Fantastique
Nos Sadwrn 3/10/26, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe
Lili Boulanger
D’un matin de printemps (Ar Fore o Wanwyn) 5’
FranzSchubert
Allegretto yn C fwyaf 10’
Ludwig van Beethoven
Ffantasi Gorawl yn C leiaf 20’
EGWYL: 15 munud
Hector Berlioz
Symphonie fantastique 49’
Jaime Martínarweinydd
Steven Osbornepiano
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 ar gyfer Radio 3 in Concert. Bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol.
Cyflwyniad
Heno rydym yn perfformio rhai o weithiau mwyaf dychmygus y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif a gyfansoddwyd gan gerddorion a oedd wrth eu boddau’n gwthio ffiniau cerddorol ac sy’n cael eu cyflwyno gan amrywiaeth o artistiaid gwych.
Ffantasi yw’r thema, gyda phob darn yn creu ei ddelweddau ei hun ac yn amrywio o’r od i’r aruchel, ac o unawd ar y piano i rym cyfun cerddorfa a chorws.
Dechreuwn gyda phortread Lili Boulanger o fore o wanwyn – D’un matin de printemps – gwaith sy’n llawn lliw ac addurniadau rhyfeddol. Dilynwn hynny gydag ennyd dawel ar gyfer unawd ar y piano, sef fersiwn Steven Osborne o Allegretto gan Schubert, cyn symud ymlaen i Ffantasi Gorawl Beethoven, gwaith nad yw’n cael ei glywed yn aml. Mae’r darn hwn gan Beethoven yn berl go iawn, gan ddod â’r piano, y gerddorfa a’r corws ynghyd yn un o’i greadigaethau mwyaf dyfeisgar. Cafodd ei ysgrifennu tua 15 mlynedd cyn y Nawfed Symffoni,ac mae’n teimlo fel bod Beethoven yn arbrofi gyda syniadau a fyddai’n blodeuo’n ddiweddarach yn ei ‘Ode to Joy’ enwog.
Rydym yn gorffen gyda’r Symphonie fantastique gan Berlioz, un o’r gweithiau mwyaf beiddgar a gyfansoddwyd erioed: yn llawn angerdd, yn anesmwytho ac yn hynod wreiddiol, mae’n dal i fod yn daith gyffrous i feddylfryd chwyldroadwr go iawn.
George Lee
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rhai sy’n gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Lili Boulanger (1893–1918)
D’un matin de printemps (Ar Fore o Wanwyn)(1917–18, trefn. 1918 )
Mae llawer o weithiau offerynnol Lili Boulanger yn bodoli mewn trefniannau gwahanol ar gyfer cyfuniadau amrywiol – arferiad a gafodd ei annog yn ddi-os gan ei chyhoeddwr, Ricordi, er mwyn sicrhau’r farchnad ehangaf bosibl ar gyfer ei gweithiau. D’un matin de printemps (‘Ar Fore o Wanwyn’) oedd y gwaith olaf a gwblhawyd gan Boulanger y mae llawysgrif ohono wedi goroesi yn ei llaw ei hun; cyhoeddwyd ef mewn fersiynau ar gyfer ffliwt a phiano, ffidil a phiano, triawd piano a cherddorfa fawr. Mae’r fersiwn olaf hon yn cynnwys amrywiaeth sylweddol o ran ansawdd a gwead o fewn dim ond pedair munud a hanner.
Mae gan D’un matin de printemps fywiogrwydd nad ydyw, am eiliad hyd yn oed, yn dwyn i gof sefyllfa’r gyfansoddwraig a’i salwch angheuol. Yn hytrach, mae’r anghytgord egr nad yw’n cael ei adfer yn yr agoriad yn awgrymu y byddai Boulanger wedi teimlo’n gartrefol yng nghwmni ei chyfoedion ifanc o grŵp cyfansoddwyr Les Six (Auric, Durey, Honegger, Milhaud, Poulenc a Tailleferre), a oedd yn rhoi bywyd newydd i gerddoriaeth glasurol drwy gyflwyno elfennau annisgwyl a digywilydd. Mae hyd yn oed yr ailadrodd ar ran o’r thema ar unwaith, hanner tôn yn uwch, yn nodwedd a ddaeth yn arwyddnod o waith Poulenc.
Mae’r thema agoriadol honno’n cael ei throsglwyddo’n chwareus o un offeryn i’r llall ac yn dychwelyd ar ffurf amrywiol ac yn llawer uwch ei sain ar ddiwedd y darn, yn dilyn adran ganolog sy’n cyferbynnu â’r gweddill, gan grwydro’n harmonig ac yn dawelach, a chyfres o ailadroddiadau ffug. Mae Boulanger yn cynnal y momentwm rhythmig drwyddi draw, ac mae ei gweledigaeth o fore o wanwyn yn arddangosfa gerddorfaol ddisglair.
