Cyhoeddi enwau’r rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth y BBC 2026 yng Nghymru

Mae'r gwobrau yn dathlu gweithredoedd caredig, cyfraniad eithriadol, ac yn cydnabod pobl sy’n gwneud pethau anhygoel i’w gilydd

Cyhoeddedig: 12:00 pm, 19 Mehefin 2026
Diweddarwyd: 03:48 pm, 22 Mehefin 2026
Key art with the welsh words Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth

Mae arwyr tawel cymunedol o bob cwr o Gymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth y BBC 2026 yng Nghymru. 

Mae Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth y BBC, a lansiwyd yng Nghymru am y tro cyntaf y llynedd, yn dathlu gweithredoedd caredig, cyfraniad eithriadol, ac yn cydnabod pobl sy’n gwneud pethau anhygoel i’w gilydd ac i’w cymunedau lleol. 

Mae’r 32 sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol wedi cael eu dewis o bron i 500 o geisiadau mewn wyth categori gwahanol. Ymhlith y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol mae dyn yn ei 80au sy’n codi arian drwy rwyfo o Gei Connah i Gaer, elusen sydd wedi cyfrannu miloedd o oriau o gefnogaeth i ffermwyr a’u teuluoedd ledled Cymru, ac eiriolwr ifanc o Lynebwy a drodd ddarganfod draenogod yn ei ardd yn ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol. 

Dywedodd Cyfarwyddwr Dros Dro BBC Cymru Wales, Garmon Rhys: “Rydym ni wrth ein bodd â’r nifer anhygoel o geisiadau a gawsom ni ar gyfer Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth y BBC 2026 yng Nghymru. Mae’r gwobrau hyn mor bwysig o ran tynnu sylw at arwyr tawel Cymru, ac rydym ni’n edrych ymlaen at ddathlu’r unigolion gwych sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y seremoni yn nes ymlaen eleni.” 

Mae’r gwobrau’n cael eu beirniadu gan gyflwynwyr o bob rhan o’r BBC, gan gynnwys Owain Wyn Evans o BBC Radio 2, Bablu Shikdar o BBC Asian Network a’r actores Rakie Ayola sydd wedi ennill BAFTA. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar 19 Medi 2026 yn seremoni Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth y BBC yng Nghymru yng Nghaerdydd. Lucy Owen o BBC Radio Wales a Caryl Parry Jones o BBC Radio Cymru sy’n arwain y seremoni wobrwyo eleni. 

I gael rhagor o wybodaeth, y telerau llawn a’n hysbysiad preifatrwydd, ewch i Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth y BBC. 

Categorïau a’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol: 

Gwobr Egnïol
Mae’r wobr hon yn cael ei dyfarnu i unigolyn neu grŵp o bobl sydd wedi defnyddio gweithgarwch corfforol neu chwaraeon fel ffordd o wella bywydau pobl yn eu cymuned. 

  • Ray Woolley, Sir y Fflint – Mae Ray wedi bod yn codi arian i Cancer Research UK ers dros 50 mlynedd, ac fel rhan o’i ymrwymiad mae’n cwblhau her flynyddol drwy rwyfo’r daith heriol o Gei Connah i Gaer.  
  • Emma Parry, Abertawe – Sefydlodd Emma brosiect ADHD Calon ar ôl colli ei merch yn drasig. Mae Emma yn gweithio’n galed i sicrhau cyllid i drefnu gweithgareddau gan gynnwys ioga, bocsio a dringo dan do, ac mae wedi adeiladu amgylchedd cefnogol i deuluoedd gysylltu â phobl eraill. 
  • Raymond Barnes, Wrecsam – Mae Raymond yn rhoi o’i amser i ddysgu bowls i bobl o bob gallu; helpu pobl sy’n gwella ar ôl cael strôc, pobl ddall neu rannol ddall, pobl sy’n defnyddio cadair olwyn a llawer mwy. Trawsnewidiodd Raymond lawnt bowlio adfeiliedig yn glwb lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u cefnogi. 
  • Rehnaz Khan, Clwb Rhedeg Caerdydd i Bobl â Nam ar eu Golwg, Caerdydd – Fe wnaeth Naz greu clwb Rhedeg Caerdydd i Bobl â Nam ar eu Golwg yn 2025, y cyntaf o’i fath yng Nghymru. Mae’r clwb yn dod â rhedwyr a thywyswyr gwirfoddol at ei gilydd, gan roi hwb i’w lles corfforol a meddyliol ar yr un pryd â dod â phobl yn y gymuned at ei gilydd. 

