Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

Byd y Campau a'r Bywyd Gwledig

Straeon pedwar o unigolion o gefn gwlad Cymru sydd wedi serennu ym myd chwaraeon. The story of four individuals from rural Wales who have succeeded in different areas of sport.

Yn y rhaglen hon, straeon pedwar o unigolion o gefn gwlad Cymru sydd wedi serennu ym myd chwaraeon.

Sara Elan Jones sy'n ymweld â Llanbedr-Pont-Steffan i gwrdd ag Anwen Butten, sydd wedi arwain ei gwlad yn y byd bowls.

Hefyd, Mared Griffiths o Drawsfynydd sy'n sôn am ei magwraeth ar y fferm deuluol, a serennu yn y byd pêl-droed fel rhan o dîm Manchester United, a Chymru.

Lois Cernyw sy'n ymweld â'r chwaraewraig rygbi rhynglwadol o Badog ger Betws-y-Coed, Gwenllian Pyrs gan drafod ei gyrfa ddifyr.

A Megan Williams sy'n sgwrsio gyda Rhodri Gomer Davies, y cyn-chwaraewr rygbi sydd bellach yn herio'i hun mewn ffyrdd gwahanol.

Dyddiad Rhyddhau:

27 o funudau

Ar y Radio

Dydd Sul07:00

Darllediadau

  • Dydd Sul07:00
  • Dydd Sul15:30