Nodyn y rhaglen © Caroline Potter
Franz Schubert (1797–1828)
Allegretto yn C fwyaf, D346 (c1815–16), cwblhawyd gan Steven Osborne
Steven Osbornepiano
Prin yw’r cyfansoddwyr, mae’n debyg, ac eithrio Mozart, sydd wedi gadael cynifer o weithiau anorffenedig â Schubert. Mae’r rhain yn amrywio o symudiadau unigol sy’n peidio cyn y diwedd i symudiadau sonata, pedwarawd neu symffoni cyfan a gafodd eu rhoi o’r neilltu cyn ystyried eu symudiadau dilynol. Mae’r ffaith bod Schubert yn ymddangos yn fodlon i roi gweithiau o ansawdd mor uchel eu safon â’r Quartettsatz yn C leiaf neu’r Wythfed Symffoni o’r neilltu a symud ymlaen at bethau hyd yn oed yn well yn dangos cyflymder ei feddwl fel cyfansoddwr, a ffrwythlondeb syfrdanol ei ysbrydoliaeth.
Gall y gweithiau mwy siarad drostynt eu hunain – yn wir, anaml y mae ychwanegu symudiadau pellach at y Quartettsatz a’r Wythfed Symffoni wedi bod yn foddhaol. Fodd bynnag, mae’r darnau llai wedi’u tynghedu i beidio â chael eu clywed, heb ymyrraeth olygyddol ddigonol i’w gwneud yn berfformiadwy, boed trwy sgorio o frasluniau neu ddychmygu bariau clo ar gyfer gweithiau sy’n dod i ben cyn y diwedd. Yn aml, mae ymdrechion o’r fath yn datgelu cerddoriaeth sydd, er ei bod yn annhebyg o fod ymhlith gweithiau mwyaf poblogaidd y cyfansoddwr, yn aml yn taflu goleuni newydd ar eu datblygiad fel cyfansoddwr ar y pryd. Dyna’r sefyllfa gyda’r Allegretto hwn, a allai fod wedi’i fwriadu fel diweddglo i’r Sonata yn C fwyaf, D279 – torso tri symudiad sy’n dod i ben ar ôl y Minuet. Mae’r Allegretto yn gwneud defnydd gwych o’i ffigur esgynnol pedwar nodyn nodweddiadol ond mae’n dod i stop yn sydyn yn dilyn rhan fortissimo (uchel iawn) yn F leiaf, lle mae’r gwaith a gwblhawyd gan Steven Osborne yn cychwyn. Allwch chi glywed yr asiad?
Nodyn y rhaglen © David Threasher
Ludwig van Beethoven (1770–1827)
Ffantasi Gorawl yn C leiaf, Op. 80 (1808, diw. 1809)
Steven Osbornepiano
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Mae gan y Ffantasi Gorawl hanes brith. Cafodd ei chyfansoddi ar ddiwedd 1808, i roi ‘diweddglo disglair’ (yn ôl disgybl Beethoven, Carl Czerny) i gyngerdd aruthrol yr 22ain o Ragfyr – lle cyflwynodd Beethoven ei Bumed a’i Chweched Symffoni a’i Bedwerydd Concerto i’r Piano i’r cyhoedd yn Fienna. Fodd bynnag, ni chafwyd llawer o amser i ymarfer y Ffantasi Gorawl felly aeth y perfformiad ar chwâl a bu’n rhaid ei ailddechrau.
Er gwaethaf y dechrau anffodus hwn, daeth y Ffantasi Gorawl yn boblogaidd, â barnu yn ôl y nifer mawr o argraffiadau a gyhoeddwyd gan ei gyhoeddwr cyntaf, Breitkopf & Härtel. Dim ond yn ddiweddarach yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn yr ugeinfed ganrif, y dirywiodd ei statws; daeth gwaith a ddisgrifiwyd gan E. T. A. Hoffmann fel gwaith ‘meistrolgar’ i gael ei ystyried yn odrwydd pur – dim mwy na rhagflaenydd trwsgl i ddiweddglo mawreddog y Nawfed Symffoni, a gwaith sy’n rhagddarlunio thema’r ‘Ode to Joy’.
Mae sylwebyddion wastad wedi teimlo awydd cryf i roi cyfansoddiadau cerddorol mewn categorïau penodol, ond i ba gategori yr oedd y darn rhyfedd hwn yn perthyn? Efallai hefyd ei fod yn rhyddhad iddynt ddod o hyd i enghraifft o Beethoven y cyfansoddwyr gwych yn baglu am unwaith; roedd yma gyfle prin i’w fychanu. Nid oedd diweddglo’r Nawfed Symffoni hithau’n rhydd rhag beirniadaeth oherwydd ei natur gymysglyd. Ond cafodd y Ffantasi Gorawl lawer mwy o feirniadaeth: cyfres o amrywiadau syml ar thema debyg i gân, wedi’i chyflwyno gan unawd od ar y piano, ac yna – fel yn y Nawfed Symffoni – yn cael ei pherfformio yn gyntaf gan unawdydd, yna gan y gerddorfa, ac yn olaf gan y lleisiau, ond yn gorffen (fel y Nawfed Symffoni a’r Missa solemnis) gyda’r gerddorfa yn unig.
Efallai fod hyn yn wir, i raddau. Ond does bosib bod rhagoriaeth amlwg diweddglo’r Nawfed Symffoni yn rheswm dros ddiystyru’r gwaith hwn. Beth bynnag, mae’r tebygrwydd rhwng y ddau symudiad yn arwynebol i raddau helaeth. Nid yw’r thema werinol yn amrywiadau’r Ffantasi (sy’n seiliedig ar gân gynnar gan Beethoven, Gegenliebe – ‘Cariad o’r Ddwy Ochr’) yn debyg iawn i felodi’r ‘Ode to Joy’: mae’r un frawddeg sy’n arwynebol debyg yn swnio’n wahanol iawn o ran cymeriad a lliw. Nid oes unrhyw debygrwydd rhwng yr amrywiad ar ffurf ymdeithgan yn F fwyaf – sy’n dilyn amrywiad araf a blodeuog yn A fwyaf – ac adran alla marcia y Nawfed Symffoni. Nid yw’r corws a’r lleisiau unawdol yn ymddangos tan yn hwyr iawn yn y Ffantasi, ac mae eu geiriau – cân o glod i harddwch celf – yn gwbl wahanol i destun cosmig ac apocalyptaidd y symffoni. Tan i’r lleisiau ymuno, mae’r Ffantasi Gorawl yn fath o concerto i’r piano ar ffurf amrywiadau, a hyd yn oed wedyn mae’r piano yn parhau i chwarae rhan ysblennydd tan y diwedd.
Os oes unrhyw ran yn ein hatgoffa o unrhyw beth, y foment honno yn y Presto terfynol tanllyd yw honno, lle mae’r newid sydyn o G fwyaf forte (uchel) i E feddalnod più forte (uwch) yn dwyn i gof y foment harmonig wefreiddiol debyg ym Mhresto terfynol Fidelio. Ond yn y pen draw, nid oes angen cymharu’r Ffantasi Gorawl ag unrhyw beth arall. Fel y dywed Hoffmann, mae’n ‘gwbl wreiddiol’. Dim ond ei mwynhau am yr hyn ydyw sydd angen.
Nodyn y rhaglen © David Cairns
Testun
Schmeichelnd hold und lieblich klingen
Unsers Lebens Harmonien,
Und dem Schönheitssinn entschwingen
Blumen sich, die ewig blühn.
Fried’ und Freude gleiten freundlich,
Wie der Wellen Wechselspiel;
Was sich drängte rauh und feindlich,
Ordnet sich zu Hochgefühl.
Wenn der Töne Zauber walten
Und des Wortes Weihe spricht,
Muss sich Herrliches gestalten,
Nacht und Stürme werden Licht.
Äuss’re Ruhe, inn’re Wonne
Herrschen für den Glücklichen,
Doch der Künste Frühlingssonne
Lässt aus beiden Licht entstehn.
Grosses, das ins Herz gedrungen,
Blüht dann neu und schön empor;
Hat ein Geist sich aufgeschwungen,
Hallt ihm stets ein Geisterchor.
Nehmt denn hin, ihr schönen Seelen,
Froh die Gaben schöner Kunst.
Wenn sich Lieb’ und Kraft vermählen,
Lohnt dem Menschen Göttergunst.
Christoph Kuffner (1780–1846)
Cyfieithiad
Mae lleisiau cytgord ein bodolaeth
yn felys ac yn hudolus.
O’n gweledigaeth o harddwch
mae blodau tragwyddol yn tyfu.
Mae heddwch a llawenydd yn pasio’n dawel,
fel chwarae’r gwynt a’r tonnau.
Mae pob teimlad gelyniaethus a gwyllt
yn cael ei dawelu, a’i droi’n wynfyd.
Pan fo cerddoriaeth felys yn teyrnasu,
a’r geiriau wedi’u sancteiddio,
rhaid i bethau rhyfeddol ddigwydd,
a throi’r nos a’r stormydd yn olau.
Mae llonyddwch allanol a pherlesmair mewnol
yn teyrnasu mewn calonnau dedwydd,
eto bydd haul celfyddyd yn gwenu yn y gwanwyn,
ac yn troi’r ddau’n oleuni.
Os yw perffeithrwydd yn llenwi’ch calonnau,
bydd blodau newydd hardd yn blodeuo;
pan fydd yr ysbryd yn esgyn fry
bydd corau o eneidiau yn ymateb.
Felly derbyniwch, chwi eneidiau aruchel,
yn llawen yr hyn y mae celfyddyd wych yn ei roi.
Os yw cariad a nerth yn dod ynghyd,
bydd y duwiau yn gwobrwyo dynoliaeth â gras.
EGWYL: 15 munud
Hector Berlioz (1803–69)
Symphonie fantastique, Op. 14 (1830)
1 Rêveries – Passions [Breuddwydion Dydd – Angerddau]: Largo – Allegro agitato e appassionato assai – Religiosamente
2 Un bal (Valse) [Dawns (Waltz)]: Allegro non troppo
3 Scène aux champs [Golygfa yng Nghefn Gwlad]: Adagio
4 Marche au supplice [Gorymdaith i’r Crocbren]: Allegretto non troppo
5 Songe d’une nuit du Sabbat [Breuddwyd o Sabath y Gwrachod]: Larghetto – Allegro
Dechreuodd y cyfan gyda Shakespeare. Yn 1827 teithiodd cwmni theatr o Lundain i Baris i berfformio rhai o ddramâu enwocaf y dramodydd – pob un ohonynt yn Saesneg – yn y Théâtre de l’Odéon fawreddog. Nid gormodiaith o gwbl yw dweud bod eu taith wedi bod yn llwyddiant aruthrol. ‘Dychmygwch ddyn oedd wedi bod yn ddall ers iddo gael ei eni yn cael – yn anrheg – y gallu i weld, ac yn darganfod byd nad oedd ganddo unrhyw syniad amdano,’ meddai Alexandre Dumas (yr hynaf). Ac yna wele Hector Berlioz. ‘Gwelais – teimlais – deallais – fy mod yn fyw a bod yn rhaid i mi godi a cherdded,’ meddai, ar ôl gweld Hamlet. Ond nid y ddrama yn unig oedd wedi’i gyffwrdd: roedd hefyd wedi syrthio dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â’r actores o Iwerddon, Harriet Smithson, yr oedd ei phortread o Ophelia wedi creu perlesmair ymhlith aelodau’r wasg Ffrengig.
