Main content
Joseff Gnagbo - dysgu Cymraeg, a helpu eraill i ddysgu'r iaith
A hithau'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, mae Beti George yn holi Joseff Gnagbo.
Cafodd Joseff Gnagbo ei eni yn Arfordir Ifori a daeth i Gymru fel ceisiwr lloches yn 2017. Mae o bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Dysgodd y Gymraeg, ac aeth ymlaen i weithio fel tiwtor Cymraeg.
Mae'n ymgyrchydd, athro iaith, ieithydd a cherddor.
Bu'n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, ac mae hefyd wedi ymgyrchu dros hawliau ffoaduriaid.
Cyn dod i Gymru, roedd yn newyddiadurwr ac yn athro ieithoedd yn Abidjan. Roedd eisoes yn siarad nifer o ieithoedd, gan gynnwys Ffrangeg, Saesneg, Almaeneg a Swahili.
Yn 2025, roedd Joseff yn y newyddion - fel y ffoadur cyntaf i sefyll fel ymgeisydd ar gyfer y Senedd.





