Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

Caffi Beca, Rhocesi a'r Wiberod

Mari Grug sy'n ymweld â rhai o leoliadau arbennig ardal Eisteddfod Genedlaethol 2026. Ahead of the National Eisteddfod, Mari Grug visits some of the area's special locations.

Ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las, Mari Grug sy'n ymweld â rhai o leoliadau mwyaf arbennig yr ardal ac yn cwrdd â phobl sy’n byw ac yn gweithio yno.

Mae'n cychwyn ei thaith yng Nghaffi Beca, Efailwen, i gael sgwrs ag Eurfyl Lewis am Twm Carnabwth, arweinydd Merched Beca, ac yna'n trafod tafodiaith y fro gyda Hedydd Hughes. O'r fan honno, mae'n galw heibio ymarfer Côr Merched y Rhocesi yng Nghrymych i gael gair gyda'r arweinydd, Einir Dafydd, cyn mynd draw i Gastell Newydd Emlyn i glywed hanes tîm rygbi merched Y Wiberod.

I gloi'r daith, mae Mari yn teithio i waelod Sir Benfro i gyfarfod â'r dramodydd Ceri Ashe yn Wdig, cyn ymweld ag Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd i sgwrsio gyda rhai o'r disgyblion a'u hathrawes, Nerys Rees.

Dyddiad Rhyddhau:

27 o funudau

Ar y Radio

Sul 2 Awst 202617:30

Darllediad

  • Sul 2 Awst 202617:30