Dawnsiau Symffonig
Nos Iau 4/6/26, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
ffrwd fyw
Nos Wener 5/6/26, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe
Igor Stravinsky
Cân yr Eos 21’
Johannes Brahms
Concerto yn A leiaf i’r Ffidil a’r Soddgrwth 32’
EGWYL: 15 munud
Sergey Rachmaninov
Dawnsiau Symffonig 35’
Ryan Bancroftarweinydd
Lesley Hatfield ffidil
Alice Neary soddgrwth
Mae Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i hardystio gan EcoAudio ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r BBC i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth cynaliadwyedd y BBC a’i gynllun i drawsnewid i sero net, ewch i https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/documents/bbc-net-zero-transition-plan-2024.pdf
Mae’r cyngerdd yn Neuadd Hoddinott yn cael ei ffrydio’n fyw a’i ddarlledu’n fyw gan BBC Radio 3 ar Classical Live a bydd ar gael am 30 diwrnod drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol.
Cyflwyniad
Croeso cynnes i’r cyngerdd heno, lle rydyn ni’n croesawu ein Prif Arweinydd Ryan Bancroft yn ôl ar gyfer rhaglen sy’n llawn disgleirdeb, dau ddarn o waith Rwsiaidd naill ochr i goncerto Rhamantaidd gwych.
Comisiynwyd Cân yr Eos gan Stravinsky yn wreiddiol fel opera – sydd ddim yn gyfrwng rydyn ni’n ei gysylltu â’r cyfansoddwr hwn – ond yna aeth ati i ailwampio’r gerddoriaeth i greu bale yn effeithiol iawn. Mae’n seiliedig ar stori tylwyth teg Hans Christian Andersen lle mae medrusrwydd a harddwch naturiol yn mynd benben â’i gilydd, gyda’r olaf yn cario’r dydd.
Lesley Hatfield sy’n symud i ganol y llwyfan o gadair blaenwr y gerddorfa ar gyfer Concerto Dwbl aruchel Brahms. Yn ymuno â hi bydd ei chyn-gydweithiwr, y chwaraewr soddgrwth Alice Neary, ar gyfer perfformiad arbennig iawn o’r campwaith diweddar hwn.
Dawnsiau Symffonig oedd y gwaith olaf a gwblhawyd gan Rachmaninov. Fe’i ysgrifennwyd ar gyfer Cerddorfa enwog Philadelphia a’u Prif Arweinydd Eugene Ormandy ac yn y darn gwefreiddiol hwn mae’r cyfansoddwr yn cyfuno lliw cerddorfaol dychmygus ac egni rhythmig hudolus gyda chrynodeb o’i fywyd fel cyfansoddwr drwy hunan-ddyfyniadau niferus. Mae’n argoeli i fod yn noson i’w chofio.
Cofion cynnes,
Lisa Tregale
Cyfarwyddwr
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rhai sy’n gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Igor Stravinsky (1882–1971)
Cân yr Eos(1917)
Os yw Cân yr Eos yn swnio’n gwbl wahanol i unrhyw beth arall yng nghynnyrch enfawr ac eclectig Igor Stravinsky, mae’n debyg bod hynny oherwydd amgylchiadau anarferol ac estynedig ei chreu. Roedd y cyfansoddwr 26 oed eisoes yn enw blaenllaw ym myd cerddoriaeth pan gysylltodd Theatr Rydd Moscow ag ef yn 1908 gyda chais iddo ysgrifennu ei opera gyntaf, Yr Eos, ar gyfer stori gan Hans Christian Andersen. Manteisiodd ar y cyfle, ond dim ond yr act gyntaf yr oedd wedi’i chwblhau, pan ddaeth prosiect arall i fynnu ei sylw. Roedd yr impresario Sergei Diaghilev eisiau rhywfaint o gerddoriaeth ddawns ar gyfer ei Ballets Russes: y canlyniadau fyddai Yr Aderyn Tân yn 1910, a fu mor llwyddiannus fel y’i dilynwyd yn gyflym gan Petrushka yn 1911, yna Defod y Gwanwyn yn 1913 a ddaeth i diffinio’r oes ac ysgogi terfysg. Canfu Stravinsky ei hun yn enfant terrible ac yn seren fyd-eang ar yr un pryd – ac roedd hefyd yn gyfansoddwr cerddoriaeth wahanol iawn i’r hyn roedd wedi bod yn ei ysgrifennu cyn y triawd hwnnw o sgoriau bale arloesol. Roedd dychwelyd at ei opera seiliedig ar stori dylwyth teg Hans Christian Andersen yn teimlo bron yn amhosibl. A fyddai Theatr Rydd Moscow yn hapus i dderbyn yr act gyntaf yn unig? Na, roeddent wedi mynnu’r sgôr cyfan fel y cytunwyd – dim ond i fynd yn fethdalwyr yn 1914, yn union fel yr oedd Stravinsky yn gorffen y gwaith. Serch hynny, perfformiwyd Yr Eos am y tro cyntaf erioed yn Opera Paris ym mis Mai 1914.