Gwobr Anifeiliaid

Mae’r wobr hon yn cael ei dyfarnu naill ai i anifail rhyfeddol sy’n gwella bywydau pobl, neu i unigolyn neu grŵp o bobl sy’n gwella lles anifeiliaid. 

  • Mili y ci therapi gwirfoddol, Gwynedd – Mae Mili yn cynnig cysur a chefnogaeth wrth iddi ymweld ag ysgolion, ysbytai, prifysgolion, llyfrgelloedd a mwy, gan wisgo i fyny mewn gwisgoedd tymhorol yn aml ac mae hyd yn oed wedi dawnsio ar y llwyfan mewn digwyddiad cymorth dementia. Mae Mili yn ymweld ag unedau gofal dwys yn rheolaidd ac yn dod â llawenydd i gleifion a staff. 
  • Gareth Richards, Abertawe – Gareth yn gweithio’n ddiflino er lles morloi, gan gynnwys ymgyrchu i wahardd cylchoedd hedfan - teganau plastig tebyg i frisbee, ledled Cymru. Mae’n rhedeg elusen Grŵp Morloi Gŵyr, mae ar alwad i achub, ac mae wedi gwirfoddoli ers dros 10 mlynedd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. 
  • Lloches Ceffylau Woodfield, Abertawe – Mae’r warchodfa hon yn achub anifeiliaid sy’n cael eu gadael, eu hesgeuluso a’u hamddifadu, ac yn gwneud pob ymdrech i roi’r gofal gorau posibl iddynt, a rhoi bywyd hir a hapus iddynt. 
  • Dylan Allman, Blaenau Gwent – Mae darganfod draenogod yn ei ardd wedi troi’n genhadaeth genedlaethol. Mae’r eiriolwr ifanc Dylan yn cyrraedd miloedd o bobl drwy ymgyrch Ymwybyddiaeth o Ddraenogod, a lwyddodd i berswadio gweithgynhyrchwyr mawr i gynnwys ei sticeri rhybudd ar beiriannau gardd. 

Gwobr Grŵp Cymunedol (cefnogaeth gan Morning Live)

Mae’r wobr hon yn cael ei dyfarnu i grŵp o bobl sydd wedi helpu i newid bywydau pobl eraill yn eu cymuned. 

  • Meddwl.org, Sir Gaerfyrddin – Elusen iechyd meddwl sy’n cael ei rhedeg gan dîm o wirfoddolwyr. Mae Meddwl.org yn annog trafodaethau agored a gonest am iechyd meddwl, yn trefnu digwyddiadau ac yn codi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. 
  • Gwirfoddolwyr Tir Dewi, Cenedlaethol – Elusen sydd wedi cyfrannu miloedd o oriau o gefnogaeth i ffermwyr a’u teuluoedd sy’n wynebu caledi ledled Cymru.  
  • The Queer Emporium, Caerdydd – Wedi’i ddisgrifio fel “curiad calon cymuned LGBTQ+ y ddinas”. Mae The Queer Emporium yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, o le i gael coffi a phori silffoedd llyfrau, i weithgareddau cynhwysol fel gwib-fachu cwiar, nosweithiau comedi a chlybiau crefft. 
  • Cwtch Baby Bank, Rhondda Cynon Taf – Ar ôl 20 mlynedd o brofiad o faethu plant, sefydlodd Hilary Johnson Cwtch Baby Bank, elusen sy’n cefnogi teuluoedd ifanc ac agored i niwed. Mae’r elusen a’i gwirfoddolwyr yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod gan fabanod gyfarpar diogel, dillad cynnes a hanfodion bob dydd. 

