Dylan Lawlor a chanlyniadau Cymru
Amddiffynnwr ifanc Caerdydd a Chymru Dylan Lawlor sy'n sgwrsio efo'r criw am ei yrfa a'i obaith i gael profi ei hun yn erbyn Erling Halaand a Cristiano Ronaldo.
Mae Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones yn cael cwmni amddiffynnwr ifanc Caerdydd a Chymru Dylan Lawlor, ychydig funudau ar ôl iddo gamu oddi ar y cae ymarfer. Mae Lawlor yn ysu i gychwyn y tymor oddi ddifri ar ôl i anaf i'w ben-glin olygu mai dim ond wyth munud o bêl-droed mae o wedi ei flasu - a hynny ym muddugoliaeth gyntaf Caerdydd o'r tymor yn erbyn Charlton. Mae o hefyd yn ysu i gael y cyfle i brofi ei hun yn ebryn Erling Haaland a Cristiano Ronaldo fis nesaf.
Chafodd ddim y cyfle i wneud hynny mis yma oherwydd ei anaf, wrth i Gymru chwarae pedair gêm anodd iawn yng Nghynghrair y Cenhedloedd. Daeth y cyfnod heriol i ben wrth golli o gôl i ddim yn erbyn Denmarc, ond cyn hynny, codwyd calonnau pawb gyda'r fuddugoliaeth nodedig yn erbyn Norwy. Felly, beth ydan ni a Chymru wedi ei ddysgu o'r gemau yma..?
More episodes
Featured
.
Podcast
![]()
Y Coridor Ansicrwydd
Owain Tudur Jones, Malcolm Allen a Dylan Griffiths yn rhoi'r byd pêl-droed yn ei le.