Ond nid oedd Stravinsky wedi’i argyhoeddi o hyd, nid yn unig gan y newid mewn arddull gerddorol rhwng act gyntaf yr opera a’r gweddill, ond hefyd ynghylch ai opera oedd y ffurf gywir ar gyfer stori Yr Eos hyd yn oed. Awgrymodd drawsnewid cerddoriaeth yr opera yn sgôr bale, a darbwyllodd ei gydweithiwr blaenorol Diaghilev i’w llwyfannu, ac (ar ôl perfformiad cyntaf cerddorfaol yn unig yng Ngenefa yn 1919) fe wnaeth hynny yn 1920, eto yn Opera Paris, gyda choreograffi gan Leonid Massine a dyluniadau gan Henri Matisse.
Y gerddoriaeth bale gerddorfaol hon fyddwn yn ei chlywed heno, ond mae ei straeon cerddorol bywiog yn gwneud iawn am unrhyw ddiffyg lleisiau. Ac er bod Stravinsky wedi tynnu ei cherddoriaeth yn gyfan gwbl o’r actau a gyfansoddodd ar ôl tanio Defod y Gwanwyn, mae'n gyfuniad hynod ddiddorol o’i naws egsotig, gyfoethog a gorfoleddus flaenorol, a moderniaeth galetach o lawer, sydd weithiau’n giaidd.
Mae’r darn yn agor yng nghanol bwrlwm a gweithgarwch palas Ymerawdwr Tsieina, lle mae gwledd yn cael ei pharatoi. Mae’r Ymerawdwr a gwŷr y llys yn dod i mewn i sŵn gongiau taranllyd a chri swnllyd gan y ffidlau a’r ffliwtiau, cyn i gân eos – a glywir mewn cadenza estynedig ar gyfer ffliwt unawdol – beri i’r Ymerawdwr wylo. Mae ei ymwelydd – Ymerawdwr Japan – wedi dod ag eos fecanyddol fel anrheg, ac mae Stravinsky’n ei chyflwyno gyda synau tebyg i larwm a grŵn peiriannau. Wedi’i gwrthod, mae’r eos fyw yn hedfan ymaith at bysgotwr, a chlywir ei chân mewn alaw bruddglwyfus ar yr utgorn.
Wedi’i wahanu oddi wrth ei annwyl aderyn, mae Ymerawdwr Tsieina yn mynd yn ddifrifol wael, ac mae darnau prudd a galarus eu naws gan drombonau a thiwba fel pe baent yn rhagfynegi ei dranc. Ond mae dychweliad yr eos go iawn ar unawd ffliwt arall yn llonni ei ysbryd, ac yn ei suo i gwsg adferol. Mae Stravinsky yn gorffen, fodd bynnag, nid gyda dathlu adferiad iechyd yr Ymerawdwr, ond gyda’r eos yn dychwelyd i ryddid gyda’r pysgotwr arbennig, a glywir eto mewn unawd hiraethus ar yr utgorn.
