
Ann Davies AS
Beti George yn holi'r Aelod Seneddol Ann Davies. Beti George interviews Ann Davies, Member of Parliament.
Etholwyd Ann Davies yn AS Caerfyrddin yn 2024.
Cafodd ei geni a’i magu yn Sir Gâr, ac mae Ann wedi gwasanaethu fel Cynghorydd Sir dros Landdarog ers 2017, ac fel Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio ers 2021.
Yn gyn-ddarlithydd mewn addysg blynyddoedd cynnar ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac yn gyn-athrawes gerdd peripatetig, mae Ann yn gydberchennog meithrinfa leol i blant ac mae wedi ffermio yn ardal Llanarthne ers 1992. Fe benderfynodd Ann fynd yn AS wedi blynyddoedd o ymgyrchu yn lleol, yn gwasanaethu fel cadeirydd sirol i undeb ffermio, a bu'n llais amlwg yn yr ymgyrch yn erbyn peilonau ar hyd Dyffryn Tywi yn Sir Gaerfyrddin.
Ar y Radio
Darllediadau
- Dydd Sul18:00BBC Radio Cymru
- Dydd Iau Nesaf18:00BBC Radio Cymru
Podlediad
![]()
Beti a'i Phobol
Sgyrsiau gyda phobl diddorol. Interviews with interesting people

