Episode details

Radio Cymru,22 May 2022,27 mins
Cofio Butlin's Pwllheli
Available for 31 days
Mae’n 75 mlynedd ers i wersyll eiconig Butlin's agor ym Mhwllheli, ac fel un a oedd yn arfer mynd yno fel plentyn, mae gan y gantores a’r cyflwynydd Ffion Emyr ddiddordeb mawr yn y gwersyll. Mewn rhaglen arbennig, mae Ffion yn olrhain ychydig o hanes y gwersyll, ac yn sgwrsio gyda nifer a oedd yn gweithio yno, a rhai a oedd yn mynd ar wyliau yno. Cawn glywed am y cotiau coch a’r cystadleuthau ‘glamorous Granny’, y gwahanol swyddi roedd rhai o bobl yn ardal yn eu gwneud yno, a’r tân mawr a ddigwyddodd ym 1973. A thybed sut ddyn oedd Billy Butlin ei hun?
Programme Website