Nodyn y rhaglen © David Kettle
Johannes Brahms (1833–97)
Concerto yn A leiaf i’r Ffidil a’r Soddgrwth, Op. 102 (1887)
1 Allegro
2 Andante
3 Vivace non troppo
Lesley Hatfield ffidil
Alice Neary soddgrwth
Roedd Johannes Brahms yn 20 oed pan gyfarfu ar hap yn ystod taith gyngerdd â rhywun a ddaeth yn ffrind a drawsnewidiodd ei fywyd a’i waith. Roedd y feiolinydd o Hwngari, Joseph Joachim, ddwy flynedd yn hŷn nag ef, ond roedd eisoes yn unawdydd a oedd yn enwog ledled Ewrop: fel plentyn rhyfeddol 12 oed, roedd wedi perfformio Concerto Beethoven i’r Ffidil yn Llundain, dan arweiniad Felix Mendelssohn. Joachim a gyflwynodd Brahms i Robert a Clara Schumann, a ddaeth i fod y ffigurau ffurfiannol mwyaf dylanwadol ym mywyd y cyfansoddwr ifanc; a thros y blynyddoedd ysgrifennodd ei sonatas i’r ffidil, ei goncerto a llawer o’i gerddoriaeth siambr i Joachim eu perfformio.
Roedd Joachim a Brahms yn gymeriadau cymhleth nad oedd eu perthnasoedd rhyngbersonol amrywiol byth yn esmwyth. Ar ôl i Gisela von Arnim (merch yr awdur Bettina von Arnim) wrthod cynnig Joachim i’w phriodi, mabwysiadodd y feiolinydd arwyddair personol, sef ‘Frei aber einsam’ (Rhydd ond unig). Roedd hyn yn trosi’n seiffr cerddorol: y nodau F–A–E. Gyda Robert Schumann a chyfansoddwr arall, Albert Dietrich, cyd-greodd Brahms y Sonata ‘F–A–E’ i Joachim, gyda’r gerddoriaeth yn deillio o’r motiff hwn. Yn ddiweddarach priododd Joachim ag Amalie Schneeweiss, contralto wych. Ni phriododd Brahms erioed, a honnir iddo fabwysiadu arwyddair-motiff tebyg, F–A–F: ‘Frei aber froh’ (Rhydd ond hapus) – er nad oedd yn hapus mewn gwirionedd. Mae ymchwiliadau cerddolegol diweddar wedi cwestiynu ei fwriad, ond eto mae’r patrwm F–A–F yn ymddangos yn aml yn ei gerddoriaeth.
Ym 1884, daeth Joachim yn argyhoeddedig bod Amalie yn cael perthynas â rhywun arall. Cymerodd Brahms ei hochr hi ac ysgrifennodd lythyr cefnogol ati. Aeth yr achos ysgariad – nad oedd yn gyffredin yn yr oes honno – i’r llys, lle defnyddiwyd llythyr Brahms fel tystiolaeth. Profodd yr hollt a ddatblygodd yn ei gyfeillgarwch â Joachim yn anodd ei wella wedi hynny. Yn ystod haf 1887, ar wyliau ar lan Llyn Thun yn y Swistir, aeth Brahms ati i greu offrwm heddwch cerddorol: concerto dwbl i’r ffidil a’r soddgrwth ar gyfer Joachim a chwaraewr soddgrwth ei bedwarawd llinynnol, Robert Hausmann. Yn ffodus, bu’r dacteg yn llwyddiannus. Y ddau gerddor oedd yr unawdwyr yn y perfformiad cyntaf yn Cologne ym mis Hydref 1887 – a, hyd yn oed os oedd y beirniaid braidd yn negyddol (ac roedd Clara Schumann o’r farn nad oedd yr unawdau a ysgrifennwyd yn wych), llwyddodd i ddod â Brahms a Joachim yn ôl at ei gilydd.
Mae’r gwaith yn llawn syniadau cerddorol a oedd yn targedu Joachim mewn ffyrdd y byddai ef wedi sylwi arnynt, hyd yn oed os na fyddai eraill wedi gwneud hynny. Mae’r motiff F–A–E yn ymddangos yn gynnil, wedi’i drawsnewid yn F–E–A, E–A–F lonnod ac amrywiadau eraill. Mae wedi’i wau i mewn i’r symudiad cyntaf stormus a dramatig, wedi’i gladdu yn llinellau telynegol yr Andante ac, fel E–F–E–A, mae’n rhan o brif thema’r diweddglo. Yn y symudiad araf, mae’r ddau offeryn unawdol yn chwarae mewn unsain, fel pe baent mewn symbiosis heddychlon. Ac yn olaf, mae Brahms yn cynnig dawns Hwngaraidd egnïol, sy’n cloi’r concerto yn fuddugoliaethus.
