Main content
Cân Ysgafn: Y Ciw Cinio.
Ysgwn i beth fydd ar y fwydlen i’m helpu i fwyta yn iach?
Ai salad cnau Ffrengig a merllys? Neu ‘quiche’ (dim ond sleisen fach).
Platiad hâd pwmpen a chywarch ar wely o ferw dwr
Neu eog a chnawd afocado, byddai hynny yn llesol rwyn siwr.
Sardîns gyda garlleg a chorbys, a thê gwyrdd i’w olchi i lawr
Ac i ddilyn caf hanner ffrwyth Kiwi, neu oren fyddai’n hyfryd ei sawr.
Rhaid sticio yn ddeddfol i’r deiet, er mwyn medru ffitio i’r jîns.
“Su’ mai Blod?”
“Be’ gymrai i ginio?”
“Gymrai’r sosij a chips a bêcd bîns!”
Endaf ap Ieuan
8.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 26/01/2014
![]()
Englyn: Papur.
Hyd: 00:14
![]()
Pennill Ymson athro neu athrawes piano.
Hyd: 00:20
![]()
Pennill Ymson athro neu athrawes piano.
Hyd: 00:21






