Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

06/09/2026

Iestyn Tyne sy’n datgelu hanes cudd un o luniau mwyaf eiconig Cymru drwy gyfrwng ei gerddoriaeth. Iestyn Tyne reveals the story behind one of Wales’s most iconic photographs.

Y bardd a cherddor Iestyn Tyne sydd rhannu hanes un o luniau mwyaf eiconig Cymru ‘Edrych Dros y Bryniau Pell’ gan Geoff Charles.

Dyma ffotograff gafodd ymateb ar draws Cymru yn 1945 pan gyhoeddwyd o gyntaf gyda hanes trasig y ddau oedd ynddo – y gohebydd a’r bardd Carneddog neu Richard Griffith a’i wraig Catrin yn gadael eu cartref, ffermdy’r Carneddi, am y tro olaf a mudo i Loegr.

Ond mae mwy i’r llun na hynny.
Yr hanes cudd y tu ôl i’r ffotograff ysbrydolodd albwm gysyniadol gan Iestyn a drwy gyfrwng ei cherddoriaeth mae’n datgelu mwy ar stori Hywel Wyn, mab Carneddog a Catrin ac yn cynnig cip ar pa mor anodd ydi olrhain hanes cymunedau cwiar Cymru’r gorffennol.

Gyda chwmni Mari Elin Jones, y Dr Bleddyn Owen Huws a thrigolion presennol y Carneddi Ann a Ffion bydd Iestyn yn mynd ar daith sy’n dod â’r llun du a gwyn yn fyw.

Dyddiad Rhyddhau:

27 o funudau

Ar y Radio

Sul 6 Medi 202616:00

Darllediad

  • Sul 6 Medi 202616:00