Nodyn y rhaglen © Jessica Duchen
EGWYL: 15 munud
Sergey Rachmaninov (1873–1943)
Dawnsiau Symffonig, Op. 45(1940)
1 Non allegro
2 Andante con moto
3 Lento assai
Dawnsiau Symffonig oedd y gwaith olaf a gwblhawyd gan Rachmaninov. Roedd wedi ffoi o Rwsia yn dilyn Chwyldro 1917, gan fyw’n ansicr i ddechrau rhwng y Swistir a’r Unol Daleithiau, cyn ymgartrefu’n barhaol yn America yn 1936, lle bu’n rhaid iddo yn y lle cyntaf ddibynnu ar deithiau perfformio blinderus i gynnal ei deulu. Cyfaddefodd: ‘Pan adawais i Rwsia, fe adawais ar ôl yr awydd i gyfansoddi: drwy golli fy ngwlad, fe gollais i fy hunan hefyd.’ Ond wnaeth hynny ddim para’n hir. Tua diwedd 1940, synnodd ei ffrind, yr arweinydd Eugene Ormandy, gyda llythyr: ‘Yr wythnos diwethaf, gorffennais ddarn symffonig newydd ac, yn naturiol, rydw i eisiau ei roi i chi a’ch cerddorfa yn gyntaf. Teitl y darn yw Dawnsiau Rhyfeddol. Rwy’n dechrau ar y trefniant cerddorfaol.’
Ailenwyd y Dawnsiau Rhyfeddol hynny yn fuan wedyn, ac fe gafodd Rachmaninov wared ar deitlau gwreiddiol ei symudiadau hefyd – ‘Hanner Dydd’, ‘Gwyll’ a ‘Hanner Nos’ – cyn i'r Dawnsiau Symffonig gael eu perfformio am y tro cyntaf erioed gan Ormandy a Cherddorfa Philadelphia ar 3 Ionawr 1941. Yn anarferol i Rachmaninov, cerddoriaeth ddawns a geir yn y darn hwn drwyddo draw; ac mae ei ffocws ffyrnig ar rythm yn gwneud hynny’n gwbl glir. Hwyrach fod y cyfansoddwr wedi cael ei ysbrydoli ar ôl i'r coreograffydd Michel Fokine ail-ddychmygu darn y cyfansoddwr, Rhapsodi ar Thema gan Paganini, fel bale yn 1939. Trafododd y ddau ohonynt droi'r Dawnsiau Symffonig yn waith dawns: roedd Fokine yn awyddus, ond bu farw’n sydyn ym 1942 cyn y gallai’r prosiect fynd rhagddo.
Fodd bynnag, gyda’i dri symudiad sylweddol, mae’r darn hefyd yn symffoni i bob pwrpas oni bai am yr enw – neu efallai, drwy arddangos lliwiau offerynnol unawdol (o sacsoffon yn suo i glinddarach seiloffon), ei fod yn fwy o goncerto i gerddorfa.
Ar ben hynny, defnyddiodd Rachmaninov y Dawnsiau Symffonig i grynhoi ei lwyddiannau ei hun fel cyfansoddwr, gan ddyfynnu sawl un o’i ddarnau yn y gwaith, yr oedd, efallai, yn tybio fyddai ei ffarwel i gyfansoddi. Yn agos at ddiwedd y symudiad cyntaf dramatig, er enghraifft, mae’r llinynnau’n canu alaw debyg i lafargan Rwsiaidd dros gyfeiliant disglair ar y piano, y delyn a’r glockenspiel. Thema o Symffoni Gyntaf Rachmaninov yw hon; cyfeiriad y bwriedid iddo aros yn gyfrinach – roedd y cyfansoddwr yn credu bod sgôr y Symffoni wedi cael ei dinistrio yn dilyn y perfformiad cyntaf trychinebus.
Walts hudolus yw’r ail symudiad, sy’n cyfleu awyrgylch anesmwyth gyda’i harmonïau rhyfedd, breuddwydiol.