Roedd epiffani Shakespeare–Smithson yn un o sawl mellten a darodd Berlioz yng nghanol ei ugeiniau. Yn 1828 clywodd Drydedd a Phumed Symffoni Beethoven am y tro cyntaf a darganfu ddrama epig Goethe, Faust. Gan gyfuno’r darganfyddiadau mawr hyn â holl optimistiaeth naïf ieuenctid, erbyn mis Chwefror 1829 roedd Berlioz yn bwriadu cyfansoddi symffoni yn seiliedig ar Faust y gallai fynd â hi ar daith i Lundain ac ennill clod cyhoeddus gyda Smithson yno yn y gynulleidfa.
Yn y diwedd, cyfansoddwyd y darn a grisialodd y cyfnod cythryblus hwn ym mywyd Berlioz yn nechrau 1830. Roedd cynllun sylfaenol y darn ganddo yn ei ben ers peth amser, ond ar ôl treulio’r flwyddyn flaenorol yn cyfansoddi gweithiau lleisiol – y rhan fwyaf ohonynt yn defnyddio testunau Gwyddelig (roedd yn amlwg yn methu peidio â meddwl am Smithson) – trodd ei sylw’n llawn at ei Épisode de la vie d’un artiste. Symphonie fantastique en cinq parties (‘Pennod ym Mywyd Artist. Symffoni Ffantasïol mewn Pum Rhan’).
Disgrifiwyd y pum rhan dan sylw nid yn unig drwy ddefnyddio teitlau’r symudiadau, ond hefyd drwy gyfrwng rhaglen wedi’i hargraffu a oedd, yn ôl Berlioz, yn ‘cyflwyno’r symudiadau cerddorol ac yn ysgogi eu cymeriad a’u mynegiant’. Cymharodd y symffoni hefyd yn uniongyrchol â ‘thestun llafar opera’. Roedd yn rhaid i weithiau llwyfan a oedd yn cael eu cyflwyno yn theatr fwyaf mawreddog Paris, yr Opéra, fod mewn pum act gyda bale. Dyma Berlioz, wyth mlynedd cyn iddo lwyddo i gael un o’i operâu wedi’i llwyfannu yn y lleoliad nodedig hwnnw, gyda symffoni hollol newydd mewn pum ‘pennod’, gan gynnwys ‘Un bal’ – golygfa ddawns.
Mae pob un o bum symudiad y Symphonie fantastique yn cyfeirio at yr un nodwedd neu syniad cerddorol, yr hyn a alwodd Berlioz yn idée fixe (yn union fel y gelwir ci Obelix, yn y comics enwog Astérix gan René Goscinny ac Albert Uderzo, yn Idéfix!). Mae’r motiff hwn yn aflonyddu ar yr arwr, gan greu ‘angerdd, ond â’r urddas a’r swildod y mae’n eu priodoli i wrthrych ei gariad’. Mae hefyd yn atgof o orffennol Berlioz ei hun: cymerwyd y thema o’i gantata Herminie (1828), tra bod cyflwyniad araf y gwaith yn fenthyciad o gân gynharach o lawer, ‘Je vais donc quitter pour jamais’ (Felly, gadawaf am byth). Mae prudd-der dwfn yn ildio i gyffro a dyhead wrth i’r symudiad cyntaf ddatblygu, gyda’r llinynnau isel fel curiad calon carwr yn cyflymu o dan yr idée fixe esgynnol ar ddechrau’r Allegro.
Yna daw golygfa ddawns foethus, waltz cain yn llawn telynau disglair ac unawd anarferol o amlwg a thelynegol ar yr utgorn. Wrth i gyplau droelli ac ymgrymu o amgylch yr artist, mae’n gweld ei anwylyd ac mae hynny’n ‘peri dryswch i’w ysbryd’. Felly, yn y trydydd symudiad (‘Golygfa yng Nghefn Gwlad’), mae’n dianc i gefn gwlad: clywir dau fugail yn cyfarch ei gilydd â phibau ar draws y dyffryn – cor anglais ac obo sydd oddi ar y llwyfan mewn deialog – gyda storm yn rhuo’n fygythiol yn y timpani tuag at y diwedd.