Gwobr Codi Arian

Mae’r wobr hon yn cael ei dyfarnu i unigolyn neu grŵp o bobl sydd wedi mynd yr ail filltir i godi arian at achos da. 

  • Megan Jones-Roberts, Aberystwyth – Mae Megan yn trefnu digwyddiadau i godi arian ar gyfer amrywiaeth o elusennau ledled Cymru. Mae Megan yn hynod weithgar gyda Chymdeithas Eisteddfodau Cymru, ac mae hi’n ysbrydoli pobl eraill i gymryd rhan ac yn creu amgylchedd cyfeillgar sy’n annog pobl o bob oed i godi arian. 
  • Raymond Roberts, Caerdydd – Mae Raymond wedi neilltuo dros 45 mlynedd o’i fywyd i drefnu pedwar digwyddiad elusennol bob blwyddyn, gan godi miloedd o bunnoedd ar gyfer achosion yn cynnwys gofal canser, cymorth dementia, ac ysbytai lleol. 
  • Chris Daniel, Merthyr Tudful – Yn rhywbeth a ddechreuodd fel teyrnged bersonol i’w ddiweddar wraig, Rita Daniel, mae Chris sy’n dringo i gopa Pen y Fan ac yn ôl, dair gwaith y dydd, bum diwrnod yr wythnos i godi arian i Bowel Cancer UK. Mae taith Chris yn codi ymwybyddiaeth ac mae ei waith codi arian wedi uno cymuned. 
  • Abdul Seckam, Caerdydd – Mae Abdul wedi treulio dros 10 mlynedd yn codi degau o filoedd o bunnoedd i elusennau amrywiol, gan gynnwys Gofal Canser Tenovus, Aren Cymru, a Chelfyddydau mewn Iechyd Gwent. Mae Abdul yn canolbwyntio llawer o’i waith codi arian ar y celfyddydau a datblygu mentrau creadigol fel ymgyrchoedd cardiau Nadolig, gwerthu gwaith celf, a threfnu cyngherddau elusennol. 

Gwobr Amgylcheddol

Mae’r wobr hon yn cael ei dyfarnu i unigolyn neu grŵp o bobl sy’n gwella neu’n gwarchod eu hamgylchedd lleol. 

  • Environment Centre Swansea, Abertawe – Ers dros 30 mlynedd, mae’r Ganolfan wedi bod wrth galon cymuned werdd Abertawe, gan hyrwyddo cynaliadwyedd, lles a chysylltiad cymunedol. Drwy raglenni fel y Big Climate Leap and Green Spaces Project, mae’n parhau i ysbrydoli pobl a busnesau lleol i leihau gwastraff ac adeiladu cymuned sy’n fwy ymwybodol o’r amgylchedd. 
  • Maya Bimson, Powys – Sefydlodd Maya Zero Carbon Llanidloes Di-Garbon sydd wedi tyfu’n nifer o brosiectau dan arweiniad y gymuned sy’n annog cynaliadwyedd. Drwy ei harweinyddiaeth, mae’r grŵp wedi lleihau allyriadau carbon drwy brosiect Llyfrgell Pethau lle mae pobl yn cael eu hannog i rannu eitemau yn eu cymuned ac wedi rhoi hwb i fioamrywiaeth leol drwy adeiladu a gosod blychau nythu ar gyfer gwenoliaid duon. 
  • Grŵp Coetir Cymunedol Llyn Parc Mawr, Ynys Môn – Yn gofalu am goetir unigryw, mae’r grŵp yn diogelu tirwedd sy’n llawn bywyd gwyllt a phwysigrwydd ecolegol. Drwy ymdrechion gwirfoddolwyr gweithgar, mae’r grŵp yn gwarchod cynefinoedd ac yn sicrhau bod y coetir yn parhau i fod yn hygyrch ac yn cael ei werthfawrogi. 
  • Andrew “Ted” Williams, Sir Gaerfyrddin – Mae Ted wedi rhoi o’i amser i drawsnewid cyrtiau tennis sydd wedi cael eu hesgeuluso a’r ardaloedd cyfagos ym Mharc y Betws, gan ei droi’n ardd gymunedol a bywyd gwyllt ffyniannus. Mae gwaith Ted yn dod â phobl at ei gilydd, gan gynnwys ysgolheigion, gwirfoddolwyr a busnesau lleol, ac yn gwella arferion garddio cynaliadwy.  