Mae’n ymddangos bod y trydydd symudiad dramatig yn disgrifio dim llai na brwydr dynoliaeth i fyw, mewn ysgarmes rhwng plaengan Dies irae o’r Offeren Requiem Ladin, yn cynrychioli marwolaeth, ac alaw Rwsiaidd Uniongred o Vespers gan Rachmaninov ei hun, sydd, efallai, yn cynrychioli atgyfodiad. Mae ei rythmau’n dyrnu mynd ac yn adeiladu’n ddiwrthdro tuag at uchafbwynt buddugoliaethus.
Nodyn y rhaglen © David Kettle
Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni
Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:
Os gwnaethoch chi fwynhau’r cyngerdd heddiw, dewch â theulu a ffrindiau gyda chi i’n cyngherddau nesaf. Fel un sydd eisoes yn aelod o’n cynulleidfa, gallwch brynu’r tocynnau hyn am £8 drwy ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU wrth brynu ar-lein.
Ymunwch â ni eto’r tymor nesaf wrth i ni barhau ar ein taith gerddorol gyda rhaglen ysbrydoledig o berfformiadau i’ch synnu, eich swyno a’ch symud. O gampweithiau poblogaidd i ddarganfyddiadau newydd cyffrous, bydd cyngherddau tymor 2026/27 yn dod ag artistiaid ardderchog a repertoire cyffrous ynghyd mewn cyfres sydd â rhywbeth ar ddant pawb. Edrychwn ymlaen at eich croesawu’n ôl ar gyfer tymor arall o brofiadau bythgofiadwy.
Gallwch archebu tocynnau am gyn lleied â £8 gan ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU https://www.bbc.co.uk/events/evr6gw
Bywgraffiadau
Ryan Bancroft arweinydd
Magwyd Ryan Bancroft yn Los Angeles a daeth i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf yn 2018 pan enillodd y Wobr Gyntaf a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth Malko i Arweinyddion Ifanc yn Copenhagen. Ers mis Medi 2021, bu’n Brif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae hefyd yn Artist Cyswllt gyda’r Tapiola Sinfonietta ac, ers mis Medi 2023, mae wedi bod yn Brif Arweinydd Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm.
Ar ôl dechrau ar ei gyfnod fel Prif Arweinydd yn Stockholm gyda pherfformiad cyntaf y gerddorfa o The High Mass gan Sven-David Sandström, roedd ei ail dymor wedi cynnwys perfformiadau o symffonïau gan Mahler a Bruckner, ochr yn ochr â’r perfformiadau cyntaf erioed o weithiau gan Chrichan Larson a Zacharias Wolfe, a chydweithrediadau gydag unawdwyr enwog gan gynnwys Leif Ove Andsnes, Maxim Vengerov a Víkingur Ólafsson.
Y tymor hwn, mae wedi ymddangos am y tro cyntaf gyda cherddorfeydd Symffoni Radio Boston a’r Ffindir, Deutsches Symphonie-Orchester Berlin yn y Berlin Philharmonie, a’r WDR Symphonieorchester yn Cologne.
Mae Ryan Bancroft yn frwd dros gerddoriaeth gyfoes ac mae wedi perfformio gyda’r Nieuw Ensemble yn Amsterdam, wedi cynorthwyo Pierre Boulez mewn perfformiad o’i Sur incises yn Los Angeles, wedi rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau gan Sofia Gubaidulina, John Cage, James Tenney ac Anne LeBaron, ac wedi gweithio gyda cherddorion byrfyfyr fel Wadada Leo Smith a Charlie Haden. Astudiodd yn Sefydliad Celfyddydau Califfornia, Conservatoire Brenhinol yr Alban, ac yn yr Iseldiroedd.
Lesley Hatfield ffidil
James Fear
James Fear
Mae Lesley Hatfield yn byw bywyd cerddorol amrywiol, sy’n cyfuno ei rôl fel blaenwr Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC â cherddoriaeth siambr, perfformio fel unawdydd, ac addysgu. Yn ystod ei gyrfa gynnar, fel cerddor siambr ac aelod o Gerddorfa Siambr Ewrop, bu’n gweithio gyda dau a gafodd ddylanwad parhaol ar y ffordd mae’n edrych ar gerddoriaeth, sef Sándor Végh a Nikolaus Harnoncourt. Roedd yn gyd-flaenwr yn y Northern Sinfonia ac yn flaenwr yng Ngherddorfa Ulster cyn ymgymryd â’i rôl bresennol yn 2004.
