Cynlluniau Arbedion BBC Cymru

Heddiw, cyhoeddodd BBC Cymru becyn o arbedion fel rhan o gynlluniau ehangach y BBC i fynd i'r afael â phwysau ariannol sylweddol ar draws y sefydliad.
Fel y cyhoeddwyd eisoes, mae angen i’r BBC gyflawni arbedion o tua £500 miliwn. Er bod y BBC yn blaenoriaethu i ddiogelu cynnwys o fewn y cynlluniau arbedion hynny, mae BBC Cymru, fel pob rhan arall o’r sefydliad, yn gorfod cyfrannu tra’n ceisio diogelu ansawdd, perthnasedd ac effaith ei hallbwn ar draws gwasanaethau teledu, radio ac ar-lein.
Bydd y cynlluniau heddiw yn arwain at newidiadau ar draws nifer o wasanaethau a gweithgareddau a disgwylir i’r cynlluniau leihau lefelau staffio tua 45 o swyddi sy’n gyfwerth ag amser llawn, gan gynnwys swyddi rheoli. Drwy gydol y broses hon, mae BBC Cymru wedi ceisio lleihau'r effaith ar gynulleidfaoedd a chanolbwyntio’r buddsoddiad ar feysydd sy'n cynnig y gwerth a'r twf mwyaf i gynulleidfaoedd. Serch hynny, bydd arbedion pellach i’w gwneud wrth i’r sefyllfa am gyllid y BBC ac anghenion newidiol y gynulleidfa ddatblygu.
Mae’r cynlluniau hefyd yn adlewyrchu arferion newidiol cynulleidfaoedd, gyda mwy o bobl yn dewis troi at gynnwys ar blatfformau digidol, ochr yn ochr â'r angen i sicrhau bod BBC Cymru yn parhau’n gynaliadwy ac yn gallu gwasanaethu cynulleidfaoedd ledled Cymru yn y dyfodol.
Mae’r newidiadau hyn yn gam pwysig tuag at fodloni targed arbedion BBC Cymru, tra'n sicrhau ei hymrwymiad i newyddiaduraeth y gellir ymddiried ynddi, cynnwys Cymreig nodedig a gwasanaethau digidol.
Mae’r cynlluniau’n cynnwys:
Newyddion a Materion Cyfoes
Mae BBC Cymru yn argymell newidiadau i'w weithrediadau newyddion a materion cyfoes, gan symleiddio strwythurau a ffyrdd o weithio i ganolbwyntio’r adnoddau ar y newyddiaduraeth sy’n creu effaith. Byddai’r newidiadau yn cynnwys model casglu a chynhyrchu newyddion symlach.
Teledu Saesneg
Bydd y buddsoddiad yn canolbwyntio’n fwyfwy ar gynnwys sy’n cael yr effaith gryfaf ar gynulleidfaoedd ar draws BBC iPlayer a phlatfformau digidol, ochr yn ochr ag ymrwymiad cynyddol i greu cynnwys ar gyfer cynulleidfaoedd iau. Fel rhan o’r newidiadau hyn, ynghyd â phwysau chwyddiant cynyddol ar gynyrchiadau, bydd rhaid i BBC Cymru gomisiynu tua 20 awr yn llai o raglenni teledu bob blwyddyn.
BBC Radio Cymru
Ar Radio Cymru, mae’r cynlluniau’n cynnwys dod â Dros Ginio i ben flwyddyn nesaf, a bydd crynodeb o’r newyddion a’r byd gwleidyddol yn cael ei lansio amser cinio dydd Gwener ar raglen newydd awr o hyd o’r enw Yr Wythnos.
Rydyn ni’n anelu at gynyddu cyrhaeddiad ein podlediadau drwy ddarlledu’r podlediad Gwleidydda ar foreau Sadwrn, yn lle rhifyn dydd Sadwrn o Dros Frecwast, a bydd y podlediad pêl-droed Coridor Ansicrwydd yn cymryd lle Ar y Marc yn yr amserlen llinol.
O dan y cynlluniau hyn, bydd rhaglen frecwast newydd yn cael ei darlledu ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Cymru 2 ar y cyd wrth i Raglen John Hardy ddod i ben. Fel rhan o’r newid, bydd Bwletin Amaeth yn dod i ben gyda newyddion gwledig ac amaethyddol yn cael ei adlewyrchu yn ein prif gynnwys newyddion.
BBC Radio Wales
Bydd cyllidebau Radio Wales yn lleihau ar gyfran debyg i rai Radio Cymru, gyda’r amserlen ar ddydd Sul yn cael ei hadnewyddu a’i symleiddio. Byddwn yn gwneud cyhoeddiad cyn bo hir am yr arlwy newydd ar gyfer y gwanwyn pan fydd Roy Noble yn ein gadael ni, a bydd rhaglen Lynn Bowles yn dod i ben. Bydd nifer y rhaglenni sy’n cael eu comisiynu hefyd yn lleihau.
Chwaraeon
O ran chwaraeon, byddwn yn parhau i ganolbwyntio’r buddsoddiad ar yr hawliau parhaus sy’n cael blaenoriaeth ac yn parhau i dyfu ein harlwy chwaraeon ar-lein.
Cerddoriaeth
Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn parhau i chwarae rôl ganolog yn arlwy celfyddydol BBC Cymru gyda rhai newidiadau i’w rhaglen flynyddol. Byddwn hefyd yn adolygu dyfodol Gorwelion/Horizons, sef y fenter ar gyfer cerddoriaeth gyfoes.
Teithiau Cyhoeddus
Fel rhan o’r cynlluniau, bydd teithiau cyhoeddus o bencadlys y BBC yn y Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd yn dod i ben, yn unol â chanolfannau eraill y BBC.