Main content

Calan Mai - Bardd y Mis: Iwan Tomos Kellett

Calan Mai
Mae'r curiad ar y draethell hon
ym mordwy meddal araf don.
Yn sisial y crisialau pêr
o gerrig mân, a’r gwymon blêr.

Yn anadl eithin melyn-las
bob yn ail melysaidd flas,
yn pigo, ond yr amser iawn
i guro hefo'r curiad llawn.

Fe'i clyw yng nghân y gwcw lon
yn neidio draw o'r flwyddyn gron
i diwnio tannau telyn bod
wrth nesu anterth blaena'r rhod.

Fe'i gweli yng nghyfeilio'r tarth
wrth fwytha'r bore, cwm a garth,
yn llusg yr haul wrth groesi'r llawr
i atsain dyddiau llewyrch mawr.

Oni theimli dithau hefyd
curiad Mai yn goddiweddyd.
'Rôl hirymaros am ddychwelyd
O plîs! 'Rhosa fwy nag ennyd.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

53 eiliad