Mae cerddoriaeth siambr wedi bod yn rhan bwysig o’i bywyd cerddorol erioed. Mae’n aelod o Ensemble Gaudier ac mae’n cymryd rhan yn rheolaidd fel gwestai mewn amrywiaeth eang o wyliau cerddoriaeth siambr ac ensembles. Fe’i gwahoddir yn rheolaidd i berfformio yn y Seminar Cerddorion Rhyngwladol ar Gerddoriaeth Siambr Agored yn Prussia Cove ers 1986, ac mae bellach yn ymwneud yn agos â’r mentrau a redir gan IMS yn y gymuned ehangach yng Nghernyw. Mae wedi ymddangos fel blaenwr gwadd, unawdydd a chyfarwyddwr gyda sawl cerddorfa ar draws y DU ac yn Ewrop, mae wedi recordio ar gyfer labeli blaenllaw, ac mae i'w chlywed yn rheolaidd ar BBC Radio 3.
Yn rhinwedd ei swydd gyda BBC NOW, mae wedi chwarae rhan ganolog yng nghymuned gerddorol ffyniannus Cymru ers dros 20 mlynedd, ac wedi bod yn eiriolwr dros bwysigrwydd cerddoriaeth i bawb er lles y meddwl a’r enaid.
Mae galw mawr amdani fel athro, ac mae’n cyfrannu’n frwd fel Noddwr Creu Cerddoriaeth, Newid Bywydau, sef elusen yng Nghaerdydd sydd â’r nod o drawsnewid bywydau plant a’u cymunedau drwy gerddoriaeth a’r cyfle i ddysgu chwarae offerynnau. Mae hefyd yn un o ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Albert ac Eugenie Frost, sy’n cefnogi chwaraewyr llinynnau ifanc ac yn annog cerddoriaeth siambr ar bob lefel ym mhob cwr o’r DU, yn ogystal â galluogi’r rhaglen preswyliadau nodedig i bedwarawdau llinynnol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Mae Lesley Hatfield yn Gymrawd yr Academi Gerdd Frenhinol a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Alice Neary soddgrwth
Mae gan Alice Neary yrfa berfformio llawn amrywiaeth fel cerddor siambr, unawdydd a phrif chwaraewr soddgrwth. Mae’n gyn Brif Chwaraewr Soddgrwth Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae ei pherfformiadau mewn gwyliau yn cynnwys cyfres siambr BBC Proms, Marlboro, Caerfaddon, Santa Fe (USA), AWE Seland Newydd a Lofoten. Mae ei pherfformiadau diweddar yn cynnwys Don Quixote gan Strauss a concerti gan Honegger a Cheryl Frances-Hoad.
Yn ddiweddar, ymunodd â’r London Haydn Quartet a bu’n aelod o’r Gould Piano Trio rhwng 2001 a 2018, gan recordio dros 25 CD gyda nhw, yn ogystal â rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau newydd gan Syr James MacMillan a Mark Simpson.
Mae ei recordiadau unawdol yn cynnwys concerti gan Tovey, Robin Stevens a Howells a sonatau gan Mendelssohn, Sterndale Bennett, Tovey, Pamela Harrison ac Ireland.
Mae hi wedi ymddangos fel chwaraewr soddgrwth gwadd gyda nifer o grwpiau, gan gynnwys y Nash Ensemble, Manchester Collective, Academy of St Martin’s Chamber Ensemble, Ensemble 360 a phedwarawdau Endellion, Elias, Sacconi, Maxwell a Heath. Mae hi’n cydweithio â’r pianyddion Viv McLean, Jâms Coleman a Benjamin Frith. Mae ei hymweliadau rheolaidd ag IMS yn Prussia Cove, Marlboro Festival USA a gŵyl Cerddoriaeth Siambr Dyffryn Gwy yn ysbrydoliaeth barhaus. Mae wedi ymddangos yn ddiweddar fel prif chwaraewr soddgrwth gwadd gyda Cherddorfa Ffilharmonig Oslo, Cerddorfa’r Tŷ Opera Brenhinol, Philharmonia, Hallé, Academy of St Martin in the Fields, Cerddorfa Ffilharmonig y BBC a Cherddorfa Symffoni’r BBC.