Gwobr Cymydog Arbennig

Mae’r wobr hon yn cael ei dyfarnu i unigolyn sy’n helpu i wneud ei gymdogaeth yn lle gwell i fyw neu weithio ynddo, naill ai’n rheolaidd neu drwy un weithred garedig. 

  • Julian Thomas, Sir Benfro – Mae Julian bob amser wrth law i helpu yn ei gymuned wledig yn Llanddewi Felffre, mae bob amser yn barod gyda JCB pryd bynnag y bydd angen cymorth ar unrhyw un. O gael gwared ar goed sydd wedi disgyn ar ôl storm drom i ddanfon coed tân i gymdogion, mae Julian wastad yn camu i mewn ac yn gweithredu hyd yn oed cyn i rywun ofyn iddo wneud hynny. 
  • Kelly Hayes, Torfaen – Wrth galon Pont-y-pŵl, mae Kelly wedi dod yn sbardun dros garedigrwydd ac ysbryd cymunedol. A hithau’n eiriolwr diflino dros y bobl o’i chwmpas, mae hi’n arwain mentrau fel trefnu blychau elusennol Nadolig i deuluoedd mewn angen ac yn hyrwyddo achosion fel SANDS, gan ennill enw da iddi hi ei hun ymysg cymdogion fel gwir biler o’r gymuned sy’n haeddu cydnabyddiaeth. 
  • Delwen Williams, Sir Benfro – Ar ôl cyrraedd Saundersfoot yn 2023, sefydlodd Delwen, sy’n gyn athrawes gerdd, Gôr y Môr. Gan ddod â menywod 50 oed a hŷn at ei gilydd, mae’r grŵp wedi dod yn llawer mwy na chôr, gan gynnig cyfeillgarwch, cysylltiad ac ymdeimlad newydd o berthyn.  
  • Sally Thomas, Merthyr Tudful – Mae Sally yn mynd yr ail filltir i roi cymorth i bobl eraill yn ei chymuned, gan gefnogi cymdogion drwy fynd â nhw i apwyntiadau a darparu cymorth emosiynol y mae mawr ei angen arnynt. Mae hi bob amser yn barod i helpu ac mae’n rhoi o’i hamser i ofalu am bobl eraill pan fyddan nhw’n sâl neu wedi cael anaf.  

Gwobr Gwirfoddoli

Mae’r wobr hon yn cael ei dyfarnu i unigolyn sy’n gwneud gwahaniaeth nodedig yn y gymuned drwy roi o’i amser yn wirfoddol i helpu eraill. 

