
Edrych ymlaen at y Sioe Fawr
Terwyn Davies sy'n cyflwyno rhaglen yn edrych ymlaen at wythos y Sioe Fawr yn Llanelwedd. Terwyn Davies looks forward to this year's Royal Welsh Show week.
Terwyn Davies sy'n cyflwyno rhaglen yn edrych ymlaen at wythos y Sioe Fawr yn Llanelwedd.
Elin Havard o Bwyllgor Sir Nawdd Brycheiniog eleni sy'n sôn am flwyddyn brysur iawn yn codi arian at Gymdeithas y Sioe.
Sgwrs hefyd gyda Medwyn Evans o Bylchau ger Dinbych fydd yn beirniadu yn y sioe am y tro cyntaf yn adran y Defaid Mynydd Cymreig.
Lois Cernyw sy'n sgwrsio gydag Ela Jones o gwmni Y Sgubor, am fynd â'i dillad amaethyddol i werthu ar stondin yn y sioe am y tro cyntaf.
Rhagolygon y tywydd am yr wythnos sydd i ddod gyda Megan Williams, ac Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru sy'n sôn am holl atyniadau'r wythnos ar faes y Sioe.
Ar y Radio
Rhagor o benodau
Darllediadau
- Yfory07:00BBC Radio Cymru
- Yfory15:30BBC Radio Cymru