Astudiodd gyda Ralph Kirshbaum yn y Royal Northern College of Music ac fel ysgolhaig Fulbright gyda Timothy Eddy yn Stony Brook, Unol Daleithiau America. Enillodd Wobr Pierre Fournier yn 1998, gan ymddangos am y tro cyntaf yn Neuadd Wigmore y flwyddyn ganlynol.
Yn y gorffennol, mae wedi dysgu’r soddgrwth yn RNCM a’r Coleg Cerdd Brenhinol ac mae bellach yn byw yn ei dinas enedigol, Caerdydd, lle mae’n gymrawd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Fe wnaeth hi a’i gŵr David Adams sefydlu Gŵyl Cerddoriaeth Siambr Penarth yn 2014.
Mae Alice Neary yn chwarae soddgrwth gan Alessandro Gagliano o 1710.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.
Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.
Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.
Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn y BBC Proms a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.
Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Ffidlau Cyntaf
Roisin Verity blaenwr gwadd
Martin Gwilym-Jones is-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonaldTerry PorteusSuzanne CaseyŽanete UškāneKerry Gordon-SmithEmilie GoddenRuth Heney **Alejandro TrigoCarmel Barber
Anna Cleworth
Gary George-Veale
Laura Senior
Ail Ffidlau
Anna Smith *Kirsty Lovie #Ros ButlerSheila SmithLydia Caines **Vickie RingguthRoussanka KaratchivievaJoseph WilliamsBeverley WescottMichael Topping
Katherine Miller
Christiana Mavron
Fiolâu
Rebecca Jones *Alex Thorndike #Tetsuumi NagataPeter TaylorCatherine PalmerAnna GrownsLydia AbellLaura Sinnerton
Robert Gibbons
Nancy Johnson
Soddgrythau
Leo Popplewell Jessica FeaverSandy BartaiCarolyn HewittAlistair HowesRachel Ford
Keith Hewitt
Kathryn Graham
Basau Dwbl
David Stark *
Alexander Jones #Richard LewisChristopher Wescott
Emma Prince
Antonia Bakewell
Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis
Piccolo
Lindsey Ellis †
Oboau
Steve Hudson *Samuel Willsmore
Amy McKean
Cor anglais
Amy McKean †
Clarinetau
Nicholas Carpenter *William White
Lenny Sayers +**
Clarinét Bas
Lenny Sayers †+**
Sacsoffon Alto
Kyle Horch
Jarosław Augustyniak *
Patrick BoltonDavid Buckland
Isfasŵn
David Buckland †
Cyrn
Tim Thorpe *Meilyr Hughes
Benjamin Hartnell-Booth
Flora Bain
John Davy
Utgyrn
Philippe Schartz *Robert Samuel
Corey Morris †
Trombonau
Donal Bannister*
Clara Daly-Donnellan
Trombôn Bas
Darren Smith †
TiwbaArcangelo Fiorello
TimpaniSteve Barnard *
Offrynnau Taro
Ewan Miller
Phil Girling
Andrea Porter
Sarah Mason
Harry Lovell-Jones
Telynau
Tomos Xerri
Bethan Semmens
Piano
Catherine Roe Williams
Selesta
Chris Williams
* Prif Offerynnwr yr Adran† Prif Offerynnwr‡ Prif Offerynnwr Gwadd# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyolRoedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale Rheolwr y Gerddorfa Liz WilliamsRheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **Rheolwr Staff y GerddorfaKevin MyersCydlynydd y Gerddorfa a GweithrediadauEleanor HallCydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig George LeeRheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **Cynhyrchydd Mike SimsCynorthwyydd DarlleduEmily PrestonPennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks Cydlynydd Marchnata Angharad Muir–Davies (cyfnod mamolaeth)Cynhyrchydd Digidol Angus RaceCydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet BaughPrentis Marchnata Mya ClaydenCynhyrchydd AddysgBeatrice CareyCynhyrchydd Addysg/Rheolwr y Corws Rhonwen Jones
Uwch Oruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa BlofeldRheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead + Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Richie Basham
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