  • Christopher Rees, Sober Ninjas, Gwynedd – Wedi’i ysbrydoli gan ei heriau iechyd ei hun a’i frwydrau â dibyniaeth, sefydlodd Christopher gymuned Sober Ninjas ac mae’n rhoi o’i amser i gefnogi pobl eraill mewn argyfwng. Sefydlodd Christopher Gaffi’r Ogia hefyd, gan gynnig lle diogel i ddynion o bob oed siarad yn agored am eu hiechyd meddwl. 
  • Wyn Thomas, Ceredigion – Yn gyn athro ysgol, mae Wyn yn ffigwr amlwg ac ymroddedig yng nghymuned Castell Newydd Emlyn. Mae’n gwirfoddoli ar draws sawl pwyllgor, gan gynnwys Cymdeithas Cŵn Defaid Castellnewydd Emlyn a chlwb rygbi lleol. Mae Wyn hefyd wedi chwarae rhan bwysig, yn lleol, yn ymgyrch codi arian Eisteddfod y Garreg Las. 
  • Kaz Jefferies, Sir Gaerfyrddin – Ar ôl colli ei chlyw fel oedolyn a dysgu Iaith Arwyddion Prydain, mae Kaz yn helpu i redeg Canolfan Llanelli ar gyfer Pobl Fyddar ac yn ymrwymo oriau lawer o’i hwythnos i wirfoddoli dros y grŵp. Mae’r Ganolfan yn dysgu Iaith Arwyddion Prydain i bobl o bob oed ac yn darparu amgylchedd cefnogol i’r gymuned fyddar a phobl sy’n gallu clywed ddod at ei gilydd. 
  • Jack Bridger, Pen-y-bont ar Ogwr – Angerdd dros gerddoriaeth a wnaeth i Jack ffurfio Cerddorfa Gymunedol Porthcawl pan oedd yn 15 oed. 12 mlynedd yn ddiweddarach, mae gan y Gerddorfa 70 o aelodau sy’n chwarae mewn digwyddiadau cymunedol, cartrefi nyrsio ac yn trefnu cyngherddau ar gyfer y gymuned. 

Gwobr Arwr Ifanc

Mae’r wobr hon yn cael ei dyfarnu i unigolyn neu grŵp o bobl ifanc o dan 16 oed, sydd wedi cael effaith gadarnhaol yn eu cymuned neu sydd wedi cyflawni rhywbeth eithriadol. 

  • Maisie Humphreys, Ceredigion – Dechreuodd taith codi arian Maisie o awydd i brynu offer synhwyraidd i’w chwaer fach a thrawsnewidiodd yn angen i helpu ei chymuned. Yn 11 oed, mae Maisie wedi annog, cymell ac ysbrydoli ymdrechion codi arian ac mae hi’n trefnu’r ail ‘Nel’s Rainbow Run’. 
  • Macy Grace Bates, Gwynedd – Mae Macy wedi bod yn codi arian ers pan oedd hi’n saith oed, ac erbyn hyn mae hi’n 14 oed ac wedi codi degau o filoedd o bunnoedd i elusen. O drefnu partïon plant, rhoi hamperi i’r cartref preswyl lleol a chymryd rhan mewn digwyddiadau elusennol, mae Macy yn rhoi help llaw i unrhyw un mewn angen. 
  • Morgan Mace, Gwynedd – Yn angerddol dros gysylltu cymunedau gwledig ynysig, mae Morgan wedi cydlynu ymgyrch i adfer rheilffordd hanesyddol ar Reilffordd Sir Gaernarfon. Mae Morgan yn cymryd yr awenau ac mae wedi cysylltu ag adrannau’r llywodraeth gyda chwestiynau ac wedi cynnal trafodaethau gyda gwleidyddion lleol, ar lefel sirol a chenedlaethol, am y prosiect. 
  • Noa-Rose Alderman, Caerffili – Mae Noa-Rose, sy’n saith oed, wedi goroesi llid yr ymennydd ac wedi trawsnewid ei thaith yn genhadaeth i godi ymwybyddiaeth a phobl eraill. Mae Noa-Rose wedi codi miloedd o bunnoedd i Meningitis Now ac mae hyd yn oed wedi herio ei hun i ddringo mynydd Pen y Fan. 

CH

Follow for more

Latest from the Media Centre

All news

Search by Tag:

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: