Main content

Colli dannedd a siom 'Sdeddfod

Mae'n amser proffwydo unwaith eto ar drothwy tymor newydd i Abwertawe, Caerdydd a Wrecsam yn y Bencampwriaeth, a Chasnewydd yn yn yr Ail Adran.

Ar drothwy tymor newydd, mae'n amser proffwydo unwaith eto wrth i Abertawe, Caerdydd a Wrecsam gystadlu yn erbyn ei gilydd yn ail haen Lloegr am y tro cyntaf ers tymor 1981-82. Pwy fydd yn gorffen uchaf? Fydd unrhyw un yn cael dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair?

Mae gan Brennan Johnson gartref newydd arall wrth iddo adael Crystal Palace am Everton. Fydd David Moyes yn gallu datgloi'r gyfrinach i gael y gorau allan o ymosodwr Cymru?

Ond cyn hynny mae angen trafod a dadansoddi'r siom o beidio ennill gwobr podlediad chwaraeon gorau Cymru yng Ngwobrau Pod Cymru ar faes yr Eisteddfod. O, ac mae Mal wedi colli ei ddannedd!

Release date:

11 months left to listen

43 minutes

Podcast