Episode details

Available for over a year
Yr hanesydd Elin Tomos sy'n paru menywod Cymru heddiw ag arloeswyr o'r gorffennol. Yn y bennod hon, mae'r artist Lisa Eurgain Taylor yn camu i fyd Margaret Lindsay Williams, un o artistiaid Cymraeg amlycaf ei chyfnod. Yn ystod ei hoes, fe beintiodd bortreadau di-ri o’r teulu brenhinol, prif weinidogion ac arlywydd America - ond mae ei henwogrwydd wedi pylu ers ei marwolaeth ym 1960. Cawn ddysgu am ymdrechion Margaret i gael ei pharchu mewn diwylliant celfyddydol a oedd yn anwybyddu merched yn ogystal â phrofiad Lisa ei hun o lunio gyrfa mewn byd lle mae menywod yn dal i orfod ymladd am gydnabyddiaeth gyfartal.
Programme Website