

Available for 30 days
Sgwrs gydag Aled Griffiths o Gwmllinau ger Machynlleth, un o aelodau Côr Ffermwyr Hawkstone, enillwyr cyfres Britain's Got Talent eleni. Hefyd, Rheolwr Fferm Coleg Gelli Aur ger Llandeilo, Huw Davies sy'n sôn am agor giatiau'r fferm i'r cyhoedd fel rhan o Open Farm Sunday. Rachel Evans, Cyfarwyddwr Cymru gyda'r Cynghrair Cefn Gwlad sy'n edrych ymlaen at wobrau'r Gynghrair sy'n digwydd yn y Senedd yr wythnos hon. Clwb Ffermwyr Ifanc y mis yw CFFI Uwchaled yn ffederasiwn Clwyd. Ceridwen a Llywela Edwards sy'n sgwrsio am weithgareddau'r clwb. A'r gyfreithwraig Awel Mai Hughes sydd â'r newyddion diweddaraf o ran y polisiau a'r grantiau amaethyddol.
Programme Website