‘Mae’r artist yn argyhoeddedig bod ei gariad wedi’i wrthod,’ eglura Berlioz, ‘ac felly mae’n gwenwyno ei hun ag opiwm.’ Mae hyn yn ei daflu i drwmgwsg sy’n llawn o’r ‘gweledigaethau mwyaf rhyfedd’. (Gyda bywyd yn dynwared celf mewn ffordd dywyll, yn 1833 cymerodd Berlioz or-ddos o opiwm i geisio argyhoeddi Harriet Smithson ei fod yn ei charu.) Cawn, wedi hyn, hunllef wedi’i hachosi gan gyffuriau. Yn yr ‘Orymdaith i’r Crocbren’, mae’r arwr yn dychmygu ei fod wedi lladd ei anwylyd a’i fod yn cael ei gludo i’w ddienyddiad ei hun. Mae Berlioz yn trawsnewid mawredd a disgleirdeb yr offerynnau pres a’r offerynnau taro niferus – a fenthycwyd o’i opera Les francs-juges, na chafodd ei pherfformio erioed – yn watwar sinistr ar arddangosfa filwrol. Toc cyn y dienyddio, mae ein harwr yn meddwl unwaith eto am y fenyw y mae’n ei charu, gyda’r idée fixe yn cael ei dorri’n greulon o fyr mewn ystum terfynol buddugoliaethus ond llawn trallod.
Ac mae’r erchylltra’n parhau. Mae’r rhan olaf, meddai Berlioz, yn ‘Sabath y Gwrachod … cynulliad brawychus o ysbrydion, dewiniaid a bwystfilod o bob math’. Rhoddir yr idée fixe i glarinét E feddalnod sy’n sgrechian ac yn chwerthin yn uchel ac yn finiog – gwrach yw’r gariadferch! – tra bod llafarganu Dies irae yr Offeren Requiem yn atseinio o ddyfnderoedd y gerddorfa a chlychau’n taro hanner nos. Mae’r cyfan yn gyforiog o hynt a helynt Gothig, ac mae’r ffaith ein bod yn gadael y perfformiad yn llawn egni a chyffro ar ôl y diweddglo hwn, sydd ymhell o fod yn hapus, yn brawf o ddisgleirdeb Berlioz fel trefnydd cerddorfaol ac adroddwr stori.
Perfformiwyd y Symphonie fantastique am y tro cyntaf ar 5 Rhagfyr 1830, a chymysg oedd yr ymateb. Roedd y neuadd yn orlawn o unigolion cerddorol nodedig, o gyfansoddwyr opera blaenllaw fel Spontini a Meyerbeer i’r beirniad llym François-Joseph Fétis a’r virtuoso ifanc Franz Liszt. Dros y blynyddoedd dilynol, diwygiodd Berlioz y gerddoriaeth a’i raglen argraffedig sawl gwaith. Ac yn 1832 – o’r diwedd – cafodd gyfle i gael ei gyflwyno’n ffurfiol i Smithson. Priodasant ym mis Hydref 1833 a threulio sawl blwyddyn hapus gyda’i gilydd cyn gwahanu yn y pen draw.
Nodyn y rhaglen © Katy Hamilton
Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni
Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:
Romeo a Juliet
Nos Wener 6/11/26, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe
Debussy Prélude à L’après-midi d’un faune
Paul Mealor Concertoi’rEwffoniwm
Yakymenko Angel: Poème-Nocturne
Prokofiev Romeo a Juliet – detholiadau
Martyn Brabbinsarweinydd
David Childs ewffoniwm
DYHEAD | COLLED | TYNGED
Mae cariad yn ei holl ffurfiau – dyhead, tynerwch, colled a thynged – yn rhedeg drwy’r rhaglen hon, sy’n dod yn fyw dan law’r arweinydd Martyn Brabbins. Mae Prélude à l’après-midi d’un faune gan Debussy yn agor y noson gyda lliwiau cerddorfaol disglair.
O’r byd breuddwydiol hwn, trown at fynegiant mwy personol o gariad a cholled. Rydym yn croesawu David Childs fel unawdydd ar gyfer y Concerto i’r Ewffoniwm gan Paul Mealor, gwaith sy’n seiliedig ar chwedl Wyddeleg am gariad a gollwyd. Clywir llais mwy anghyffredin yn dilyn hynny yn Angel: Poème-Nocturne gan Yakymenko, darn a luniwyd gan brofiad alltudiaeth a’r ailgynefino trwy gydol gweddill oes â diwylliant Wcráin.
Ar ôl yr egwyl, bydd detholiadau o Romeo a Juliet gan Prokofiev yn dod ag ecstasi a thrasiedi cariad i’r llwyfan gydag angerdd dwys.
Strauss a Bruckner
Dydd Sadwrn 8/5/27, 3.00pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
María Huld Markan Sigfúsdóttir 1001
R. Strauss Metamorphosen
Bruckner Offeren Rhif 2 yn E leiaf
Alpesh Chauhan arweinydd
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
MYFYRDOD | TRAWSNEWID | ADDOLIAD
Bydd Alpesh Chauhan yn arwain prynhawn sy’n mynd â ni o fyfyrdod tawel i rym corawl disglair. Bydd y cyngerdd yn agor gyda 1001 gan y cyfansoddwr a’r feiolinydd o Wlad yr Iâ, María Huld Markan Sigfúsdóttir – gwaith sy’n llawn lliwiau llachar a dwyster cynnil.
Yna cawn glywed Metamorphosen gan Richard Strauss – myfyrdod dwfn a phersonol am golled ac adfywiad a gyfansoddwyd ym misoedd olaf yr Ail Ryfel Byd.
Ar ôl yr egwyl, bydd Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn ymuno â ni ar gyfer Offeren Rhif 2 enfawr Bruckner, cerddoriaeth sy’n llawn addoliad dwys, cynildeb a nerth.
Ffawd a Ffantasi
Nos Iau 13/5/27, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe
Nos Wener 14/5/27, 7.00pm
Bristol Beacon
Anna Clyne Masquerade
Rachmaninov Concerto Rhif 3 i’r Piano
Janáček Taras Bulba
R. Strauss Don Juan
Otto Tauskarweinydd
Syr Stephen Hough piano
YSBLENNYDD | ANGERDDOL | CHWEDLONOL
Mae Ffawd a Ffantasi, dan arweiniad Otto Tausk, yn dathlu pŵer cerddoriaeth i adrodd straeon a chreu bydau llawn dychymyg. Mae Masquerade gan Anna Clyne yn agor y cyngerdd gyda cherddoriaeth egnïol a lliwgar, wedi’i hysbrydoli gan ysblander cyngherddau promenâd y ddeunawfed ganrif.
Yna, croesawn Syr Stephen Hough ar gyfer Concerto Rhif 3 i’r Piano gan Rachmaninov – un o’r gweithiau mwyaf heriol a chyffrous yn y repertoire, sy’n cyfuno meistrolaeth ddi-baid â thelynegiaeth lawn mynegiant.
Ar ôl yr egwyl, mae Taras Bulba gan Janáček yn plymio i ddrama a thrasiedi ddwys, cyn i Don Juan llachar Richard Strauss ddod â’r rhaglen i’w therfyn mewn modd cynhyrfus dros ben.
Gallwch archebu tocynnau am gyn lleied ag £8 gan ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU https://www.bbc.co.uk/events/evr6gw
Bywgraffiadau
Jaime Martín arweinydd
Paul Marc Mitchell
Paul Marc Mitchell
Ar hyn o bryd, mae’r arweinydd o Sbaen Jaime Martín yn Gyfarwyddwr Cerdd Cerddorfa Siambr Los Angeles, yn Brif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Melbourne ac yn Brif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae hefyd wedi bod yn Brif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Genedlaethol Iwerddon (2019–24), Prif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Genedlaethol Sbaen (2022–24) a Chyfarwyddwr Artistig a Phrif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Gävle (2013–22).
Ar ôl treulio blynyddoedd lawer yn ffliwtydd uchel ei barch, trodd at arwain yn llawn-amser yn 2013, ac yn fuan iawn daeth yn arweinydd yr oedd galw mawr amdano ar y lefel uchaf.
Ymhlith yr uchafbwyntiau nodedig yn ddiweddar bu Gŵyl Beethoven, 11 diwrnod o hyd, gyda Cherddorfa Symffoni Melbourne, lle arweiniodd bob un o’r naw symffoni. Dychwelodd hefyd i arwain cerddorfeydd yn Sbaen, y DU ac Awstralia, ac aeth ar daith drwy’r DU ac Ewrop gyda Cherddorfa Symffoni Melbourne, a oedd yn cynnwys perfformiadau ym Mhroms y BBC ac yng Ngŵyl Ryngwladol Caeredin.
Y tymor diwethaf, bu’n arwain Cerddorfeydd Symffoni Aalborg, Colorado, Euskadi, Gothenburg, Seland Newydd a Queensland, Cerddorfa Gŵyl Budapest, Cerddorfeydd Ffilharmonig George Enescu a Strasbourg, Cerddorfa Symffoni Radio Berlin ac RTVE Madrid.
Mae ei recordiadau helaeth yn cynnwys rhai gyda Cherddorfeydd Symffoni Barcelona, Gävle a Melbourne, Cerddorfa Cadaqués a Cherddorfa Ffilharmonig Llundain.
Mae Jaime Martín yn Gynghorydd Artistig ac yn gyn-Gyfarwyddwr Artistig Gŵyl Santander, ac yn Gymrawd o’r Coleg Cerdd Brenhinol, lle bu’n athro ffliwt.
Steven Osbornepiano
Benjamin Ealovega
Benjamin Ealovega
Mae craffter ac uniondeb cerddorol Steven Osborne yn sail i ddehongliadau unigryw o repertoire amrywiol sydd wedi denu dilynwyr ym mhedwar ban byd. Gwelir ystod eang ei ddawn yn ei 35 o recordiadau i Hyperion, sydd wedi ennill nifer o wobrau, ac fe’i gwnaed yn OBE am ei wasanaeth i gerddoriaeth yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines yn 2022. Mae ganddo ddiddordeb oes mewn jazz ac mae’n aml yn byrfyfyrio mewn cyngherddau, yn ogystal â dod â’r natur ddigymell a’r rhyddid hwn i’w holl ddehongliadau.
Mae wedi gweithio fel Artist Preswyl yn Wigmore Hall, gyda Cherddorfa Symffoni Antwerp, Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham a Gŵyl Gerdd Ryngwladol Caerfaddon, ac mae wedi ysgrifennu erthyglau a rhoi sgyrsiau ar bynciau yn amrywio o ofn perfformio i ‘Beth yw ystyr cerddoriaeth?’. Adlewyrchwyd ei berthynas barhaus â Gŵyl Aldeburgh yn ei rôl fel Cydweithredwr Artistig yn ystod gŵyl 2026.
