Main content

Y Corn Ffrengig Ffantastig

Pam mae’r corn Ffrengig mor droellog? Ymunwch â’r cyflwynydd Siân Owens a Flora, chwaraewr corn Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, i ddarganfod un o offerynnau anhygoel y gerddorfa sydd mewn perygl. Dysgwch sut mae’r corn Ffrengig yn creu ei sain drawiadol a hyfryd, ei glywed yn cael ei chwarae, a dysgu ffeithiau diddorol amdano, cyn mynd ati i fod yn greadigol eich hun. Gan ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu a deunyddiau y gallwch eu defnyddio eto, byddwch yna’n gwneud eich corn Ffrengig eich hun gartref ac yn arbrofi gyda chreu eich cerddoriaeth eich hun. Pwy a ŵyr? Efallai y byddwch chi’n un o gerddorion cerddorfaol y genhedlaeth nesaf.

Release date:

Duration:

5 minutes

Featured in...

More clips from Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC