Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

Sioe Pontargothi, beirniadu yn Beef Expo, a Bwyty Y Seren

Glyn Howatson o Nantglyn ger Dinbych sy'n sgwrsio am gael beirniadu yn y Beef Expo eleni. Glyn Howatson from Denbigh talks about judging in this year's NBA Beef Expo event.

Y ffermwr Glyn Howatson o Nantglyn ger Dinbych sy'n sgwrsio am gael beirniadu yn nigwyddiad Beef Expo ym Melton Mowbray y penwythnos nesaf.

Hefyd, Matthew Jones, Cadeirydd Sioe Pontargothi sy'n edrych ymlaen at y sioe eleni, er eu bod fel pwyllgor wedi gorfod canslo'r adran geffylau oherwydd pryderon am y Ffliw Ceffylau.

Megan Williams sydd ar grwydr, yn ymweld â bwyty a gwesty newydd Y Seren yn Llangynnwr ger Caerfyrddin, gan sgwrsio gyda'r perchennog, Tudur Williams.

Y newyddion diweddaraf o'r sector cig coch gyda Glesni Phillips o Hybu Cig Cymru, a'r ffermwr llaeth o Ffynnonddrain ger Caerfyrddin, Brian Walters sy'n darllen drwy'r straeon amaeth yn y wasg a'r cyfryngau cymdeithasol.

Dyddiad Rhyddhau:

27 o funudau

Ar y Radio

Dydd Sul07:00

Darllediad

  • Dydd Sul07:00