Mae ei ddatganiadau fel unawdydd yn mynd ag ef i Efrog Newydd, Boston, Washington a Llundain, ac yn ystod y tymor hwn mae’n teithio yn Tsieina gyda rhaglen thematig newydd, ‘Myfyrdodau ar y Waltz’. Mae hefyd yn cynnal partneriaethau cerddorol hirdymor gydag artistiaid gan gynnwys Paul Lewis, Alban Gerhardt a Benjamin Beilman.
Mae’n gweithio gyda cherddorfeydd mawr ledled y byd, yn fwyaf diweddar Cerddorfa Ffilharmonig y Weriniaeth Tsiec gyda Semyon Bychkov, Cerddorfa Ffilharmonig Dresden gyda Syr Donald Runnicles, Cerddorfa Ffilharmonig Oslo gyda Vasily Petrenko, Cerddorfa Symffoni Radio’r Ffindir gyda Nicholas Collon, a’r Philharmonia gyda Santtu-Matias Rouvali. Y tymor hwn, mae’n perfformio gyda Cherddorfa Radio’r Ffindir, Cerddorfa Symffoni Seattle a Cherddorfa’r Philharmonia.
Mae wedi ymddangos yn rhai o neuaddau cyngerdd mwyaf nodedig y byd, gan gynnwys y Konzerthaus yn Fienna, y Concertgebouw yn Amsterdam, y Philharmonie ym Merlin, yr Elbphilharmonie yn Hamburg a’r Suntory Hall a’r Kennedy Center yn Washington D.C., ac mae’n westai rheolaidd yn y Lincoln Center ac yn Wigmore Hall.
Mae ei gasgliad o recordiadau, sydd wedi ennill gwobrau, yn cynnwys gweithiau gan Beethoven, Schubert, Ravel, Debussy, Liszt, Stravinsky, Prokofiev, Rachmaninov, Medtner, Kapustin, Messiaen, Britten, Tippett, Crumb a Feldman. Bydd ei albwm diweddaraf, OK by me – A Life in Encores, yn cael ei ryddhau ym mis Tachwedd.
Ganwyd Steven Osborne yn yr Alban ac astudiodd yn Ysgol Gerdd St Mary yng Nghaeredin ac yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Gogledd Lloegr. Mae’n Athro Gwadd yn yr Academi Gerdd Frenhinol ac yn Conservatoire Brenhinol yr Alban, yn Noddwr Cystadleuaeth Biano Ryngwladol yr Alban a Gŵyl Lammermuir, a chafodd ei ethol yn Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol Caeredin yn 2014.
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn cynnwys dros 120 o gantorion, ac mae’n un o brif gorau symffoni cymysg y DU. Er bod ganddo statws côr amatur, mae’n gweithio yn ôl y safonau proffesiynol uchaf dan ofal Adrian Partington, y Cyfarwyddwr Artistig.
Mae’r corws yn cynnwys cymysgedd o gantorion amatur ochr yn ochr â myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Mae wedi'i leoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, ac mae’n gweithio’n rheolaidd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac yn cynnal cyngherddau’n annibynnol.
Mae uchafbwyntiau diweddar y côr yn cynnwys perfformio Symffoni Salmau Stravinsky dan arweiniad Ryan Bancroft, A German Requiem gan Brahms yn Eglwys Gadeiriol drawiadol Tyddewi, a Gloria gan Poulenc dan arweiniad MichałNesterowicz, gyda Sophie Bevan.
Mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC wedi ymrwymo i hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig a cherddoriaeth gyfoes, a nhw a roddodd yr ail berfformiad erioed o Missa Cambrensis gan Grace Williams, 45 mlynedd ar ôl y perfformiad cyntaf. Fe recordiwyd y darn hwn ar gyfer cryno ddisg a gafodd ei ryddhau yn ystod gwanwyn 2025. Ar ben hyn, mae’r Corws wedi rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau gan lawer o gyfansoddwyr, gan gynnwys perfformiad arbennig o Speak Out gan Kate Whitley, sef gosodiad o eiriau Malala Yousafzai o’i Haraith i’r Cenhedloedd Unedig yn 2013.
Gellir clywed y corws ar BBC Radio 3, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, ac fe ymddangosodd yn ddiweddar ar drac sain y rhaglen Wonders of the Celtic Deep ar BBC Cymru Wales.
Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Ers ei sefydlu yn 1984, mae Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi cefnogi traddodiadau corawl hirsefydlog Cymru, gyda nifer o’r cyn-aelodau yn dal i ganu neu arwain corau ledled Cymru a’r tu hwnt.
Gellir clywed cyn-aelodau eraill yn perfformio’n broffesiynol mewn neuaddau cyngerdd a thai opera ledled y byd, gan gynnwys Syr Bryn Terfel, Katherine Jenkins ac arweinydd presennol Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Tim Rhys-Evans.
Mae aelodau’r Côr rhwng 16 a 22 oed yn bennaf, yn dod o bob cwr o Gymru, ac yn cael clyweliadau blynyddol. Fel gyda holl ensembles CCIC, mae’r Côr yn gweithio gyda cherddorion proffesiynol o’r radd flaenaf i gyflawni ei nod strategol allweddol, sef rhagoriaeth.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.
Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys ei Phrif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.
Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngerdd i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.
Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn y BBC Proms a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.
Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC a Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Soprano
Amelia Beecroft
Angharad Phillips
Bethan Nicholas-Thomas
Claire Hardy
Eleanor Cantrill
Elizabeth Phillips
Ella Edwards Beavington
Eve Carey
Hannah Robertson
Helen Thomas
Jo Westaway
Joanna Osborn
Katie Cross
Lydia Wilson
Olivia Ghanem
Rachael Leary
Ronnie Enoch
Sally Glanfield
Sarah Jane Griffiths
Vanessa John-Hall
Caroline Thomas
Charlotte Pawley
Emily Hopkins
Esme Daniell-Greenhalgh
Florence Waddington
Frankie Ingall
Hafwen Davies
Kate Bidwell
Katherine Woolley
Lucy Paterson
Marcella Rose Benson
Margaret Lake
Melanie Taylor
Rhian Davies
Rhiannon Humphreys
Victoria Illsley
Catrin Davies *
Mali Williams *
Lauren Roberts-Orford *
Juliet Triggs *
Alto
Abigail Shepherd
Alison Davies
Catherine Bradfield
Elouise Frost
Jessica Williams
Kate Reynolds
Kathrin Hammer
Lisa May
Matilda Holder
Megan Veiga-Troso
Naomi Hitchings
Nicole Boardman
Rachel Farebrother
Rhian Pullen
Vicki Westwell
Yirui Wang
Zozi Sookanadenchetty
Annette Hecht
Cerian Rolls
Josie Nemeth
Julie Wilcox
Max Keith
Sian Schutz
Yasmin Browne
Maiwenn Watson *
Tenor
Andrew Lunn
Jacob Bussell
Keith Davies
Meilyr Dafydd
Nick Willmott
Philip Lloyd-Holtham
Ethan Stockham
Paul Mizen
Peter Holmes
Richard Shearman
Roland George
Rory McIver
Sam Proll
James Porter *
Bas
Alun Williams
Ben Pinnow
Daniel Williams
David John Davies
Emyr Wynne Jones
Geraint Jones
John Davies
Lucas Maunder
Neil Schofield
Noah Boneham-Hill
Will Walshe-Grey
David Hutchings
David Rodgers
Gareth Nixon
Jack Irwin
Mike Osborn
Oliver Hodgson
Stuart Hogg
Daniel Imrie *
Sam Morris *
* Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ffidlau Cyntaf Lesley Hatfield blaenwr
Martin Gwilym-Jones Gwenllian Hâf MacDonaldTerry PorteusSuzanne CaseyCarmel BarberKerry Gordon-SmithEmilie GoddenAnna CleworthŽanete UškāneAlejandro Trigo
Gary George-Veale
Grace Shepherd
Ail Ffidlau
Anna Smith *Kirsty Lovie #Ros ButlerSheila SmithVickie RingguthJoseph WilliamsMichael ToppingKatherine MillerBeverley WescottRoussanka KaratchivievaLydia Caines **
Emily Groom
Fiolâu
Rebecca Jones *Alex Thorndike #Tetsuumi NagataPeter TaylorCatherine PalmerAnna GrownsMungo Everett-JordanRobert GibbonsLaura SinnertonCarl Hill
Soddgrythau
Henry Shapard Jessica FeaverSandy BartaiAlistair HowesCarolyn HewittRachel FordKeith HewittKathryn Graham
Basau Dwbl
David Stark *Alexander Jones #Emma PrinceThea SayerKetan CurtisImogen Fernando
Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †Lindsey Ellis
PiccoloLindsey Ellis †
Oboau
Steve Hudson *Amy TillRussell Coates
Cor anglaisRussell Coates
Clarinetau
Nicholas Carpenter *William White †Lenny Sayers ** +
Clarinét Bas
Lenny Sayers † ** +
Baswnau
Jarosław Augustyniak *Patrick BoltonDavid Buckland
Bartosz Kwasecki
Isfasŵn
David Buckland †
Cyrn
Tim Thorpe *Meilyr HughesMark Alder-BennettFlora Bain
John Davy
Utgyrn
Phillipe Schartz *Robert SamuelCorey Morris †
Nina Tyrell
Trombonau
Donal Bannister*Dafydd Thomas †
Trombôn Bas
Darren Smith †
TiwbauDavid Kendall
Dan Trodden
TimpaniSteve Barnard *
Christina Slominska
Offrynnau TaroAndrea PorterHarry Lovell-JonesPhil GirlingMax Ireland
Telynau
Tomos Xerri
Tamara Young
Piano/Selesta
Catherine Roe Williams
* Prif Offerynnwr yr Adran† Prif Offerynnwr‡ Prif Offerynnwr Gwadd# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyolRoedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig George LeeRheolwr y Gerddorfa Liz WilliamsRheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **Cydlynydd y Gerddorfa a GweithrediadauEleanor HallRheolwr Staff y GerddorfaKevin MyersLlyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead + Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Richie BashamRheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **Cynhyrchydd Mike SimsCynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Uwch Oruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie Cynhyrchydd Addysg/Rheolwr y Corws Rhonwen Jones
Cynhyrchydd AddysgBeatrice CareyPennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-NicholsCydlynydd Marchnata Twf Angharad Muir–Davies Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Prentis Marchnata Mya ClaydenRheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa BlofeldCydlynydd Busnes Georgia Dandy **
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
